cyflwr drwg yr heolydd. O'r diwedd, tua thri o'r gloch, tra oedd yr wybren wedi ei golchi, a'r mynydd yn disgleirio gan ddŵr a heulwen, ynghanol sŵn diferiad y dail a llif yr afonydd llawnion, clywais glychau'r mul, mor llawen ac mor fyw â chlychau'r eglwys fore'r Pasg. Eithr nid y gwas bach na'r hen Nora a'i harweiniai. "Pwy?" meddwch chwi. Stéphanette, y ferch, fy mhlant! Stéphanette ei hunan, yn eistedd yn syth rhwng y sacheidiau coed, yn wridog gan awyr y mynydd, a dylanwad adfywiol yr ystorm. Yr oedd y gwas bach yn anhwylus, modryb Nora ar ei gwyliau yn nhai ei phlant. Dywedodd y dlos Stéphanette hyn oll wrthyf tra disgynnai oddiar gefn ei mul; ac hefyd iddi hithau gyrraedd yn hwyr am golli ohoni ei ffordd; eithr o'i gweld yn ei dillad dydd Sul, gyda'i rhuban blodeuog, ei gwisg ddisglair a'i rhwydwaith, ymddangosai yn debycach ei bod yn hwyr oherwydd bod mewn rhyw ddawns, na phe bai wedi bod yn chwilio ei ffordd yn yr allt. O'r un dlos! Ni flinai fy llygaid edrych arni. Gwir nas gwelswn erioed mor agos. Weithiau, yn y gaeaf, pan fyddai'r praidd wedi dod i lawr i'r dyffryn, a minnau yn mynd i mewn i'r ffermdy yn yr hwyr i swper, ai drwy yr ystafell yn frysiog, heb braidd siarad â'r gwasanaeth-ddynion, bob amser yn wych ei gwisg ac yn dra balch. Ac yn awr, yr oedd gyda mi yno o'm blaen, i mi yn unig! Onid oedd hyn yn ddigon i beri i un golli ei ben?
Wedi tynnu'r bwyd o'r fasged, dechreuodd Stéphanette edrych mewn cywreinrwydd o'i chwmpas. Gan gydio yn ei gwisg ddydd Sul, gain, rhag ei difwyno, aeth i mewn i'r gorlan; dymunodd weld y gongl lle y cysgwn, y gwely gwellt a'r croen dafad, fy nghlog mawr yn hongian ar y mur, fy nryll, fy ngharreg dân. Rhoddai hyn oll fwynhad iddi.