Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly, yma 'rwyt ti'n byw, fugail bach? Mor annifyr yw arnat, bob amser wrthyt dy hun! Beth fyddi di'n 'i wneuthur? Am ba beth y byddi di'n meddwl?

Bu arnaf awydd ateb,—"Am danoch chi, meistres "; ac ni fuaswn wedi dywedyd anwiredd, ond yr oeddwn mor gynhyrfus fy nheimlad fel na fedrwn gael gair allan. Credaf, yn wir, y deallai hi hynny, a bod yr un ystrywgar yn cymryd pleser i ddyblu fy mhoenedigaeth â'i direidi.

A'th gariad, fugail, a fydd hi'n dod i fyny i'th weld weithiau? Rhaid mai'r afr aur yw hi, neu Estérel, un o'r tylwyth teg, na red ond i ben mynyddoedd."

A thra siaradai â mi, ymddangosai hithau fel un o'r tylwyth teg, â'i chwerthiniad iachus, ei phen ar dro, a'i brys i fynd, a wnai ei hymweliad fel rhyw ddrychiolaeth.

'Ffarwel, fugail!"

Ffarwel, meistres!"

Ac wele hi i ffwrdd, gan ddwyn ei basgedi gweigion.

Fel y diflannai i lawr hyd y llwybr, teimlwn fel pe bai'r cerrig a dreiglai dan draed y mul, yn syrthio un ac un ar fy nghalon. Gwrandewais arnynt yn hir, hir, ac hyd ddiwedd y dydd safwn fel un yng nghwsg, heb feiddio symud rhag peri hedeg o'm breuddwyd. Tua'r hwyr, pan oedd y gorwelion yn dechreu glasu, a'r defaid yn tyrru at ei gilydd gan frefu er mwyn mynd i mewn i'r gorlan, clywn rywun ar y goriwaered yn fy ngalw, a gwelais Stéphanette yn ymddangos, nid mwyach yn chwerthin fel o'r blaen, eithr yn crynu gan ofn a lleithder ac oerfel. Ar waelod y bryn, meddai, gwelodd fod yr afon yn llawn gan law yr ystorm, ac wrth geisio mynd trwyddi ar garlam, iddi fod bron