y Methodistiaid, yn brawf o sefyllfa crefydd yn y wlad cyn i'r Methodistiaid godi.
(2) Nis gall cant a saith o eglwysi roddi syniad cywir am nerth Ymneillduaeth yn Nghymru, oddigerth ein bod yn gwybod rhif yr aelodau, a'r gwrandawyr perthynol iddynt. Pe y gwnaem bob eglwys yn haner cant o aelodau, ni fyddai rhif cyfanswm yr aelodau ond ychydig dros bum mil. Eithr ofer dyfalu; gallai y rhif ar gyfartaledd fod yn fwy; ond y mae yn ymddangos yn llawn mor debyg ei fod yn llai. Dywedir yn y llythyr fod y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd Sir Aberteifi yn rhai mawrion. Geiriau cymharol yw mawr a bach; a rhaid i ni beidio tybio fod cynulleidfa fawr Edmund Jones yn gyffelyb mewn rhif i gynulleidfa fawr yn ein dyddiau ni. Adwaenem amryw o hen gapelau yr Ymneillduwyr yn Sir Aberteifi; rhai bychain, culion, diolwg oeddynt, wedi eu gosod mewn cymydogaethau gwledig, gan mwyaf, heb bentref, chwaethach tref, yn gyfagos, a chredwn mai cryn gamp a fuasai gwthio cynulleidfa o gant a haner o ddynion i un o honynt.
Yn wir, i'r Methodistiaid y priodola Edmund Jones efengyleidd—dra y wlad yn y llythyr hwn. Meddai am Sir Aberteifi: "Here were lately two eminent clergymen—Mr. David Jenkins, a young man lately dead, and Mr. Daniel Rowland, who had at his church some time ago above two thousand communicants. Almost all the lower part of the county is become religious since Mr. Howell Harris and the Methodists laboured there." Eto: "Pembrokeshire hath been lately mightily roused up, and abundance of people convinced, reformed, and converted by means of the exhortations of Mr. Howell Harris, and other Methodist exhorters." "The upper part of Pembrokeshire hath been roused and reformed, and that almost universally, to a concern about religion. Certainly, a very great work has been done here." Pe buasai rhyw hanesydd Methodistaidd yn ysgrifenu fel uchod, gan briodoli y cyfnewidiad yn y wlad i ymdrechion y Methodistiaid, a pheidio son o gwbl am lafur yr Ymneillduwyr, buasai yn sicr o gael ei gyhuddo o bleidgarwch a rhagfarn. Ond Annibynwr oedd Edmund Jones, ac ni fu neb erioed mwy zêlog dros ei enwad.
IV. Haerir yn nesaf fod gwaith yr Ymneillduwyr wedi cael ei anwybyddu yn ormodol gan y y diwygwyr G. Jones, Harris, a Rowlands. Cyn ateb hyn, goddefer i ni ddangos fel y mae cyhuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd wedi ei leddfu i lawr, ac wedi newid ei ffurf, nes y mae yn anmhosibl ei adwaen. Nid anwybyddu yn ormodol lafur yr Ymneillduwyr oedd y cyhuddiad a ddygai efe i'w herbyn; ond camddarlunio yn fwriadol agwedd foesol ac ysprydol y wlad, dan ddylanwad gwanc am wag-ogoniant. Y mae lled y nefoedd o wahaniaeth rhwng y ddau beth hyn. Am anwybyddu yn ormodol lafur eraill, gallai dynion da fod yn euog o hono yn anymwybodol; gallent wrth sylwi yn ddwys ar un dosparth o ffeithiau anghofio fod ffeithiau cyferbyniol i'w cael; ac. fel y sylwa un, gallai eu hysprydolrwydd a'u brwdfrydedd eithriadol fod yn achlysur o'r cyfryw esgeulusdod. Ond am gyhuddiad Dr. Rees, sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru er mwyn hunan-ogoniant, y mae yn hollol anghydweddol â chrefydd o ddim grym; nis gallai y cyfryw deimlad fodoli ond mewn dynion cnawdol, dan lywodraeth teimladau daearol isel a gwael; ac y mae yn anmhosibl peidio dirmygu y personau yn mynwesau pa rai y caiff y cyfryw deimlad lety am foment. Ymddengys i ni fod yr Annibynwyr yn taflu cyhuddiad Dr. Rees dros y bwrdd, ac yn dwyn un arall, llawer tynerach, yn mlaen yn ei le.
