Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Roberts ef, a thybiai nad oedd rhagorach pregethwr o fewn y byd. Yn mhen yspaid daeth cyhoeddiad yr un gwr i'r Buarthau. Deuai y tro hwn fel cyfaill" i un o bregethwyr mwyaf Cymru, sef Dafydd Morris, Twrgwyn. Meddai ei dad wrth John, wedi gorphen ciniaw: "Wel, John, y mae dy bregethwr dithau yn y Buarthau heno; a ddeui di i'r bregeth?" Deuaf, yn wir," ebai John. Yno yr aethant; ymgynullasai torf fawr yn nghyd, fel yr oedd y tŷ wedi ei orlenwi. Caiff y Parch. Michael Roberts, mab gwrthddrych ein hysgrif, adrodd y gweddill o'r hanes yn ei eiriau ei hun:—

"Yr oedd Dafydd Morris wedi bod trwy y wlad unwaith o'r blaen, a'i genadwri yn tynu y bobl ar ei ol o'r Waenfawr, Clynog, a'r Bwlchderwyn. Aeth yr hen wr (pregethwr John Roberts) dros ei wers, a boddheid fy nhad yn fawr wrth wrando arno. Pan y tawodd, gwelodd fy nhad ŵr ieuanc teneu, llym, yn dringo i ben yr ystol, ac yn tynu Beibl bychan allan o'i logell, ac yn darllen ei destun fel taran, nes peri rhyw adsain sobr trwy yr holl dorf yn yr olwg ar y pregethwr, ac yn creu dychryn Duw arnynt oll. Ei destun ydoedd, Luc xiii. 9: Ac os dwg efe ffrwyth, da; onid e, gwedi hyny tor ef i lawr.' Yn gyntaf, eglurodd y ddameg mewn modd goleu a dealladwy iawn i'w wrandawyr. Yna, gwnaeth sylwadau athrawiaethol oddiwrth y ddameg, ac oddiwrth ei destun, sef yn—

1. Fod y Duw mawr wedi gosod pob dyn yn y byd, ac mewn gwahanol amgylchiadau, i'r dyben arbenig o ddwyn. ffrwyth i'w ogoniant ef.

2. Fod y Duw hwnw yn dyfod yn aml, ac yn edrych yn fanwl yn ei hollwybodaeth dreiddgar a oedd dynion yn dwyn y cyfryw ffrwyth.

3. Ei fod yn dyfod yn aml, ac am hir amser, at lawer; 'Wele, tair blynedd 'aml flynyddau, a gwahanol dymhorau yr oes, sef mebyd, ieuenctyd, canol oed, a henaint.

4. Y gall ddywedyd am y rhan fwyaf o lawer, wedi yr holl fanteision, a'r trugareddau, a'r gwaredigaethau: Nid ydwyf yn cael dim.'

5. Fod cyfiawnder Duw, fel Llywydd moesol ei greaduriaid rhesymol, yn gwaeddi uwchben y cyfryw: "Tor ef i lawr, paham y mae yn diffrwytho y tir?"

6. Fod y Gwinllanydd, sef gwir weinidogion y Gair, yn daer iawn yn eu gweddïau yn achos eu gwrandawyr diffrwyth: 'Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail,' sef arfer pob moddion gweinidogaethol tuag at ddyfod â hwy i ddwyn ffrwyth i Dduw. Ond yn benaf fod Crist yn ei eiriolaeth effeithiol yn eiriol am hyny.

7. Mai dyma y penderfyniad: 'Ac os dwg efe ffrwyth, da; onid e, gwedi hyny, tor ef i lawr.'

"Clywais fy nhad yn dweyd lawer gwaith nad oedd un drychfeddwl, neu gyffelybiaeth, a allai osod allan agwedd y gynulleidfa; yn enwedig pan y bloeddiai (y pregethwr): 'Beth a fydd diwedd yr holl driniaeth? Tor ef i lawr.' Y peth nesaf mewn syniad at hyn oedd agwedd Israel wrth Sinai. Yr oedd gwedd y pregethwr fel angel, a'i lais fel taran. Tybiai fy nhad weithiau fod y ddaear yn crynu dan ei draed, a'i fod yn gweled y Barnwr ar y cwmwl, y farn yn eistedd, a'r llyfrau wedi eu hagor, ac yntau yn myned o flaen y gair, 'Ewch i'r tân tragywyddol. Yr oedd yno gyflawniad llythyrenol o'r odfa yn nhŷ Cornelius: A syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb ar a oedd yn clywed y gair;' syrthiodd ar lawer er eu hadnewyddu a'u hadfywio, ar eraill yn gadwedigol, er eu gwir ddychwelyd at Dduw ; ac ar eraill er eu moesoli, a'u cylymu yn wrandawyr cyson o'r efengyl am eu hoes. Pan yr oedd pawb felly ar drancedigaeth, yn marw o ran eu teimladau, ac ar fin anobaith am waredigaeth, arhosodd Dafydd Morris yn fud am yspaid, er cael ei anadl, ac iddynt hwythau gael ochain. Yna newidiodd ei wedd a'i lais, a bloeddiodd nes hollti y creigiau oedd yn mynwes pawb: 'Haleliwia! Haleliwia! Hosanah! Y mae gan Dduw drefn rasol i ireiddio y prenau crinion, i'w tori oddiar eu hen foncyffiau, ac i'w himpio yn y wir Olewydden bêr. Crist ydyw y ffinydwydden ir; ac o hono ef fel Cyfryngwr y ceir ffrwythau ar ein bath ni, yn lle ein damnio byth i'r tân tragywyddol.' Bloeddiai y bobl, bellach, ag un llef yn orfoleddus: 'Haleliwia!' mewn gradd o obaith am eu bywyd. Yr oedd fy nhad, a'i dad, a'i fam, yn bloeddio Diolch!' am yr uchaf, a Dafydd Morris yn eu canol yn neidio o lawenydd."

Dyma ddarlun byw o un o'r hen odfaeon, ac y mae yn enghraifft o arddull pregethwyr cyntaf y Methodistiaid. Arferent wasgu eu gwrandawyr i fin colledigaeth; gyrent hwy i gyfyngder caled, nid annhebyg i eiddo yr Israeliaid ar lan y Môr Coch, a