Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Wers Olaf.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwynt Rhôn fel yng Nghamarg, gan ddiffoddi'r canhwyllau, torri plwm y ffenestri, a hyrddio dwfr y bendithfeydd. Eithr y pruddaf o'r cwbl oedd clochty'r eglwys, yn ddistaw megis colomendy gwag, a'r Tadau, o ddiffyg arian i brynu cloch, yn gorfod galw i'r gwasanaeth boreol gyda chliciau wedi eu gwneuthur o bren almon.

Druain a'r Tadau Gwynion! Gwelaf hwy yn awr, yng ngorymdaith yr Wyl Fawr, yn cerdded yn brudd yn eu dillad clytiog, yn welw a theneu o fyw ar ffrwythau, ac ar eu hol, yr abad, yn cerdded yn ben-isel, yn gas ganddo ddangos i'r haul ei groes ddiaddurn a'i benwisg o liain gwyn wedi ei fwyta gan bryfed. Wylai gwragedd y lle o dosturi yn y rhengoedd, a sisial-chwerthin a wnai'r gwŷr corffol a gariai'r faner, gan gyfeirio at y myneich druain:

"Mae'r bechgyn llawen yn teneuo wrth fyw gyda'i gilydd."

Y ffaith oedd bod y Tadau Gwynion anffodus eu hunain wedi dechreu ymholi onid gwell a fyddai iddynt gymryd eu taith dros y byd, a chwilio porfa bob un drosto'i hun.

Yna, un dydd pan drinid y mater hwn mewn cyfarfod, hysbyswyd y prior fod y brawd Gregori yn dymuno ei glywed gan y cyngor. Y brawd Gregori a ofalai am wartheg y mynachty; hynny yw, treuliai ei ddyddiau i grwydro o glôs i glôs gan yrru o'i flaen ddwy fuwch deneu a geisiai eu porfa rhwng agennau'r llawr cerrig. Ac yntau wedi ei fagu gan hen ferch hanner call o ardal arall, a elwid yn gyffredin Modryb Begon, a'i ddwyn wedyn at y myneich, ni ddysgasai'r dyn druan erioed ddim ond gyrru ei wartheg ac adrodd ei bader; dywedai honno hefyd yn ei dafodiaith ei hun, oherwydd yr oedd ei ymennydd yn galed, a'i feddwl