â boddi. Hyn oedd yn ofnadwy, nad gwiw iddi ar yr awr honno o'r nos feddwl am ddychwelyd i'r fferm, oherwydd am yr heol fawr, ni feiddiai fy meistres fynd y ffordd honno ei hun, a minnau, ni fedrwn adael fy mhraidd. Poenid hi yn enbyd gan y syniad o dreulio'r nos ar y mynydd, yn bennaf oherwydd anesmwythder meddwl ei pherthynasau. Ceisiais innau ei chysuro oreu y medrwn:
Yng Ngorffennaf mae'r nos yn fyr, meistres. Dim ond munud anhyfryd yw.'
Ac ar frys, mi a gynheuais dân mawr er mwyn sychu ei thraed a'i gwisg a wlychesid yn nyfroedd yr afon. Yna rhoddais o'i blaen laeth a theisennau, eithr ni feddyliai'r fechan am dwymo nac am fwyta, ac wrth weld y dagrau mawrion a lanwai ei llygaid yr oedd arnaf innau hefyd awydd wylo.
Erbyn hyn, deuthai y nos mewn gwirionedd. Nid oedd bellach ar bennau y mynyddoedd namyn llwch o heulwen—rhyw darth o oleuni ar ymylon y machlud. Gofynnais i'r fechan fynd i mewn i'r gorlan i orffwys. Wedi taenu croen prydferth hollol newydd ar y gwellt glân, dymunais iddi noswaith dda, ac euthum i eistedd y tu allan, o flaen y drws. Duw sydd dyst i mi, er y tân o gariad a losgai fy ngwaed, na ddaeth i mi yr un meddwl ffiaidd, dim ond balchter mawr wrth feddwl bod mewn congl o'r gorlan—yn ymyl y praidd a edrychai arni'n cysgu, gyda chymaint cywreinrwydd—ferch fy meistr a'm meistres, fel dafad wynnach a gwerthfawrocach na'r lleill i gyd,—yn gorwedd, wedi ei hymddiried i'm gofal i. Erioed ni welswn ymddangos o'r nefoedd ddyfned na'r sêr ddisgleiried. Yn sydyn, agorodd drws y gorlan, ac ymddangosodd Stéphanette.