Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/543

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

herwydd. Nid yw y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, ac nid ydym ninau yn ein Llyfr wedi ysgrifenu gair am gyflwr Ymneillduwyr Cymru yn flaenorol i'r diwygiad, nad yw yn cael ei gydnabod yn llawn yn y difyniad uchod. Y mae darlun Dr. Thomas o'u cyflwr mor ddu a'r un a dynwyd. Os nad yw egwyddorion marwolaeth i'w gweled yn amlwg yn y pethau a noda efe, rhaid i ni gyfaddef nad ydym yn adnabod arwyddion angau. Y peth cyntaf sydd gan amddiffynwyr Dr. Rees i'w wneyd, os ydynt am lynu wrth eu dadl, yw cywiro Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, a rhoddi Dr. John Thomas, Liverpool, ar yr iawn.

Yn awr, deuwn at daflen Dr. John Evans, ac yn y fan hon y gorwedd cnewullyn y ddadl. Rhoddasom ein rhesymau dros dybio nad yw y daflen yn un y gellir rhoddi ymddiried llwyr ynddi; ac os yw yn cyfeiliorni, ei bod yn gwneyd hyny yn ffafr Ymneillduaeth. Nid oes neb wedi cyffwrdd a'r un o'r rhesymau hyny; felly, rhaid i ni eu hail-adrodd.

(1) Caria yr ystadegau ar eu gwyneb amddifadrwydd o fanylwch; crynhoir amryw eglwysi yn nghyd; wedi enwi dwy neu dair, cawn yn fynych "&c." yn dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir eu henwau, yn cael ei osod i fewn. Ceir un eglwys a chynulleidfa yn cael eu harddangos fel yn wasgaredig dros wlad ddeugain milldir o hyd wrth ugain o led. Efallai y gofynir pa wahaniaeth a wna hyn? Y mae yn gwneyd yr holl wahaniaeth; dengys yr amddifadrwydd manylwch mai cyfrifon ar antur ydynt; a thuedd pob cyfrif felly yw chwyddo y rhif yn ormodol. Er prawf o hyn, difynwn gyfran o erthygl olygyddol y Tyst am Medi 29ain, 1882, ac yn sicr fe gymer yr Annibynwr mwyaf zêlog yr hyn a ddywed y Tyst ar bwnc o'r fath fel gwirionedd. Y mae cyfeiriad cyntaf y sylwadau at y cyfrifon a gasglai Dr. Rees ar y pryd; ond y maent lawn mor gymhwysiadol at gyfrifon Dr. John Evans. Drwg genym weled Dr. Rees yn dywedyd," medd y Tyst, "na fwriada gyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan, ond cyfanswm pob sir. Nis gwyddom a ydyw yn tybied y bydd yn debycach o gael cyfrifon pob lle wrth ddweyd na fwriedir cyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan. Buasem ni yn tybied yn amgen, ac ychydig o bwys a roddem ar gyfrifon na ellir eu cyhoeddi yn y manylion. Ychydig iawn o werth a osodwn ar ystadegaeth yn y cyfanswm, oblegyd heb y manylion nis gellir profi eu cywirdeb; ac nid yn meddiant un dyn y dylai y manylion hyny fod, ond dylent fod yn gyfryw ag y gallo y rhai a'u hamheuo eu profi. . . . Y mae pob ystadegaeth a gymerir ar antur yn agored i fyned yn mhell iawn oddiwrth nod, ac, fel y dywedasom eisioes, nid oes dim y mae dynion yn camgymeryd yn fwy ynddynt na rhif eu cynulleidfaoedd. Byddwn yn tynu 25 y cant oddiwrth gyfrifon a gymerir felly, a gellir yn aml gymeryd 50 y cant, a bod ar yr ochr ddyogelaf." Drachefn cawn: " Nid oes dim mor gamarweiniol a'r cyfrif o eglwysi a chynulleidfaoedd a gymerir ar antur." Felly y dywed y Tyst, ac yr ydym yn cyduno yn hollol. Ychydig o werth sydd mewn ystadegaeth yn y cyfanswm; cyn y gellir ymddiried ynddi, rhaid cael y manylion. Nid yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi manylion; ac yn ol y Tyst, dyogel, o leiaf, fyddai cymeryd 25 y cant oddiwrth y cyfrif a roddir.

