pethau mwy wedi bod. Y mae yr addewid hono ar fy meddwl: 'Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loywwin, o basgedigion breision a gloyw-win puredig.' Yr oeddwn i yn meddwl mai yma yr oedd y wledd. Ac mi ddois i i'r seiat rhag i mi fyned heb deimlo dim." Prin yr oedd dyfod i'r seiat oddiar deimlad o ddyledswydd fel hyn yn cymeryd gan Robert Dafydd.
Eithr wedi i'r hen batriarch gael ei ddymuniad gan Dduw parthed diwygiad, nid oedd ar ben ei ddigon. Ai i'r hen ystafell i weddio drachefn, a'i neges yn awr ydoedd: "O Arglwydd ! Gad i mi gael byw flwyddyn eto, i fagu y plant yma." Atebodd yr Arglwydd ei weddi yn hyn hefyd, a rhodded iddo, nid blwyddyn, ond dwy.
Y mae amryw o'i ddywediadau ar gof a chadw hyd y dydd hwn. [1]Meddai unwaith, wrth gyfeirio at faddeuant Duw: "Nid oes neb fel ein Duw ni am guddio beiau. Y mae yn eu taflu o'r tu ol i'w gefn. Ac y mae efe mor dal, fel na fedr yr un Saul, er y byddai yn uwch o'i ysgwyddau na'r holl bobl, weled dros ei ysgwyddau ef. Ac ni fedr Gabriel ychwaith, y talaf o'r angelion, weled y tu ol i gefn Duw."
Dadleuai rhywun ag ef unwaith parthed syrthiad oddiwrth ras. Ac meddai ei wrthwynebydd, gyda thôn hyderus, fel pe byddai yn myned i gau genau Robert Dafydd am byth: "Pa le yr oedd gras Petr pan yr oedd yn tyngu, ac yn rhegu, ac yn gwadu?" "O!" meddai yr hen gynghorwr yn ol, “oni bai fod gras ynddo, rhegu y buasai eto."
Sylwai mewn seiat unwaith: "Yr oeddwn i yn myned heibio'r boreu heddyw i un o'r ffermydd yna, a mi welwn ddyn yn toi tâs o wair. Gofynais iddo mewn syndod : 'Wil; i beth yr wyt yn toi y dâs, a hithau yn dywydd braf?' 'O!' meddai Wil yn ôl, os yw hi yn braf yn awr, hi ddaw yn ddryc-hin.' Ac yn wir, welwch chi, yr hen Wil oedd yn ei le; erbyn y nos dyma hi yn wlaw mawr. Wel, y mae yn ddigon priodol i rywun ofyn i minau Pwy dda yw dyfod i'r capel fel hyn o hyd, a chadw cymaint o dwrw gyda'r grefydd yma? O! hi ddaw yn ddryc-hin eto, gyfeillion. Bydd yn dda cael tô eto."
Dywedai unwaith wrth ofyn bendith ar ei ymborth "Diolch i ti, O Arglwydd, am dy drugareddau i ni yn feunyddiol. Nid fel hyn y mae yn uffern. Na, gwae sydd yno i frecwast, gwae i ginio, a gwae i swper."
Mewn seiat yn Mrynengan unwaith, gwelai y bobl yn dra gwasgaredig, a dywedodd: "I beth yr ydych yn myned mor bell oddiwrth eich gilydd? Yr ydych chi fel lot o hen fawn gwlybion yn y fan yna; thaniwch chi byth. Dowch dipyn yn nes at eich gilydd, mi gynheswch wedin. Os bydd y marwor ar wasgar, fe ddiffydd y tân yn union; ond heliwch chi o at ei gilydd, fe dania ac fe fflamia yn fuan." Prawf y sylw fod Robert Dafydd yn meddu meddwl athronaidd.
Pan fyddai rhywun yn dychwelyd i'r seiat ar ol cael ei ddiarddel, os byddai am ymgyfiawnhau, a honi ei fod wedi cael cam, dywedai Robert Dafydd wrtho yn sychlyd, a than grafu ei ben: "Yn is na hyna y mae'r glicied." Yr oedd gan Robert Dafydd ferlyn, o'r enw Jac, yr hwn oedd lawn mor hynod yn myd y ceffylau, ag oedd ei feistr yn mysg dynion. Ymddiddanai a'r merlyn fel pe bai ddyn. Wrth ei fod yn myned i'r Pennant i bregethu unwaith, croesai ffrwd o ddwfr, i'r hon y trodd Jac i dori ei syched. Ac meddai Robert Dafydd wrtho, heb dybio fod neb yn clywed: "Dyna, Jac bach, yf di dy ora. Mae yn ddigon caled arnat ti; y mae cryn bwysau arnat ti. Y mae dau ddyn ar dy gefn, beth bynag; sef yr hen ddyn a'r dyn newydd." Rhoddodd fenthyg Jac unwaith i ferch ieuanc i fyned i ffair Pwllheli. Cynhelid y ffair ddydd Gwener, a thranoeth yr oedd Robert Dafydd ei hun yn cychwyn ar ei gefn i fyned i Glynog. Wrth osod y cyfrwy, gwelai friw ar y ceffyl. Edrychodd ar y briw gyda mesur o syndod am dipyn, ac yna dywedodd gyda difrifwch mawr: "Wel, Jac bach, dyna sydd yn dod o fyned i gario merched; chest ti erioed ddolur fel hyn wrth fy nghario i."
Ychydig cyn ei farw symudodd o'i hen gartref, sef Tyddyn Ruffydd, at ei fab Robert, yr hwn a breswyliai yn nhŷ capel Brynengan, ac yma y gorphenodd ei yrfa. Ni wybu nemawr am afiechyd trwy ystod ei oes; a bu farw yn sydyn, ar ei eistedd yn ei gadair. Claddwyd ef mynwent Llangybi, ac meddai ei fywgraffydd: "Y mae rhai eto yn fyw yn cofio y canu hynod oedd ar hyd y ffordd, ac yn
- ↑ Robert Dafydd, Brynengan, gan y Parch. Henry Hughes, Brynkir. Llyfr tra dyddorol.