Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD X

RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF

Richard Tibbot—Lewis Evan, Llanllugan—Herbert Jenkins—James Ingram—James Beaumont— Thomas James, Cerigcadarn—Morgan John Lewis—David Williams, Llysyfronydd Thomas Williams—William Edward,yr Adeiladydd—William Richard—Benjamin Thomas—John Harris, St. Kinox—John Harry, Treamlod—William Edward, Rhydygele—Rhai o'r Adroddiadau a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd.

BYDDAI unrhyw hanes am y diwygiad Methodistaidd yn ei ddechreuad cyntaf, na roddai le mawr i ymdrechion y cynghorwyr, a'u llafur cariad gydag achos Crist, yn dra anghyflawn, ac yn wir yn gamarweiniol. Mewn peiriant, y mae yr olwynion bychain o lawn cymaint pwys, er nad mor amlwg, a'r olwynion mawrion. Y prif olwynion, mor bell ag yr oedd a fynnai dynion a'r peth, yn y diwygiad, oeddynt Rowland, a Harris, a William Williams, Pantycelyn, a Howell Davies. Olwynion bychain, o'u cymharu a'r rhai hyn, oedd y cynghorwyr, er fod rhai o honynt hwythau yn fwy, a rhai yn llai; ond heb eu gwasanaeth a'u cymorth, ni symudasai y peiriant yn ei flaen fel y gwnaeth. Yr ydym yn meddu ar lawer o hanes y rhai pennaf o honynt; gwyddom am eu teithiau, eu peryglon, a'u dyoddefiadau; adnabyddwn eu cymeriadau yn bur drwyadl yn rhinwedd y llythyrau a ysgrifennwyd ganddynt. Yr oeddynt oll yn llawn tan; bedyddiasid hwy yn helaeth ag yspryd yr adfywiad; a meddent ddewrder a barai iddynt gael eu clodfori fel gwroniaid, pe buasai yn cael ei arddangos ar faes y gwaed. Nid oeddynt heb eu gwendidau; pwy sydd? Y mae rhai o'u mympwyon a'u syniadau yn ymddangos i ni yn awr yn dra gwirion; ond nis gellir amheu eu gonestrwydd, eu zêl, a'u teyrngarwch i Grist. Am eraill, nid oes gennym ond eu henwau; prin y ceir unrhyw adgofion o'u hanes yn y cymydogaethau yn mha rai y buont yn llafurio; nid oes cofnod ar gael am ddim a wnaethant ar lyfrau y ddaear; ond sicr yw fod eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd wedi eu croniclo yn fanwl ar y llyfrau fry, a phan y daw yr Iesu i'w ogoneddu yn ei saint, bydd yr hen gynghorwyr Methodistaidd yn adlewyrchu ei glodforedd mor effeithiol a neb pwy bynnag. Dynion diddysg oedd llawer o honynt, cartrefol eu gwisg, plaen eu geiriau, heb fawr caboliad na gwrtaith meddyliol; ond gwnaent i fynnu am bob diffyg trwy eu hymroddiad, a'u llafur, a'u zêl dros y Gwaredwr. Drwg gennym mai hanes ychydig o'r prif gynghorwyr yn unig a ganiatâ ein terfynau i ni roddi.

Un o'r cynghorwyr mwyaf adnabyddus, er efallai nad y mwyaf nodedig ei ddoniau, oedd Richard Tibbot. Ganwyd ef yn Hafodypant, plwyf Llanbrynmair, Ionawr 18, 1718, ac yr oedd yr ieuangaf o chwech o blant. Ymddengys fod ei rieni yn hynod am eu duwioldeb, ac ymunodd Richard a chrefydd cyn ei fod yn llawn pymtheg mlwydd oed, a hynny, yn dra sicr, yn eglwys Annibynol Llanbrynmair. Dywedir iddo ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1738, yn llencyn ieuanc pedair-mlwydd-ar-bymtheg. Nid yw hyn yn golygu y pregethai yn rheolaidd; nid oedd cyfleusterau i hynny ganddo ar y pryd; ond anerchai gynulleidfa yn awr ac yn y man, pan y gofynnai Mr. Lewis Rees ganddo wneyd hynny. Diau fod Richard Tibbot yn un o wrandawyr mwyaf aiddgar Howell Harris, pan yr ymwelodd a'r Gogledd yn 1740, ac y mae yn sicr ddarfod i'w weinidogaeth effro, gyffrous, adael argraff ddofn arno, Tua'r flwyddyn 1741 aeth i ysgol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Ai Lewis Rees, ynte Howell Harris, a'i cymhellodd i gymeryd y cam hwn, ni wyddis. Yn bur fuan ymunodd a'r Methodistiaid. Tybir iddo fod am ryw gymaint o amser yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Llanddowror. Tebygol hefyd ei fod yn cynghori yn nghymdeithasau y Methodistiaid yn rhannau isaf Sir Gaerfyrddin, a'r rhan