Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amryw Gymdeithasfaoedd; ac yn y diwedd at yr Ymneillduwyr yr aeth.

Teimlodd Sir Drefaldwyn yn ddwfn yn yr anghydfod rhwng Harris a'r Methodistiaid. Wrth Harris y glynai Richard Tibbot a Lewis Evan ar y cyntaf; Harris, hefyd, fel y gwelsom, a fuasai yn offerynol i blanu y nifer amlaf o'r seiadau; ac felly, y mae yn dra thebyg mai gydag ef a'i blaid y darfu iddynt oll aros. Ond gwedi iddo ef gilio i Drefecca, ac i Richard Tibbot a Lewis Evan ail ymuno â phobl Rowland, y tebygolrwydd yw i'r nifer amlaf o'r seiadau ddilyn eu hesiampl. Eithr yr oedd gwedd lwydaidd iawn ar yr achos. A darfu i un Thomas Meredith, cynghorwr, ymuno â Thomas Seen, o Lanfair-muallt, a chwedi methu byw tan ddysgyblaeth teulu Trefecca, ceisiasant ffurfio plaid o'i heiddynt eu hunain. Gyda golwg ar eu golygiadau athrawiaethol, dywedir yn Nrychyr Amseroedd: "Benthycasant gryn lawer o waith Mr. Cudworth, ac amryw o'r pethau anhawddaf eu deall o waith Mr. Morgan Llwyd, a William Erbury; a thuag at wneyd eu proffes yn ddigon ysprydol, rhoisant gryn swm o surdoes y Crynwyr am ben eu defnyddiau eraill. Gwedi dodi yr holl gymysg hyn yn nghyd, yr oedd y grefydd yma fel gwisg glytiog cardotyn, yn anhawdd dirnad pa beth oedd ei dechreuad. Nid oedd ganddynt ystyr lythyrenol ar un rhan o'r Ysgrythyrau, ond golygent y cyfan yn ysprydol. Er esiampl, nid y ddaear yr ydym yn byw arni a losgir, ond y ddaear sydd mewn dyn. Yr haul yn tywyllu yw haul rheswm. Dwy fydd yn malu mewn melin yw y ddwy anian. Nid oedd ganddynt un parch i'r Sabbath, nac i un o ordinhadau yr efengyl. "Yn syn iawn, cafodd y grefydd ryfedd yma ganlynwyr mewn pump o siroedd Cymru, ond yn Sir Drefaldwyn yr oedd gryfaf. Ond, modd bynag, diflanodd yn raddol; eithr bu ei dylanwad yn dra niweidiol i'r eglwysi. Isel y parhaodd pethau hyd y flwyddyn 1762, pan y darfu i'r diwygiad mawr a dorodd allan, ac a ymledodd trwy Gymru, trwy offerynoliaeth hymnau Williams, Pantycelyn, gyrhaedd Trefaldwyn. Cofiodd Duw ei gyfamod, a thywynodd Haul y cyfiawnder ar ganoedd oeddynt yn eistedd yn mro a chysgod angau. Cawsom y golygai Howell Harris y diwygiad hwn yn fwy ysprydol, ac yn fwy rhydd oddiwrth gnawd, na'r un oedd yn cydfyned a'i weinidogaeth gyntaf ef. Cyfeiria yr Hybarch Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd hefyd at y gwahaniaeth rhwng y ddau ddiwygiad. Am y cyffro oedd yn cydfyned â dyfodiad cyntaf Howell Harris, dywedir: "Yr oedd hwnw o ran dull ei weithrediadau yn llym ac yn daranllyd iawn; ond hwn (diwygiad 1762), megys gynt yn nhŷ Cornelius, tyrfaoedd lliosog yn mawrygu Duw heb allu ymatal, ond weithiau yn llamu o orfoledd, fel Dafydd gynt o flaen yr arch. Treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl. "Ymunodd canoedd a'r seiadau yr adeg hon, a chyfododd Methodistiaeth i fri a pharchusrwydd yn y wlad.

Ni fu mwy o erlid ar yr efengyl mewn unrhyw sir yn Nghymru nag yn Nhrefaldwyn; yr oedd boneddwyr y sir yn arbenig yn hynodi eu hunain am eu gelyniaeth a'u traha. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at yr ymosodiad enbyd a wnaed ar James Beaumont, a William Evans, y cynghorwr gwresog ei yspryd o Nantmel, yn Llanidloes, a'r Drefnewydd, yn y flwyddyn 1744. Cawsom hefyd ddarfod i nifer o Fethodistiaid y sir gael eu gwysio i'r Sessiwn yn Mangor ddechreu yr un flwyddyn, ac iddynt gyflogi cyfreithiwr i amddiffyn eu hunain. Nid yw hanes y prawf ar gael, fel y mae y gwaethaf, ond y mae yn sicr i'r Arglwydd ofalu am ei eiddo, y rhai a ymddiriedent ynddo, ac iddynt fuddugoliaethu ar eu herlidwyr. Fel y bu yr erlid yn Nhrefaldwyn braidd yn fwy ffyrnig, ymddengys iddo barhau yn hwy nag yn un sir arall yn Nghymru.

Dangoswyd gwrthwynebiad i bregethiad yr efengyl yn Llanidloes mor ddiweddar a'r flwyddyn 1819.[1] Ar ddydd gwyl Mabsant y flwyddyn hono pregethai John Elias ar yr heol, gyferbyn a gwesty y Lion, allan o bedrolfen. I hyn, cawsid caniatad gŵr y tŷ. Yr oedd enwogrwydd y gŵr parchedig a lefarai wedi peri i gynulleidfa anferth ymgasglu; tybir fod agos i bum' mil o bobl yn bresenol. Gwedi i Humphrey Gwalchmai ddechreu, ac i emyn gael ei chanu, cymerodd Mr. Elias yn destun, Ioan xii. 32: " A minau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun. "Cafodd lonydd i fyned yn y blaen am tua haner awr, ac yr oedd y gynulleidfa fel arfer wedi ei hoelio wrth ei wefusau. Yna daeth ustus heddwch i'r lle, a chwedi ymwthio trwy y dorf, daeth

  1. Methodistiaeth Cymru