Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Popeth newydd, dedwydd da! Daeth yn arferiad gan y bobl fynd â'u hyd i'r melinau ager, ac aeth y melinau gwynt, druain, yn ddiwaith. Am beth amser, ceisiasant ymladd, eithr yr ager oedd y cryfaf, ac ysywaeth, gorfu iddynt oll, y naill ar ol y llall, gau. Ni welid yn dod mwyach yr asynod bychain. Gwerthodd y gwragedd glandeg eu croesau aur. Dim mwyach o'r gwin peraidd! Dim mwyach o'r ddawns! Yn ofer y chwythai gwynt y De; safai'r adenydd yn llonydd. Yna, ryw ddydd braf, parodd yr awdurdodau dynnu'r hen furddynau i lawr, ac yn eu lle plannwyd y winwydden a'r olewydd.

Eithr ynghanol y dymchwel i gyd, yr oedd un felin wedi dal ei thir, ac yn parhau i droi ar ei bryncyn, yn nannedd y melinau ager. Melin Henri Roland oedd, yr ydym yn awr ar fedr dadlennu ei hanes.

Hen felinydd oedd Henri Roland, yn byw yn y blawd ers trigain mlynedd, ac yn ddigllawn oherwydd cyflwr pethau. Parasai sefydlu'r melinau ager iddo fynd fel un ynfyd. Am wyth niwrnod gwelwyd ef yn rhedeg drwy y pentref, gan gyffroi y bobl o'i gylch, a chan weiddi â'i holl egni y ceisid gwenwyno'r wlad â blawd y melinau ager. "Nac ewch i lawr yna," meddai. "Er mwyn gwneuthur bara, defnyddia'r lladron yma ager—dyfais y diafol, gweithiaf innau gyda gwynt y De a gwynt y mynydd, anadl y Duw da." Ac felly y darganfyddai lu o eiriau gwych o glod i'r melinau gwynt, eithr nid oedd neb a'i gwrandawai.

Yna, o fawr ddigllonedd, caeodd yr hen ŵr ei hun yn ei felin, a bu byw wrtho'i hun fel creadur anwar. Ni fynnai gadw yn ei ymyl hyd yn oed ei wyres fechan Mari,—plentyn