erioed yn well, ac na fuasai yntau chwaith erioed mor amyneddgar yn egluro. Gellid meddwl fod y dyn, druan, cyn mynd, am roi i ni yr hyn oll a wyddai, ac am ei arllwys i'n pennau y cwbl ar y tro.
Wedi gorffen y wers, aethpwyd i ysgrifennu. Yr oedd Mr. Hamel wedi paratoi samplau newydd sbon ar gyfer y diwrnod hwnnw, ac wedi ysgrifennu arnynt mewn llaw fras brydferth "Ffrainc, Alsas, Ffrainc, Alsas." Yr oeddynt fel baneri bychain yn chwifio o gylch y dosbarth, wedi eu hongian wrth farrau ein desgiau. O, fel yr oedd pob un o honom ar ei oreu, a dyna ddistawrwydd! Ni chlywid dim ond llithriad y pinnau ar y papur. Un waith, daeth aderyn i mewn, ond ni wnaeth neb sylw o hono, dim hyd yn oed y plant bach oedd mor ddiwyd yn ysgrifennu eu strôcs,—o galon ac o gydwybod, fel pe baent hwythau hefyd yn ysgrifennu Ffrangeg. Ar do'r ysgol, yr oedd colomennod yn canu eu cŵ-cŵ leddf, a meddyliwn ynof fy hun wrth wrando arnynt:
"Tybed a wna'r bobl yna i'r colomennod hefyd ganu Ellmyneg?
O dro i dro, pan godwn fy mhen o'm papur, gwelwn Mr. Hamel heb symud yn ei gadair yn syllu ar y pethau o'i gylch fel pe dymunai gario yn ei gof yr ystafell fechan i gyd. Er ys deugain mlynedd yr oedd yno yn yr un lle, y cyntedd o'i flaen ac yna'r dosbarth. Ond yr oedd y meinciau a'r desgiau, o fynych eistedd a phwyso arnynt, wedi ymloewi, yr oedd y goeden gnau ar y clôs wedi tyfu, a'r goeden hops a blanasai ef ei hun erbyn hyn yn garlantu'r ffenestr cyfuwch â'r to. Ing calon i'r dyn druan oedd meddwl gadael y pethau hyn i gyd, a chlywed ei chwaer