mor finiog a dagr o blwm. Yr oedd hefyd yn Gristion selog, er ychydig yn freuddwydiol, yn hapus o dan gerydd, ac yn ei ddisgyblu ei hun gydag argyhoeddiad cryf, a dyna freichiau!
Pan welwyd ef yn dod i mewn i ystafell y cyfarfod, yn wirion a hurt, yn moesgyfarch y cwmni gan lusgo'i goes, chwarddodd pawb,—y prior, y canoniaid a'r trysorydd. Dyna'r effaith a gai bob amser pa le bynnag yr ai, gyda'i wyneb llwyd siriol a'r farf gudyn gafr, a'i lygaid diniwed, ond ni hidiai'r brawd Gregori ddim am hynny.
"Barchedigion," meddai mewn tôn ddigrif, gan droi a throi ei gadwyn o gerrig olewydd, "mae'n ddigon gwir mai llestri gweigion sydd yn gwneuthur y sŵn goreu. A gredech chwi fy mod i, gan waghau fy mhen druan, oedd eisoes mor wag, wedi cael gafael ar gynllun a'n tyn ni oll allan o'n trybini. Dyma'r sut. Chwi adwaenech Modryb Begon, y fenyw ragorol a ofalai am danaf pan oeddwn fychan. (Duw gadwo'i henaid, y greadures! 'Roedd hi'n arfer canu hen ganeuon digon isel pan fyddai wedi yfed.) Dywedaf wrthych ynte, Barchedigion, fod Modryb Begon yn ystod ei bywyd yn adnabod llysiau'r mynyddoedd cystal a gwell nag unrhyw hen aderyn o Gorsica. A thua diwedd ei hoes, yr oedd wedi llwyddo i wneuthur trwyth digymar o gymysgu pump neu chwe math o lysiau a gasglem gyda'n gilydd ar y mynyddoedd. Mae blynyddoedd lawer oddiar hynny, ond credaf gyda help Sant Awstin a chaniatad ein Tad abad, y medrwn, o chwilio'n ddyfal, ail-ddarganfod cyfansoddiad y trwyth rhyfedd hwn. Ni byddai rhagor gennym i'w wneuthur ond ei roi mewn poteli a'i werthu dipyn yn ddrud. Yn y modd hwn medrai ein cyfundeb