Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangos i lygredigaeth yr ardaloedd gael llywodraeth arno. Meddai dymher o'r siriolaf; yr oedd yn llawn o nwyfiant, a rhyw fywiogrwydd chwareus; eisteddai gwên ar ei wyneb, a byddai ei ateb yn fynych yn ddigrif, ond ni arweiniodd y dueddfryd hon ef i faswedda, ac i ganlyn oferwyr. Yr oedd yn ddiarebol am ei fedr gydag unrhyw orchwyl yr ymaflai ynddo. Yn y tŷ cynorthwyai ei fam, ac yr oedd can daclused gyda gorchwylion teuluaidd ag unrhyw forwyn. Ar y fferm lladdai wair, a medai ŷd; töai y deisi yn yr ydlan; cauai y perthi, ac adgyweiriai y cloddiau cerig, mor fedrus fel ag i gynyrchu sôn am dano trwy yr ardal. Yn ychwanegol, mor amlochrog oedd ei athrylith fel y medrai drwsio esgidiau gystal ag unrhyw grydd; gwnelai lidiardau fel saer coed; yr oedd yn dra medrus ar blethu basgedau a chewyll, a chylchai lestri fel pe wedi dysgu crefft cooper.

Wedi tyfu yn llanc, a'r plant eraill yn dechreu dyfod i gynorthwyo eu tad, cyflogodd John Roberts fel bugail yn y Gelliffrydiau. Pa hyd yr arhosodd yma, nis gwyddom. Eithr dangosodd yn fuan yr unrhyw dalent gyda bugeilio ag a'i nodweddai mewn cylchoedd eraill. Er fod tua dwy fil o ddefaid a geifr o dan ei ofal, adwaenai bob un o honynt ar wahan, pe heb farc na nod. Yr oedd mor gyflym ar ei droed ag Ahazel, a daliai unrhyw lwdn ar gefn y mynydd mewn ychydig fynydau.

Wedi dychwelyd adref o'r Gelli-ffrydiau, cafodd waredigaeth ryfedd. A ganlyn yw adroddiad y Parch. Michael Roberts o'r amgylchiad: "Unwaith yr oedd eisiau dal bwch gafr cryf, i'w ladd; ac aeth ef, ei dad, ac amryw eraill i'r Ffridd-fawr, fel ei gelwir, i hela y bwch. Dihangodd oddiarnynt i graig Cwmsilyn; ond yr oedd John Roberts ar ei ol, ac yn dilyn wrth ei sodlau. Aeth y bwch ar hyd ysgythredd y graig o glogwyn i glogwyn, nes o'r diwedd iddo fyned i le cyfyng, fel yr oedd yr angel o flaen Balaam, ac aeth John Roberts ar ei ol i'r un lle, fel nad oedd yn bosibl cilio i'r tu dehau na'r tu aswy. Deallodd ei dad, yn nghyd a'r edrychwyr eraill, ei berygl, a gwaeddasant yn groch, nes y dadseiniai y graig gan eu bloedd. Yr oedd ef eto heb weled ei berygl; ond erbyn iddo edrych o'i amgylch, meddyliodd yn y fan nas deuai oddiyno yn fyw. Myned i fynu nid oedd yn ddichonadwy; odditano yr oedd dyfnder aruthrol, a llyn dychrynllyd; ac yntau, gyda'r bwch, yn sefyll ar wastadedd ychydig droedfeddi o hyd a lled. Meddianodd ei dad ei hun, a pherswadiodd yntau i sefyll yn llonydd, tra yr elai ef adref i gyrchu rhaffau a phobl i'w ddwyn oddiyno. A buan iawn y dychwelodd gyda degau o ddynion a digonedd o raffau. Dringasant i ben y graig, a thaflasant y rhaffau i'w afael; yntau a'u rhwymodd tan ei geseiliau, ac wedi eu cael yn ddyogel, gwaeddodd arnynt am ei adael tra y rhwymai y bwch hefyd. Eithr yn sarug wrtho am ei ryfyg, ei dad a lefodd: Na, gad ef yna i'w grogi.' Ebai yntau yn siriol ddigon, dan wenu: Y mae y rhaff am ei wddf ef, ac am fy nghanol inau; crogwch ni ein dau bellach hefo'n gilydd, gan ein bod wedi bod cyhyd yn yr un carchar.' Ac fe'u dygwyd hwy i fynu gyda eu gilydd yn ddyogel, ac yn ebrwydd adref à hwynt. Ond yr oedd y ddedfryd oedd arnynt yn bur wahanol; nid oedd gormod o groesaw i'r bachgen John; ond yr hen fwch a waedwyd cyn pen nemawr fynydau." Prawf yr hanes fawr ofal rhagluniaeth Duw am dano; prawf hefyd pa mor wrol, a pha mor gyflawn o arabedd ydoedd yntau mewn adeg o berygl. Sychedai ei enaid ynddo am addysg; ond dau fis o ysgol, yn Llanfihangel-yPennant, oedd yr oll a allai amgylchiadau ei rieni fforddio iddo gael. Modd bynag, gan ei fod yn flaenorol yn medru darllen Cymraeg, a'i fod hefyd yn berchen athrylith gref, llwyddodd, trwy ddiwydrwydd, yn ystod y ddau fis hyn i ddod i fedru darllen Saesneg yn rhagorol, ac i allu ysgrifenu yn wych. Wedi gadael yr ysgol ymroddodd i gasglu gwybodaeth. Darllenai bob llyfr a ddeuai i'w afael, a chwedi ei ddarllen byddai ei gynwys yn eiddo iddo. Ymroddodd i berffeithio ei hun mewn Saesneg, ac mewn rhifyddiaeth. Ymhyfrydai hefyd mewn chwilio a darllen rhanau hanesiol y Beibl; yr oedd braidd fel concordance mewn hanesiaeth Ysgrythyrol cyn iddo gael crefydd.

Er fod John Roberts yn ddychlynaidd ei foes, ac yn hoff o wybodaeth, nid oedd eto wedi ei argyhoeddi i fywyd, ac nid yw yn ymddangos ei fod yn cyrchu yn aml i wrando pregethu. Eithr ryw nos yr oedd cyhoeddiad gŵr dyeithr o'r Deheudir yn Mwlch-y-Gilfin, ac aeth y llanc John yno yn gwmpeini i'w dad. Ni wyddis enw y llefarwr; ac nid oedd ond bychan ei ddoniau; yr oedd ei bregeth yn gynwysedig, gan mwyaf, mewn adrodd hanesion Ysgrythyrol. Modd bynag, mawr hoffodd