printer, a gofyn am y Dyddiadur gore—un deunaw, cofia. Paid a chymryd arnat i bwy mae o."
"O'r gore, syr; dyddiadur 'gethwr ydach chi'n feddwl ynte, a lastic arno fo? " "Un deunaw yr ydw i'n deyd i ti. Paid a bod yn hir."
Yr oedd Bob yn meddu mwy o gyfrwysdra a chraffder nag a roddid credyd iddo gan Rhodric; ac nid cynt yr oedd allan o olwg ei feistr nag y dechreuai ysgrwtian a chodi ei ysgwydd chwith gan wincian yn gyfrwysddrwg a'i ddau lygad bob yn ail, a siarad âg ef ei hun, "Wel, yr hen law, mi all'sech ch'i safio y ddeunaw 'ma, 'dwy'n meddwl, os ydi'n nhad yn gw'bod rh'wbeth. Y ch'i yn flaenor, wir! Mi fyddwch yn o hen.! "Gwnaeth Bob ei neges yn rhagorol ac mewn byr amser; a phan ddychwelodd, cafodd ei feistr yn ei ddysgwyl, ac wedi llwytho ei bibell ond heb ei thanio—nid ei getyn a arferai wrth ei waith, ond ei bibell hir yr hon a arferai yn unig ar achlysuron neillduol. Gofynoid, "Gês ti o, Bob?"
"Do, syr."
"Ddaru Mr. Pugh ofyn i ti i bwy yr oedd o?"
"Naddo, syr, ond ddyliwn y fod o'n dallt," ebe Bob, yn anwyliadwrus.
"Dallt bybe?" ebe ei feistr.
"Dallt fod rhwfun eisio gweld hanes у ffeirie a phethe felly," ebe Bob, gan osgoi y cwestiwn.
"Ho!" ebe Rhodric.
Cymerodd y dilledydd gader a gosododd hi o flaen