Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXV.
JOHN ROBERTS, LLANGWM.

Robert Thomas, tad John a Robert Roberts, yn ddyn meddw, ac yn ymladdwr—Ei droedigaeth, a'i ymuniad a'r Methodistiaid—John Roberts yn llanc nodedig o gyflym—Ei fawr awydd am addysg—Pregeth Dafydd Morris, Twrgwyn, yn y Buarthau—John Roberts yn uno a'r seiat, ac yn cadw ysgol—Mathias, y Morafiad—John Roberts yn dechreu pregethu—Ei nodwedd fel pregethwr—John Roberts ac Evan Richardson yn pregethu yn Nghaernarfon—John Roberts yn ysgrifenydd Cymdeithasfa Gwynedd, a Chyfarfod Misol Arfon—Casgliad y ddimai—Rheolau y casgliad yn Sir Gaernarfon—Marwolaeth Phoebe Roberts—John Roberts yn symud i Langwm—Yn cael ei ordeinio yn 1811—Yn cymeryd rhan yn ffurfiad y Cyffes Ffydd—Yn marw.

YN ein hysgrif ar Robert Roberts, Clynog, brawd ieuengach, ond mwy enwog, y Parch. John Roberts, gwnaethom fyr gyfeiriad at eu tad, sef Robert Thomas. Eithr ar amryw gyfrifon haedda ychwaneg o sylw. Pan anwyd ei fab hynaf preswyliai, gyda ei wraig Catherine, mewn lle o'r enw Blaenygarth, ger Nantlle. Ond yn bur fuan symudodd i'r Ffridd-bala-deulyn, yn mhlwyf Llanllyfni, er mwyn bod yn gyfleus i waith copr Drws-y-Coed. Yr oedd y gwaith hwn ar y pryd yn dra llwyddianus, a llawer o gyrchu iddo; ceid yno bobl o bob sir yn Ngwynedd; ac enillid yno gyflogau a ystyrid yr adeg hono yn fawrion. Yn ychwanegol, yr oedd chwarel y Cilgwyn gerllaw, ac yn dra phoblogaidd. Effaith llwyddiant masnachol yr adeg hono, fel yn gyffredin, oedd cynydd pob ffurf ar annuwioldeb, yn enwedig meddwdod. Ai rhai o'r gweithwyr i'r eglwys yn y boreu i glywed y gwasanaeth; yna aent yn dorf at y gwahanol chwareuyddiaethau a gynhelid, a gorphenid y dydd sanctaidd yn rhai o'r tafarndai, o ba rai yr oedd yr ardal yn llawn. Arosai llawer, gwedi yfed hyd at feddwdod, yn y dafarn trwy y nos, a thros y dydd Llun a'r dydd Mawrth canlynol. Ni byddai Sabbath yn pasio heb fod ymladdfeydd yn cymeryd lle. Ac yn mysg y meddwon a'r ymladdwyr nid oedd neb enwocach na Robert Thomas, o'r Ffridd. Arosai yn fynych hyd ganol yr wythnos yn rhai o dafarndai y Nant, mor feddw ag y gallai cwrw ei wneyd; nid yn anaml y clywid ddarfod iddo fod yn ymladd â rhywun neu rywrai; a chan ei fod yn ddyn cryf o gorph a medrus mewn paffio, byddai braidd yn ddieithriad yn enill y fuddugoliaeth.

Eithr er ofered oedd Robert Thomas, meddai ryw gymaint o dalent lenyddol. Hoffai brydyddu, ac yr oedd yn fedrus mewn cyfansoddi rhigymau; a phrynai bob llyfr barddonol, a phob cerdd Gymreig, a ddeuai allan o'r wasg. Elai i'r eglwys hefyd ar y Sul gyda chysondeb, a chwedi i'w blant dyfu i faintioli digonol, cymerai hwy i'r llan gydag ef, gan eu cyfarwyddo i ymuno â'r clochydd mewn porthi y gwasanaeth. Yn ol Michael Roberts, tair gwaith yn y flwyddyn y pregethid, neu yn hytrach y darllenid pregeth, yn eglwys Llanllyfni yr adeg hono, sef y Nadolig, y Pasc, a'r Sulgwyn; ac ymddengys mai tair pregeth a feddai y person; cedwid yr hen bregethau, a gwnaent y tro yn burion ar gyfer cylchwyl y flwyddyn ganlynol. Y cyntaf i fyned allan o'r eglwys oedd yr offeiriad, a dilynid ef wrth ei sodlau gan haid o oferwyr ; a chwedi cyrhaedd y drws ymrysonai â hwynt am y cyntaf i redeg i'r dafarn, a'r un a elai i mewn yn gyntaf a enillai bob amser chwart o gwrw oddiar ei gymdeithion. Ni welai Robert Thomas ddim allan o le yn hyn, nac yn y ffair a gynhelid yn y pentref ar ddydd Duw; dyna arfer y wlad, a chydunai yn dda â'i dymheredd yntau.

Modd bynag, tua'r flwyddyn 1763 daeth pregethu i ardal Llanllyfni, gan y Methodistiaid. Dygwyddodd hyn trwy i ŵr o'r enw William Williams, glywed fod