Ond pa faint o sail sydd i'r cyhuddiad tynerach? Pa resymau a ddygir yn mlaen i brofi ddarfod i'r Tadau Methodistaidd anwybyddu yn ormodol lafur yr Ymneillduwyr? Un prawf yn unig sydd yn cael ei gynyg, sef prinder cyfeiriadau yn eu hysgrifeniadau at yr Ymneillduwyr. Sail gul iawn, yn sicr, i adeiladu y fath gastell golygus arni. Nid ysgrifenu hanes Cymru a wnelai Harris a Rowland; ni ddaeth i'w meddyliau i holi pa fodd y syrthiasai y wlad i'r cyflwr truenus yn mha un yr oedd yn gorwedd; ac nid eu pwnc hwy oedd ymchwilio pa ymdrechion aneffeithiol a wnelsid yn flaenorol i efengyleiddio y werin. Y cwestiwn a losgai fel tân yn eu hysprydoedd oedd, Sut i achub y rhai a lusgid i angau? Nid ysgrifenu hanesiaeth yr oeddynt hwy, ond gwneyd hanesiaeth. Gwelent gorph y werin, fel y sylwa Dr. John Thomas, Liverpool, yn gorwedd mewn anwybodaeth a thrueni dybryd; gwelent hefyd nad oedd unrhyw ymdrech effeithiol a llwyddianus yn cael ei gwneyd gan neb i geisio eu hachub; fod yr offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig yn ddifater, a'r gweinidogion Ymneillduol yn ymfoddloni i fugeilio yr ychydig ddefaid oedd ganddynt yn eu corlanau, heb fod neb yn eu mysg yn myned i'r anialwch ar ol y colledig. Yn y cyfwng hwn rhuthrodd Harris a Rowland i'r adwy; ymdaflasant gyda brwdfrydedd diderfyn i'r gorchwyl o achub gwerin Cymru, a gyru o'r wlad yr arferion annuwiol a'i gwarthruddent; ac yn hyn llwyddodd yr Arglwydd hwynt tu hwnt i fesur; ac yn raddol cawsant yr hyfrydwch mawr o weled y gweinidogion Ymneillduol yn cael eu meddianu â'r un a'r unrhyw yspryd, gan ddyfod allan yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn. Beirniadaeth fitw a distadl yr ymddengys i ni yw holi a ddarfu iddynt ranu y clod am y gwaith a gyflawnwyd yn deg. Clod yn wir! Ni ddaeth i'w meddwl i gymeryd dim o hono; nid oedd hunan a gwag-ogoniant yn cael lle yn eu mynwesau, ac ni ddarfu iddynt ddychymygu am ranu yr anrhydedd, gan gymeryd rhan eu hunain, a rhoddi rhan i eraill.
Honir fod Dr. Rees yn ei le, wrth briodoli i'r Tadau Methodistaidd gulni dirfawr at yr Ymneillduwyr a'i blaenorai. Dywedir iddynt fod yn angharedig o ddystaw am yr hyn a wnaethant, a rhoddir dau reswm am hyny, sef rhagfarn Eglwysig, ac ysprydolrwydd eithriadol. Ymddengys y ddau reswm hyn yn ddinystriol i'w gilydd. Nis geill rhagfarn ac ysprydolrwydd meddwl gyd-drigo yn yr un galon; y mae y naill yn sicr o ddisodli y Ilall. Os mai ysprydolrwydd fydd yn oruchaf, derfydd am ragfarn o angenrheidrwydd. Y mae dynion ysprydol yn byw mewn agosrwydd mawr at Dduw; o lewyrch ei wyneb Ef y sugnant eu hysprydoliaeth; nis geill ond agosrwydd at y Dwyfol roddi iddynt y cyfryw nodwedd. Ac yn y presenoldeb rhyfedd hwn nis geil rhagfarn enwadol fodoli; y mae y mân wahaniaethau a'r mân ffiniau sydd yn gwahanu y naill sect oddiwrth y llall yn myned yn ddim. Yn sicr, wrth ddarlunio y Tadau Methodistaidd fel dynion o ysprydolrwydd meddwl eithriadol, gwneir y cyhuddiad eu bod yn llawn o ragfarn Eglwysig yn anmhosibl.
Ni fu dynion mwy diragfarn yn rhodio daear na Rowland, a Harris, a'u cydweithwyr. Yr ydym yn cyfaddef eu bod yn Eglwyswyr cyd-