Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o leiaf, y mwyafrif o'r mesurau hyny a gymeradwyir ganddo ef ei hun. Edrychir ar lafur ac ymdrech egnïol ymgeisydd am gynnrychiolaeth ei fwrdeisdref neu ei sir fel un rheswm ychwanegol at ei gymhwysderau personol dros wneyd pob peth a ellir o'i blaid; ac, yn wir, anaml y gall neb ennill zêl a brwdfrydedd yr etholwyr dros ei achos heb iddo ef ei hun yn gyntaf arddangos ymröad diflino ymhlaid ei ymgeisyddiaeth. Ond mor rhyfedd ydyw y ffaith mai càn gynted ag y dengys dyn ei fod yn awyddus am gael ei wneyd yn flaenor eglwysig, yr un foment fe'i teflir o'r neilldu gan ei gyd-aelodau, gan nad beth fyddont ei gymhwysderau personol. Yr hyn sydd yn fywyd ac yn gymhwysder anhebgorol bron mewn un amgylchiad, sydd yn farwolaeth ac yn ddinystr yn yr amgylchiad arall. Ymddengys, yn ol sefyllfa pethau, mai un o'r prif gymhwysderau mewn dyn tuag at fod yn flaenor ydyw, na freuddwydiodd ac na ddychymygodd erioed am yr anrhydedd,—leiaf nas amlygodd ei fod wedi breuddwydio neu ddychymygu am hyny. Gall un fod â'i lygad ar y swydd am flynyddau, ac wedi ymbarotoi yn ddyfal ar ei chyfer; ond os bydd yn gall ac yn meddwl llwyddo, rhaid iddo gadw ei gyfrinach i gyd iddo ef ei hun; oblegid i'r graddau yr amlyga i'r frawdoliaeth ei ddeisyfiad, i'r un graddau y bydd ei ragolygon yn lleihâu.

Beth all fod y rheswm am hyn, nid ydym yn cymeryd arnom fod yn alluog i ddyfalu. A oes mwy o jealousy ynglŷn â chrefydd nag â gwleidyddiaeth?