Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bugail, a oleua i ni gyda'r wawr pan ddygom allan ein praidd, ac hefyd yn yr hwyr pan ddychwelwn â hwy. Galwn hi hefyd yn Magelon, y dlos Fagelon, a red ar ol Pedro Profens,[1] ac a'i prioda bob saith mlynedd."

"Beth! fugail, a oes ynte briodasau ymhlith y sêr?" "O oes, meistres."

A thra ceisiwn esbonio iddi beth oedd y priodasau hyn, teimlwn rywbeth oeraidd, pêr yn pwyso'n ysgafn ar fy ysgwydd. Ei phen, wedi trymhau gan gwsg, a orffwysai arnaf i gyda rhugl-drwst hyfryd o rubanau, o eddi, ac o wallt tonnog. Arhosodd felly, heb symud hyd y funud y llwydai sêr y ffurfafen, yn cael eu diffoddi gydag esgyniad y dydd. A syllwn innau arni'n cysgu, â'm henaid yn derfysglyd, eithr yn cael fy sanctaidd warchod gan y noson glaer na roddes i mi erioed namyn meddyliau pur. O'n cylch, ai y sêr ymlaen ar eu hymdaith ddistaw, yn ufudd megis praidd mawr; ac weithiau dychmygwn fod un o'r sêr yma, y dlysaf, y ddisgleiriaf, wedi colli ei ffordd, ac wedi dod a phwyso ei phen ar fy ysgwydd i gysgu.

  1. Sadwrn.