Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENOD XXVIII,

CHRISTOPHER BASSET, THOMAS GRAY, AC EDWARD COSLET.

Christophcr Basset yn ìianu o dcidii pendefigaidd — Yn cael addysg dda — Yn dewis y weinidogaeth, ac yn graddio yn Rhydychain — Yn cael ei benodi yn giiwrad i Mr. Romaine — Yn cacl CHwradiaeth St. Ffagan—Y mae yn hivnv ei goelbren gyda'r Methodistiaid — Ei Fethodist- iaeth yn fhivystr iddo i gael hyivioliaeth Eglwysig — Ei iechyd yn gwaelu — Yn symud i Borthccri — Cael anwyd wrth hregethu yn Crai — Yn manv yn nhy ei chwaer yn Mryste — Troedigaeth Thomas Gray — -Y mae yn dechreu pregethu — Gwrando ar Daniel Rowland yn agos ir Fenni — Y mae Mr. Gray yn cael ei henodi yn olynydd Mr. Pugh — Yn cael ei droi allan o Neuaddlwyd, ohlegyd ei wresawgrwydd — Adciladu capel Ffosyjfin — Thomas Dauies, Tÿnyporth — Eglwys Llwynpiod — -Pregethn yn Llwynrhys — Mr. Gray yn ymwasgu at y Mcthodistiaid, ac yn treulio ei fywyd yn cu mysg — Ei ddull o hregethu — Ei bregeth yn Nghymdeithasfa Abcrgwaun —Yn marw — Edward Coslct yn tyfu yn ddigrefydd — Yn cael ei argyhoeddi trwy Williani Edward, Groeswen — Mewn canlyniad i hregethwr yn tori ei gyhoeddiad, y mae yn dechreu cynghori — Symud i Gasbach, ac ymuno a'r Methodistiaid — Y seiat yn nhy Edward Coslet — Gorfod symud i Laneirwg — Coslet yn gerddwr mawr — Givneyd pregethau rhwng y tân a'r eingion — Yn cael odfa nerthol yn Nghymdeithasfa Caer- narfon — Ei fnvydrau a'r diafol — Ei ffraethineh — Yn marw yn y fiwyddyn 1828.

MEWN cysylltiad âg amryw o enwogion cyntaf y Methodistiaid, buom yn cwyno nad oedd nemawr o'u hanes wedi cael ei gofnodi, a thueddem i feio y rhai a'u hadwaenent, ac a fuont fyw ar eu hol, oblegyd eu hesgeulusdod. Ond y mae yn wahanol gyda'r Parch, Christopher Basset, oblegyd ysgrifenwyd byr goíìant iddo ef gan " Dafydd ab Ioan," mewn ffordd o lythyr at "Ioan ab Gwilym, y prydydd." Y mae dyddordeb "y llythyr" yn mwyhau pan gofiom nad oedd "Dafydd ab Ioan," ei ysgrifenydd, yn neb llai na'r Hybarch Jones, o Langan, ac mai y bardd a'r emynydd enwog, John Willams, St. Athan, oedd yr "Ioan ab Gwilym " y cafodd ei anfon ato. Gwir fod yr hanes yn llawer rhy fyr; fodllu o bethau cysylltiol â Basset yr hoffem wybod rhywbeth am danynt; megys rhai o helyntion ei blentyndod, ei argraffiadau crefyddol cyntaf, y moddion a ddefnyddiwyd i'w ddwyn i gyflawn adnabyddiaeth o'r Gwaredwr, ac i ymorphwys arno am iachawdwriaeth, &c. Ond yn hytrach nac edliw yr hyn sydd ddiffygiol, teimlwn yn ddiolchgar am yr hyn sydd ar gael, a bod cymeriad un o'r dynion ieuainc duwiolaf a welodd Sir Forganwg wedi ei gadw rhag cael ei ebargofi.

Hanai Christopher Basset o Fro Morganwg. Preswyliai ei rieni, Christopher ac Alice Basset, yn Aberddawen, plwyf Penmark, o fewn millir i'r pen mwyaf deheuol o Gymru. Ymddengys eu bod ill dau yn Fethodistiaid, ac yn aelodau o seiat Aberddawen, wedi cael eu dychwelyd, yn ol pob tebyg, trwy weinidogaeth gyffrous Howell Harris, yr hwn yn fynych a ym- welai a'r ardal. Y mae yn amlwg hefyd eu bod yn gefnog eu hamgylchiadau, ac yn meddu saíle barchus mewn cymdeithas ; yn wir, perthynent i un o hen deulu- oedd mwyaf pendefigaidd Morganwg. Ganwyd eu mab, Christopher, ar adeg isel ar grefydd, pan yr oedd terfysg ac ymran- iad wedi dyfod i mewn i'r seiadau, sef yn y flwyddyn 1753, pan yr oedd y ddadl an- hapus rhwng Harris a Rowland yn anterth ei grym. Eithr nid ymddengys iddynt hwy gael eu cario ymaith gan y teimladau cryfion a ffynent ar y pryd; glynasant wrth yr achos trwy bob ystorm. Eu dy- muniad angerddol ydoedd ar i'w mab gael ei alw i'r weinidogaeth. Ymdrechasant roddi iddo y ddysgeidiaeth angenrheidiol