Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwedi eu dal yno am yspaid, heb wawr o obaith o nefoedd na daear, taflent ddrws yr efengyl o led y pen, nes y byddai y bobl, wedi eu cyffroi gan fawredd a sydynrwydd y goleuni oedd wedi ymdori arnynt, yn gorfoleddu ac yn canmol Duw. Clywsom y math hwn o bregethu yn cael ei gondemnio. Dyweder a fyner yn ei erbyn, bu yn foddion i ddychwelyd canoedd o gyfeiliorni eu ffyrdd, a chynyrchodd ddosparth o grefyddwyr na welodd y byd Cristionogol eu rhagorach. Ceir dau beth yn y darlun yn galw am air o sylw. Un yw y desgrifiad o Dafydd Morris fel "gŵr ieuanc teneu." Dwy-ar-bymtheg oed oedd John Roberts pan yr ymunodd â chrefydd, a thebygol iddo wneyd hyny mor fuan ag y cafodd gyfleustra gwedi yr odfa ryfedd yn Buarthau; felly nid oedd Dafydd Morris ar y pryd ond yn chwech-mlwydd-ar-hugain, ac yr oedd eto heb symud o Ledrod i Dwrgwyn, a gwelwn hefyd fod y tewychder annaturiol, a'i goddiweddodd yn y rhan olaf o'i oes, heb ddechreu dyfod trosto. Peth arall yw y desgrifiad a roddir o Dafydd Morris, wedi disgyn oddiar y gadair yn molianu yn nghanol y gynulleidfa. Dygwyddai hyn mewn cysylltiad â nifer o'r pregethwyr cyntaf. Byddai Howell Harris ei hun yn tori allan yn fynych i orfoleddu, ac i ganmol Duw, ar ganol ei bregeth. Yr oedd Mr. Llwyd, o Gayo, yn nodedig yn hyny. A chawn Dafydd Morris yma yn cael ei orchfygu ei hun gan y gwirioneddau a gyhoeddai, fel nas gallai ymatal rhag ymuno â'r gynulleidfa mewn moliant. Yr oedd y pregethwr a'i wrandawyr yn nes at eu gilydd y pryd hwnw ni chyfryngai na phwlpud na sêt fawr rhyngddynt; ac ychydig o waith disgyn oedd o'r gadair i'r llawr.

Fel y nodwyd, llanc dwy-flwydd-ar-bymtheg oedd John Roberts pan yr ymunodd â chrefydd; ac ymddengys ei fod yn gweithio ar y pryd yn chwarel y Cilgwyn. Eithr teimlai ei gyfeillion y medrai wneyd rhywbeth amgen na hollti llechau, a chynghorasant ef i gadw ysgol. Bu wrth y gorchwyl hwn am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg; cadwodd ysgol yn ardaloedd Bryneinion, Rhoslan, Clynog, Llanllyfni, Brynyrodyn, a'r Pentre Uchaf. Mewn nodiad o'i eiddo sydd ar gael, dywed: "Bu gyda mi yn cael eu dysgu 1,172 o blant. Yr oeddwn yn dysgu iddynt Saesneg, gramadeg, rhifyddiaeth, a mesurau. Aeth llawer oddiwrthyf i amryw ganghenau masnach, megys yn siopwyr, ysgrifenyddion i gyfrif-dai, morwyr, a swyddwyr i'r gyllidfa. A byddwn yn ymarfer cryn lawer i ysgrifenu i'm cydwladwyr ar achosion gwladol, megys nodau, rhwymysgrifau, amod-ysgrifau, testamentau, priodas-rwynau, a phethau eraill, hyd oni waharddwyd i neb ond cyfreithiwr wneyd hyn." Yn sicr, rhaid fod y dyn ieuanc a allai wneyd hyn oll, heb gael ond dau fis o ysgol, ac wedi ei fagu mewn ardal wledig lle yr oedd cyfleusterau addysg yn brin, yn meddu athrylith gref yn gystal ag ymroddiad diderfyn. Tra y bu John Roberts gartref, arferai gynorthwyo ei dad mewn addysgu a chateceisio y plant ieuangaf; arno ef y disgynai gofal yr ysgol yn y tŷ yn ystod absenoldeb Robert Thomas; a chawn ei fod yn llawn awydd am iachawdwriaeth y plant, yn enwedig ei frawd Robert, yn yr hwn y gwelai arwyddion talent. : Bu agos i John Roberts gael addysg athrofaol. Daethai y Morafiaid i bregethu i'r ardal; yn mysg eu pregethwyr yr oedd un Dafydd Mathias, o Ddyfed, a daeth y gŵr hwn yn dra chyfeillgar à John Roberts, ac a'i deulu. Agorodd y llanc ei galon iddo parthed ei fawr awydd am ddysgeidiaeth; addawodd yntau y gwnelai y ffordd yn rhydd iddo i fyned i athrofa berthynol i'r Morafiaid yn Lloegr. Llwyddodd yn ei ymgais, a gwnaeth John Roberts bob parotoadau i fyned i Sir Gaerefrog, i'r coleg. Ond cyn y boreu Llun i gychwyn daeth Dafydd Mathias i'r tŷ, prydnhawn Sabbath. Darllenai Robert Thomas ar y pryd benod yn llyfr y prophwyd Esaiah, a gofynodd "Onid oedd yn rhyfedd, Mr. Mathias, fod y prophwydi, yn enwedig Esaiah, mor oleu am ddyoddefiadau, angau, a dyrchafiad gorchfygol Crist, a hyny ganoedd o flynyddoedd cyn ei ymddangosiad?" Meddai hwnw yn ol: "Robert bach, ai hyd yma y cyrhaedd dy wybodaeth di o'r Beib eto? Nid oedd y prophwydi yn gwybod am bwy y llefarent; breuddwydio y byddent, ac adrodd eu breuddwydion, heb fedru eu hunain ddeall y dehongliad, chwaethach eu hesbonio i neb arall.' Nage," ebai Robert Thomas, "yr oedd yspryd Crist ynddynt yn rhagfynegu ei ddyoddefaint, a'r gogoniant ar ol hyny." Aeth yn ddadl frwd rhyngddynt, a chollodd y ddau eu tymherau. Yr oedd Mathias yn arbenig yn drahaus, a dywedai wrth Robert Thomas, mai yn addas y gelwid ef a'i blaid yn Feth-odistiaid, gan mai methu a wnaent yn mhob peth. Ac ar hyn aeth i ffwrdd yn sarug a chwta. Gyda ei fod