O'i weld felly, bob amser yn drist ac unig, ni wyddai pobl y fferm beth i'w wneuthur. Ofnid aflwydd. Un tro, wrth y bwrdd, dywedodd ei fam wrtho wedi ei weld â'i lygaid yn llawn dagrau:
"Wel, gwrando, Ian. Os wyt am ei chael wedi'r cwbl, ni a'i rhoddwn i ti."
Gwridodd y tad gan gywilydd, a phlygodd ei ben. Gwnaeth Ian arwydd na fynnai mo honi, ac aeth allan.
O'r dydd hwnnw, newidiodd ei ddull o fyw, gan ymddangos bob amser yn llon er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'w rieni. Gwelid ef eto yn y ddawns, yn y dafarn, yn y chwaraeon. Yn etholiad Fonvieille, efe a arweiniai â'r ffarandôl.
Dywedai'r tad, "Mae wedi gwella." Ond yr oedd gan y fam ei hofnau o hyd, a gwyliai ei phlentyn yn fwy nag erioed. Cysgai Ian gyda'i frawd ieuengaf yn ymyl tai'r pryf sidan. Cododd y fam wely iddi ei hun wrth ochr eu hystafell hwy. Gallai fod eisiau ei gofal ar y pryfed yn ystod y nos.
Daeth gwledd Sant Eli, noddwr y ffermwyr. Llawenydd mawr yn y fferm. Yr oedd yno dŷ agored i bawb, a gwin poeth ddigonedd. Yna'r chwaraeon, y tanau, a'r llwyni danadl llawn llusernau lliwiedig. Byw fyddo Sant Eli! Dawnsid yn ddiddiwedd. Llosgodd y brawd ieuengaf ei gôt newydd. Ymddangosai Ian ei hun yn llawen; ceisiai gan ei fam ddawnsio; wylai'r hen wraig o lawenydd am hyn.
Ganol nos aethpwyd i orffwys. Yr oedd ar bawb eisiau cysgu. Ond ni chysgodd Ian. Dywedai ei frawd ieuengaf ar ol hyn mai ochneidio a wnaethai drwy'r nos.