at y fan, a galwodd ar Mr. Hugh Jones, blaenor o enwogrwydd dirfawr gyda y Methodistiaid yn y dref, i fyned ato. Ei genadwri oedd gorchymyn i'r pregethwr ddystewi. Crefai Mr. Jones ac eraill am i Mr. Elias gael myned yn y blaen am ychydig yn hwy, a llwyddasant i dawelu y gŵr am ryw ugain mynyd. O'r diwedd pallodd ei amynedd, dringodd i ben y bedrolfen, aeth yn unionsyth at y pregethwr, a chan roddi ei law ar ei ysgwydd, gorchymynodd iddo roddi heibio. Cyffrodd y dyrfa yn aruthr; dychrynid rhai gan fraw, ond am y nifer amlaf, llenwid hwy â digofaint at y boneddwr a feiddiai aflonyddu ar genad Crist. Ond trodd y gweinidog ato yn dirion, a gofynodd ganiatad i ollwng y bobl ymaith trwy weddi, yr hyn ganiatad a gafodd. Dywedir i'r odfa, er iddi gael ei thori ar ei chanol, fod yn effeithiol i roddi y Gwylmabsant i lawr yn hollol. Aeth Mr. Elias oddiyno i'r capel, a chynghorodd y bobl i beidio dangos unrhyw ddigter at y boneddwr, gan ei fod yn amlwg mai ei ddirgymhell gan eraill a gawsai. Mor bell ag y gwyddom, dyma yr ymgais olaf yn Nghymru i rwystro y Methodistiaid i bregethu.
Fel yr ydym wedi nodi yn barod, ymwelodd Howell Harris â rhai lleoedd yn Sir Feirionydd, yn arbenig Llanuwchllyn, a'r Bala, yn y flwyddyn 1740, sef yr un flwyddyn ag y daeth gyntaf i Drefaldwyn. Bu yn y Bala hefyd y flwyddyn ganlynol, 1741, a phrin y dihangodd a'i fywyd yn ysglyfaeth. Y mae yn bur sicr hefyd i Daniel Rowland ymweled â rhanau o Feirionydd yn 1740, a chai ef lonydd, gan ei fod yn offeiriad urddedig, ac mai yn yr eglwysydd y pregethai. Eithr er, yn ol pob tebyg, i amryw gael eu dychwelyd trwy weinidogaeth y ddau ŵr enwog hyn, nid yw yn ymddangos i seiat Fethodistaidd gael ei sefydlu o fewn terfynau Meirionydd hyd y flwyddyn 1745, pan yr ymunodd tuag wyth o frodyr a chwiorydd a'u gilydd yn gymdeithas yn y Bala. Yn flaenorol, ymunent a'r ychydig Ymneillduwyr oeddynt yn cydgyfarfod yn nhŷ Edward Williams, y gwehydd. Yn mysg yr aelodau a ffurfient y seiat gyntaf, yr oedd John Evans, y Bala, a'i briod; ond nid oedd John Evans y pryd hwn wedi dechreu pregethu. Yr oedd yspryd erlidgar yn fflamio yn y Bala o hyd; ac ni feiddiai y crefyddwyr gyfarfod a'u gilydd ond yn llechwraidd, a hyny cyn toriad y dydd. Er mwyn bod yn sicr o ddeffro, byddai pob un yn cylymu llinyn wrth ryw aelod o'i gorph wrth fyned i'r gwely, y noson flaenorol i'r seiat, ac yn gadael y pen arall i'r llinyn i grogi allan trwy y ffenestr; yna, byddai rhywun yn myned o gwmpas i'r tai yn brydlon, ac yn roddi plwc i'r llinyn. Dywedir mai y mwyaf gofalus gyda hyn oedd Evan Moses, y gôf, yr hwn oedd ŵr o'r Deheudir. Er mwyn cryfhau yr achosion gweiniaid yn y Gogledd, penododd y Gymdeithasfa ar bedwar o frodyr o'r Dê i aros yn Ngwynedd am chwarter blwyddyn bob un, ac i lafurio yn y dalaeth hyd eithaf eu gallu. Enwau y brodyr hyn oeddynt, Dafydd William Dafydd, John Belcher, Benjamin Thomas, a Dafydd William Rhys, ac ymddengys mai yn y Bala y gwnelent eu cartref. Y mae yn bur sicr na sefydlwyd yr un seiat Fethodistaidd arall o fewn terfynau Meirionydd, o leiaf hyd gwedi 1750; oblegyd yn Tachwedd y flwyddyn hon, bu Howell Harris ar daith trwy yr holl o Wynedd, yn ceisio perswadio y seiadau i ymuno a'i blaid ef, a'r unig le, yn ol ei ddydd-lyfr, y bu iddo ymweled ag ef yn Meirionydd oedd y Bala. Nid yw yn sicr pa ddylanwad a gafodd ar y gymdeithas; nid yw yn debyg iddo fod yn llwyddianus, oblegyd dywed mai llefaru yn llym wrth y credinwyr a wnaeth, er iddo gael rhyddid dirfawr wrth bregethu. Y tebygolrwydd yw fod John Evans yn rhy anhyblyg i gymeryd ei berswadio, a bod ei ddylanwad yn ddigonol i gadw yr aelodau eraill rhag myned trosodd.
Tebygol mai yn Mhandy-y-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, y sefydlwyd yr ail seiat yn Sir Feirionydd, a hyny tua'r flwyddyn 1755. Gwnaed hyn trwy ddylanwad gwraig, o'r enw Lowri Williams. Un o Sir Gaernarfon ydoedd, ac arferai berthyn i'r seiat yn Mrynengan; ond gan na wnai hi a'i phriod ymwrthod a'r Methodistiaid, cawsant eu troi o'i tyddyn, sef Pandy-chwilog, er nad oedd y gŵr yn proffesu. Yn Mhandy-y-ddwyryd, y lle y gwnaethant eu cartref yn nesaf, yr oedd ganddynt bymtheg milltir i'w teithio i Frynengan, a deunaw i'r Bala, ac nid oedd pregethu o'r fath a garai Lowri Williams i'w gael mewn un man oedd nes. Nid oedd neb ychwaith yn yr ardal o gyffelyb feddwl iddi, ac yn teimlo dyddordeb yn mhethau crefydd. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd gael pregethu i'w thŷ. Yn raddol, ffurfiwyd yno seiat, wyth mewn rhifedi, ac oblegyd mai wyth enaid a'