Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaen eu canghennau. Ymagorai'r banad! euraid ar ei llwybr, ac aroglent mor bêr ag y gallent. Yr oedd yr holl fynydd yn cadw gwyl iddi.

O, mor hapus oedd yr afr! Dim rhaff mwy, dim o'r post, dim i'w rhwystro i brancio ac i bori yn ol ei hafiaith. Dyna lle'r oedd porfa! bron cyn daled â'i chyrn. A'r fath borfa! Peraroglus, main, yn cynnwys mil o lysiau,—pur wahanol i laswellt y cae. A'r blodau ynte! Clychau mawr, glas, bysedd y cwn, hir, lliw porffor, fforest gyfan o flodau gwylltion, yn orlawn o sudd rhagorol.

Yn hanner meddw, ymroliai yr afr wen i mewn yno, ei choesau yn yr awyr, ac ymdreiglai bendramwnwgl ar y llethr, gyda'r dail syrthiedig a'r cnau ceffylau. Yna'n sydyn, codai gydag un naid ar ei thraed. Wele hi i ffwrdd, ei phen yn estynedig, drwy ganol y drain a'r llwyni, yn awr ar fryncyn, yn awr ar waelod rhewyn, i fyny i lawr, ymhobman. Gellid meddwl bod deg o eifr Mr. Silin ar y mynydd.

Nid oedd ofn dim ar Wenno.

Ag un naid ai dros y nentydd, a gwlychid hi wrth eu croesi â llwch llaith ac ewyn. Yna, yn diferu, gorweddai yn ei hyd ar ryw graig wastad i'w sychu gan yr haul. Un tro wrth ddod i ymyl darn gwastad uchel, a meillionen rhwng ei dannedd, gwelodd obry ar y gwastadedd dŷ Mr. Silin, a'r cae bach o'i ol. Parodd yr olwg arno iddi chwerthin hyd ddagrau. "Onid yw yn fach!" ebe hi. "Sut y medrais fyw o'i fewn?"

Druan a hi! O'i gweld ei hun ar lan mor uchel credai ei bod o leiaf gymaint â'r byd.

Mewn gair, dydd da a fu hwnnw i afr Mr. Silin. Tua chanol dydd, wrth redeg i'r dde ac i'r aswy, aeth i ganol