Er nad oes gysylltiad uniongyrchol rhwng y sylwadau uchod â dewisiad blaenoriaid "capel William Thomas," fel y gelwid ef gan blant y gymydogaeth; hyny, pa fodd bynag, fu yr achlysur i ni eu hysgrifenu. Yr oedd pob lle i feddwl fod yr eglwys wedi gwrandaw i bwrpas ar gynghorion William Thomas, ac edrychid ar yr amgylchiad fel un o'r pwysigrwydd mwyaf. Ni chollodd George Rhodric o Bant y Draenog yr un cyfleusdra i awgrymu ei gymhwysder diammheuol ei hun i'r swydd. Gyda y rhai a ystyriai fel ei edmygwyr, ni phetrusai siarad yn eglur; ond gydag eraill nad oeddynt mor iach yn y ffydd ddraenogaidd, boddlonai ar arddangos cymaint o garedigrwydd ag a fedrai, a mwy o grefyddolder nag a feddai. Sylwyd hefyd gan y craff fod Siôr, heblaw dyfod yn gyson a difwlch i foddion gras, yn ymddangos yn eu mwynhâu tu hwnt i bobpeth, yn gymaint felly nes cynnyrchu rhyw ledneisrwydd caruaidd yn ei ysbryd, yr hwn a ymweithiai hyd i flaenau ei fysedd, ac na fyddai foddlawn heb gael ysgwyd dwylaw a phôb cyflawn aelod, agos, wrth ddyfod allan o'r capel. Deuddydd cyn y dewisiad, yr oedd ei ragolygon mor obeithiol fel y synwyd ei brentis gan ei yınddangosiad siriol. Cyn i'r prentis gael dechre gweithio ar ol brecwest, dywedai ei feistr wrtho, "Bob, f'aset ti'n leicio cael walk heddyw bore?" "B'aswn i wir, syr," ebe Bob. Wel, dydi hi ddim ond pedair milldir o ffordd. Cymer y ddeunaw 'ma, a cher' i shop Mr Pugh y
Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/97
Gwedd