"O, da iawn. Ond dywedwch eto,—pan brofwch y gwin fel hyn o raid, a ydych yn ei gael yn dda? A ydych yn ei hoffi?"
"Ydwyf, ysywaeth, syr," ebe'r truan, gan wrido. "Er ys dwy noson bellach 'rwyf wedi cael y fath flas hyfryd arno! Y diafol sydd yn chware'r tric hwn â mi, rwy'n siwr. Ac yr wyf wedi penderfynu peidio â chymryd dim o hyn allan ond diferyn i brofi ei nerth ar y dechreu. 'Does dim i'w wneuthur os na fydd y gwin mor rhagorol, os na fydd yn perlio cymaint—"
"Gochelwch hynny," ebe'r prior yn wyllt ar ei draws. "Rhaid gofalu peidio ag anfodloni'r cwsmeriaid. Y cwbl sydd gennych i'w wneuthur yn awr, a chwithau wedi gweld y perigl, yw gwylio arnoch eich hun. Gadewch weld, pa faint sydd eisiau i chwi ei gymryd er mwyn ei brofi? Pymtheg neu ugain defnyn? Dywedwn ugain defnyn. Bydd y diafol yn gyfrwys iawn os deil chwi ag ugain defnyn. Hefyd, rhag digwydd damwain eto, caniatâf i chwi beidio â dod i'r eglwys o hyn allan. Cewch adrodd y gwasanaeth hwyrol yn y ddistyllfa. Ac yn awr, ewch mewn heddwch, Barchedig, ac uwchlaw pob dim, cyfrifwch y defnynnau."
Eithr yn ofer y cyfrifai'r Parchedig y defnynnau. Y diafol a'i daliai, ac nis gollyngai mwyach.
Dyna wasanaeth rhyfedd a glywai y ddistyllfa!
Yn ystod y dydd, ai popeth ymlaen yn iawn. Yr oedd y Tad yn dawel ddigon. Paratoai ei lestri, ei fesurau 15 gwahanai ei lysiau yn ofalus,—llysiau Profens i gyd, rhai pêr, llwyd, danheddog, yn orlawn o bersawr a heulwen.