Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr o'r Deheudir yn llefaru ar nos Sabbath, yn y Berth-ddu, plwyf Clynog. Cododd blys arno i fyned i'r odfa, a chwedi myned cafodd y fath flas nes y daeth yn wrandawr cyson. Dywedir mai efe oedd y cyntaf, perthynol i blwyf Llanllyfni, i wrando pregeth gan neb o'r Methodistiaid. Yn ganlynol, cyrchai i wrando i Glynog, Bryn-y-Gadfa, Waenfawr, a lleoedd eraill, ac nid yn anfynych llwyddai i ddenu rhai o'i gymydogion i fyned gydag ef. "Bu y moddion hyn," meddai Methodistiaeth Cymru, yn fendithiol i'w ddychwelyd ef, a thri o wŷr eraill, oddiwrth eu hofer ymarweddiad, yr hon a gawsent trwy draddodiad y tadau, ac i'w gwneuthur yn flaenffrwyth yr efengyl yn mro eu genedigaeth. Enw y tri eraill oedd William Dafydd, William Jones, a William Roberts. Ychwanegwyd atynt yn fuan chwaer William Williams, yr hon gwedi hyny a ddaeth yn wraig i'r Parch. John Roberts.” Naturiol i'r crefyddwyr gwresog hyn oedd ceisio cael pregethu i'w hardal eu hunain. Ond nid oedd yno neb a dderbyniai yr efengyl i'w dy; a phe y beiddiai unrhyw un, rhaid iddo mewn canlyniad fuasai ymadael a'i anedd, oblegyd llid perchenog y tir at y Methodistiaid. Felly, ar y cyntaf, pregethid ar fin y ffordd, neu mewn cwr o faes, neu ynte mewn hen dy gwag nid yn nepell o'r Buarthau. Tua'r flwyddyn 1766, priododd William Williams à merch o blwyf Clynog, o'r enw Catherine Pritchard. Yr oedd Catherine Pritchard yn ddynes dra chrefyddol; yr oedd wedi ymuno a'r Methodistiaid er ys tua deng mlynedd, a buasai am beth amser yn aelod o "deulu" Howell Harris yn Nhrefecca; ac nid anfynych cyrchai i Langeitho. Gwedi priodi, aeth y ddau i fyw i'r Buarthau. Trwy ryw foddion, yr oedd casineb perchenog y tir tuag at y Methodistiaid wedi lliniaru, a chaniataodd iddynt gael pregethu yno. Mewn canlyniad, daeth y Buarthau yn gyrchfa pregethwyr o Ogledd a Dê; sefydlwyd yma seiat, ac er nad oedd yr aelodau ar y cychwyn ond chwech, yr oeddynt yn wresog eu hyspryd. Dywedir am Catherine Pritchard mai hi oedd y cyntaf yn Sir Gaernarfon i neidio wrth wrando yr efengyl. Disgynasai awelon cryfion yn fynych yn flaenorol, mewn gwahanol leoedd yn y sir, wrth wrando Gair Duw yn cael ei draethu, nes y byddai y gynulleidfa yn foddfa o ddagrau, a rhai yn tori allan i folianu, ond Catherine Pritchard oedd y cyntaf a neidiodd. Tybiodd rhai ei bod wedi anmhwyllo, ac ymaflodd un ynddi i'w dal; ond llefodd hithau "Na ddeliwch fi, canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist."

Nid ydym wedi crwydro nepell oddiwrth hanes Robert Thomas, oblegyd cafodd yntau ei argyhoeddi i fywyd, ac â'r ddeadell fechan yn y Buarthau yr ymunodd mewn canlyniad. Y mae hanes ei argyhoeddiad, fel ei hadroddir gan ei wyr, y Parch. Michael Roberts, yn haeddu ei groniclo. Fel hyn y dywed efe: "Ar ddydd Llun y Sulgwyn, yn Ngwylmabsant Clynog, yr oedd brwydr ac ymladdfa wedi ei phenu rhwng plwyf Clynog a phlwyf Llanllyfni, a Goliath plwyf Llanllyfni oedd Robert Thomas. A dacw fo yn ymwisgo, ac yn cychwyn yn foreu o'r Ffridd, a chlamp o ffon dderwen yn ei law, a'i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb, gan ofni nas gwelent ef byth mwy ond yn anafus, a'i esgyrn yn friwedig, os yn fyw o gwbl. Tewch a gwirioni, ffyliaid; myn D—— mi falaf un haner dwsin o honynt fel COCOS, nes y dihango yr haner dwsin arall, ebai efe. Wedi iddo fyned hyd dy gerllaw Capel Uchaf, Clynog, sef tŷ Edward y Teiliwr, fel ei gelwid, clywai ganu, ac aeth yntau i mewn, yna gweddïwyd. Yr oedd rhywbeth erbyn hyn yn trin ei feddwl, nes hoelio ei draed wrth y llawr megys, fel nad aethai yn ei fyw allan oddiyno. Cymerodd y gwr ei destun, yr hyn oedd: Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?' Yr oedd y fath nerthoedd yn cydfyned a'r Gáir, fel yr argyhoeddwyd Robert i fywyd yn y fan, ac y dychwelwyd ef yn wirioneddol at Dduw. Enw y pregethwr oedd James, o Drefecca. Nid ymgynghorodd mwy à chig a gwaed; aeth adref yn ddioed. Synodd ei wraig, a John Roberts, yn aruthr; braidd na thybient mai drychiolaeth ydoedd o flaen eu llygaid, gan mor rhyfedd ganddynt ei weled wedi dyfod yn ol mor fuan, ac yn ei ddillad a'i iawn bwyll. O'r diwedd, wedi dyfod atynt eu hunain, gofynodd ei briod iddo: ' Robert bach, a ydych yn sal?' wrth weled ei wedd mor sobr. 'O, nac ydwyf, Cadi bach, yr ydwyf heddyw yn dechreu gwella am byth, ebai yntau. Pa sut, fy nhad bach? gofynai John. Mi ddywedaf i chwi,' meddai yntau. Oddeutu milltir y tu yma i bentref Clynog, clywais ganu mewn tŷ, ac aethum yno. A chlywais un o'r bobl newydd yna yn pregethu, ac ni chlywais y fath beth erioed o'r blaen.' Cadi,' ebai wedi hyny,' ni feddwaf byth