(2) Amcan yr ystadegaeth a gymerodd Dr. John Evans oedd dangos pa mor gryf oedd Ymneillduaeth yn y deyrnas ar y pryd, er mwyn cynyrchu ofn yn yr erlidwyr. Ac er mwyn gwneyd hyn, yr oedd yn rhaid dangos y cynulleidfaoedd mor lliosog ac mor barchus ag oedd bosibl. Pe y rhoddid y cyfrif yn llai nag ydoedd, ni fuasai yn ateb y pwrpas; yn wir, buasai yn gwrthweithio y cyfryw bwrpas, ac yn rhoddi arf peryglus yn llaw y gwrthwynebwyr. Am y rheswm yma y dywedir fod nifer penodol o ynadon, ac o rai yn meddu pleidlais yn y sir ac yn y dref, yn perthyn i'r gwahanol gynulleidfaoedd. Oni bai fod yr amcan hwn mewn golwg, buasai y fath ddynodiad yn brawf o falchder dirmygus. Ymddengys i ni felly yn hollol sicr na chyfrifwyd y cynulleidfaoedd yn llai nag oeddynt; ac os oes rhyw gymaint o wyro yn bod, fod y gwyriad o'r tu arall.

Addefir ddarfod i Dr. Rees gyfnewid penawd prif golofn taflen Dr. John Evans, gan osod yn lle number of hearers," "average attendance." Cyfaddefwn yn rhydd," meddai un Annibynwr galluog, "fod y penawd wedi ei gyfnewid." Nis gellid gwadu hyn, oblegyd y mae y daflen ar glawr a chadw yn llyfrgell Dr. Williams, yn Llundain, ac wedi ei photographio yn Y Tadau Methodistaidd. Y mae y cyfnewidiad a wnaed yn un mor bwysig, fel y mae yn newid holl ystyr y golofn; trwy rinwedd y sleight of hand yma y mae cynulleidfa Dyffryn Honddu yn chwyddo o 150 i 300; cynulleidfa Tredwstan o 250 i 500; ac felly trwy y golofn o'r pen i'r gwaelod. I'n bryd ni y mae hyn yn drosedd llenyddol enbyd; nis gallwn ddychymygu am amryfusedd gwaeth. Dysgwyliem yn sicr y byddai ein brodyr parchus, yr Annibynwyr, er eu mwyn eu hunain, yn datgan eu gofid oblegyd i Dr. Rees ymostwng i gyflawni gweithred o'r fath. Ond cawsom ddysgwyl yn ofer. Cydnabyddant y buasai yn dda ganddynt pe buasai y Doctor wedi egluro paham y gwnaeth y cyfnewidiad; ond nid oes air na sillaf yn dynodi galar oblegyd y weithred. Yn wir, ceisir ei gyfiawnhau a'i wyngalchu; ond y mae hyny yn anmhosibl heb allu profi ar yr un pryd nad oes gwahaniaeth hanfodol rhwng gwirionedd a ffalsder.

Goddefer i ni edrych ar y rhesymau a roddir paham y darfu i Dr. Rees, yn lle rhoddi penawd Dr. John Evans, "amcanu dyfeisio penawd" o'i eiddo ei hun, a fuasai yn fynegiad tecach o gynwys y golofn. Nid ydym yn meddwl ei fod wedi llwyddo," meddai un o'i amddiffynwyr, "ond yn hytrach wedi methu." Rhaid mai ystyr hyn yw fod cyfnewidiad Dr. Rees yn gamarweiniol. Y mae yr Ysgrifenydd dywededig am gynyg cyfnewidiad arall yn y penawd, sef rhoddi known adult adherents," yn lle "number of hearers." Yn enw pob synwyr, paham y ceisir gwthio tybiaethau disail i fewn i'r daflen? Ai ni wyddai Dr. John Evans, a'r rhai a gydlafurient âg ef yn y gorchwyl o gasglu y cyfrifon, pa benawd i roddi uwchben gwahanol golofnau eu taflen, yn well na phobl sydd yn byw agos i ddau cant o flynyddoedd ar eu holau? Ond yn awr at y rhesymau dros "ddyfeisio penawd." (1) Y buasai "number of hearers" yn sicr o greu camargraff i feddyliau darllenwyr Cymreig, yn gymaint ag mai rhai heb fod yn aelodau a feddylia y Cymry fynychaf wrth wrandawyr. Nid oes rhith o brawf fod y Cymry yn edrych ar y term "gwrandawyr" mewn goleu gwahanol i'r Saeson. A phe mai hyna oedd amcan Dr. Rees, ni fuasai raid llurgunio y daflen er mwyn ei gyrhaedd; gallesid rhoddi nodiad ar y terfyn fod "hearers Dr. John Evans yn cynwys y gwrandawyr oeddynt yn aelodau, a'r rhai nad oeddynt yn aelodau. Buasai hyn yn syml ac yn onest. (2) Nad yw colofn Dr. John Evans yn rhoddi holl nerth Ymneillduaeth yn Nghymru ar y