Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nifer o ewigod yn bwyta o winwydd gwyllt. Parodd y rhedegydd fechan â'r wisg wen gyffro yn eu plith. Rhoisant iddi'r lle goreu yn y gwinwydd, ac yr oedd y boneddigion oll yn dra serchog. Ymddengys i un ohonynt â chôt ddu ganddo gael y fraint o ennill serch Gwenno. Crwydrodd y ddau gariad gyda'i gilydd drwy y coed am awr neu ddwy, ac os myn neb wybod beth a ddywedent wrth ei gilydd, gofynned i'r nentydd siaradus a lif yng nghudd yn y mwswgl. *** Yn sydyn cododd y gwynt. Aeth y mynydd yn lasddu; y nos ydoedd. "Eisoes!" ebe'r afr fechan, a safodd yn syn.

Obry, ymgollai y caeau mewn niwl. Diflannai cae bach Mr. Silin yn y nudden, ac o'r tŷ ni welid mwy ond y to ac ychydig fwg. Clywodd glychau praidd a gyrchai rhywun, a theimlodd ei henaid yn athrist. Wrth fynd heibio iddi ar ei ymdaith tuag adref, cyffyrddodd hebog â hi â'i adenydd. Crynodd, yna clybuwyd rhu yn y mynydd:

"Hw! Hw!"

Meddyliodd am y blaidd, drwy gydol y dydd ni feddyliasai'r un ffôl am dano o gwbl. Ar yr un foment, o'r dyffryn obry, daeth sain utgorn. Y gŵr da Mr. Silin a wnai ei ymdrech olaf.

"Hw! Hw!" rhuai'r blaidd.

"Dere'n ol! Dere'n ol!" meddai'r utgorn.

Daeth awydd dychwelyd ar Wenno, ond wrth gofio am y post, y rhaff, gwair y cae bach, meddyliodd na allai mwyach ddygymod â'r bywyd hwnnw, ac mai gwell oedd aros.