Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai yn ddrwg genym orfod credu hyny. Gall rhywun awgrymu fod y gwahaniaeth rhwng un yn ceisio swydd eglwysig ac un yn ceisio eisteddle seneddol yn gorwedd yn natur y ddwy swydd: un yn ysbrydol, a'r llall o'r ddaear yn ddaearol. Ond, attolwg, beth a ddywedwn am un yn cynnyg ei hun yn bregethwr? Hyd y gwyddom ni, ni ddarfu i'r ffaith fod un yn cynnyg ei hun yn bregethwr beri i neb feddwl yn llai o hono, na bod yn un rhwystr iddo, os byddai pobpeth arall yn foddhäol. Ac onid ydyw yn bosibl i anghenrhaid gael ei osod ar ddyn, ac mai gwae iddo oni flaenora, yn gystal ag oni phregetha yr efengyl? Nid ydym yn anghofio y cymerir yn ganiatäol fod yr eglwys yn gwneyd ei dyledswydd trwy weddïo am gyfarwyddyd, a bod rhyw arweiniad Dwyfol i'w ddysgwyl ganddi er mwyn syrthio ar y dynion da eu gair. Ond ar yr un pryd nid allwn gau ein llygaid ar y ffaith fod llawer o gamgymeriadau yn cael eu gwneyd yn yr amgylchiadau hyn. Oni ddewisir dynion yn fynych yn flaenoriaid nad ŵyr yr eglwys nemawr am eu golygiadau ar y pynciau y teimlir y dyddordeb mwyaf ynddynt? Onid oes amryw wedi iddynt fod am ychydig amser yn y swydd, a chael cyfleusdra i egluro beth oeddynt, yn dangos yn rhy amlwg nad ydynt yn cynnrychioli teimladau na syniadau yr eglwys y maent yn arweinwyr proffesedig iddi? Ac onid oes eraill yn amlygu mai pwynt uchaf eu gweithgarwch gyda symudiadau pwysicaf yr eglwys ydyw bod yn oddefol—bod yn ôloriaid? Ac eto