Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyna dyrfa sydd yna! Onid ydynt yn hardd! Erioed ni welais gynifer ohonynt! A wyddost eu henwau, fugail?" O, gwn, meistres. Gwelwch! Yn union uwch ein pen wele Heol Sant Iago.[1] A o Ffrainc yn syth dros yr Ysbaen. Sant Iago a'i gwnaeth er mwyn dangos ei ffordd i'r dewr Siarlymaen tra rhyfelai â'r Sarasiniaid. Ymhellach ymlaen wele Gerbyd yr Eneidiau[2] gyda'i bedair seren ddisglair. Y tair seren ar y blaen yw y Tri Anifail,[3] a'r un fechan sydd gyferbyn â'r drydedd yw yr Aradrwr.[4] A welwch chi oddiamgylch ymhobman y nifer mawr yma o sêr yn syrthio? Eneidiau ydynt na fyn Duw mo'u cael yn Ei nef. Ychydig yn is i lawr, wele'r Rhaca neu'r Tri Brenin.[5] Hwy sy'n gwneuthur y tro i ni'r bugeiliaid yn lle cloc.

Dim ond edrych arnynt, gwn ei bod awr wedi hanner nos. Ychydig yn is i lawr, o hyd i gyfeiriad y De, gwena Siôn Milan[6]—y ddisgleiriaf o'r sêr. Wele'r hyn a edrydd y bugeiliaid am y seren yma. Dywedir i Siôn Milan un noson, gyda'r Tri Brenin a'r Cywdy, gael eu gwahodd i neithior seren o blith eu cydnabod. Mewn mwy o frys, cychwynnodd y Cywdy, meddir, ynghyntaf, a chymerodd y ffordd uchaf. Edrychwch arni i fyny fry, ar ben draw'r wybren. Croesodd y Tri Brenin yn is i lawr a daliasant hi. Eithr yr oedd Siôn Milan ddiog, wedi cysgu. yn rhy hir, ymhell ar ol, ac mewn digllonedd, er mwyn peri iddynt aros, efe a daflodd atynt ei ffon. Dyna paham y gelwir y Tri Brenin yn Ffon Siôn Milan hefyd. Eithr y dlysaf o'r holl sêr, meistres, yw yr eiddom ni,—Seren y

  1. Y Llwybr Llaethog.
  2. Yr Arth Fawr.
  3. Sêr Blaena'r Arth.
  4. Yr Aradrwr
  5. Orion.
  6. Sirius.