Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dderbyniad a roddes i mi! Amhosibl oedd cael ganddo agor ei ddrws. Eglurais iddo fy rhesymau oreu y medrwn trwy dwll y clo; a'r holl amser tra siaradwn, yno'r oedd yr hen filain o gath deneu, yn chwythu fel diafol uwch fy mhen.

Ni roddes yr hen ŵr amser i mi orffen, a gwaeddodd arnaf yn dra anfoesgar am ddychwel at fy mhibell; os oeddwn yn awyddus i briodi fy mab, mai gwell a fyddai i mi chwilio ymhlith merched y melinau ager. Dychmygwch fel y berwai fy ngwaed wrth glywed y geiriau ffôl hyn, eithr ar yr un pryd yr oeddwn yn ddigon call i dewi, a chan adael yr hen ynfytyn wrth ei faen melin, dychwelais i adrodd wrth y plant mor aflwyddiannus y buaswn. Ni fedrent hwy, druain, gredu'r peth. Gofynasant i mi am ganiatâd i fynd ill dau gyda'i gilydd i fyny i'r felin i siarad â'r tadcu. Ni feddwn y gwroldeb i wrthod, ac ar unwaith, wele'r ddau i ffwrdd.

Pan gyraeddasant i fyny yno yr oedd Henri Roland newydd fynd allan. Yr oedd y drws wedi ei ddwbl gloi, ond wrth ymadael, gadawsai'r hen ŵr ei ysgol o'r tu allan, ac yn y fan, cafodd y plant y syniad o fynd i mewn drwy'r ffenestr, er mwyn edrych beth oedd yn y felin enwog hon.

Syndod! Yr oedd y felin yn wag. Dim sach, dim gronyn o yd, dim blawdyn ar y muriau nac ar we'r pryf copyn. Ni chlywid hyd yn oed yr arogl hyfryd-gynnes hwnnw o wenith wedi ei falu a leinw felinau. Gorchuddid y trawst gan lwch, ac arno cysgai'r gath fawr, deneu.

Yr un olwg resynus a gwrthodedig oedd ar yr ystafell isaf, gwely gwael, amryw garpiau, darn o fara ar un o ffyn yr ysgol; a thrachefn mewn congl, tair neu bedair sach dyllog, a graean a phridd gwyn yn llifo allan ohonynt.