Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfansoddai, gelwid hi "Teulu arch Noah." Heb fod yn hir ychwanegwyd pump arall at yr wyth. Ymddengys fod yr aelodau yma yn dra gwasgaredig, yn preswylio filltiroedd lawer oddiwrth eu gilydd, un yn Harlech, un yn Ffestiniog, arall yn Nhrawsfynydd, ac un arall drachefn yn mhlwyf Llanfrothen. Trodd y rhai hyn allan yn ganwyllau, i oleuo eu gwahanol ardaloedd, a than fendith Duw buont yn foddion i ddwyn yr efengyl i'r cymydog aethau yn mha rai y preswylient.

Nid ymfoddlonai Lowri Williams ar fynu pregethu i'r ardal; torai at bawb y caffai gyfleusdra i ymddiddan a hwynt i ddweyd rhywbeth am grefydd, ac yna gollyngai uchenaid i'r nef am fendith ar y gair a ddyferasai dros ei gwefus. Un gŵr, a ddaeth wedi hyny yn nodedig o ddefnyddiol gydag achos yr efengyl, y bu geiriau Lowri Williams yn foddion i'w ddwyn i ystyriaeth o'i gyflwr, oedd Griffith Ellis, Penyrallt, ger Harlech. Rhyw Sul cyfeiriai ei gamrau, ac efe eto yn llanc, tua Mabsant a gynhelid yn nghymydogaeth Ffestiniog. Ar ei ffordd daeth heibio Pandy-y-ddwyryd, a chan fod afon rhyngddo a'r lle yr oedd am fyned iddo, ac yntau yn anwybodus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams, i ofyn ganddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau aeth i ddangos y lle iddo, gyda phob parodrwydd; ac wrth fyned hi a dorodd ato:

"Wel, fy machgen i, a fyddi di ddim yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd ar y Sul?" "Na fydda i," meddai yntau, "nac yn gofalu am ddim o'r fath beth."

"Tyr'd yma y pryd a'r pryd," meddai hithau yn ol, "fe fydd yma wr yn dangos y ffordd i'r nefoedd;" ac yn nglyn a hyn hi a ddyrchafodd saeth weddi i'r nef ar ei ran.

"Na ddeuaf fi, yn wir," ebai y llanc gwamal, ac i ffwrdd ag ef, heb ddim ond oferedd yn ei fryd. Ond yr oedd y saeth oddiar fwa Lowri Williams wedi cyrhaedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, "A fyddi di ddim yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?" yn ei glustiau yn barhaus, ac er pob ymdrech nis gallai gael llonydd ganddo. Holai ei hun, beth oedd y bywyd? A pha ffordd oedd y ffordd iddo? Ac yr oedd y saeth weddi fel picell yn ei wanu, fel nas gallai gael llonydd na dydd na nos. Er ei fod wedi penderfynu a dweyd nad elai i'r cyfarfod, nis gallai ymatal rhag myned; teimlai ryw reidrwydd arno i fynu gwybod beth oedd gan y gŵr i'w ddweyd am y ffordd i'r bywyd. Yno yr aeth, ac nid ofer a fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr euog, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu gadael yr hen arferion a'r cwmni llygredig, ac ymroddi i wasanaethu yr Iesu tra y byddai byw. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Bu o fendith fawr yn ei ardal ei hun, ac yn yr ardaloedd cymydogaethol, a pherarogla ei goffadwriaeth hyd y dydd hwn. Dywedir fod ei dduwioldeb mor amlwg, a'i ymadroddion mor hallt, fel y byddai offeiriad annuwiol y plwyf yn dychrynu rhag ei gyfarfod ar yr heol; a chymaint oedd ei ofal am yr achos fel y cawn ef pan yn aredig yn gollwng y wedd ganol dydd, ac yn cerdded ugain milltir ar ei draed, i geisio pregethwr i Harlech erbyn y Sul canlynol. Dywed yr hen John Evans, y Bala, yr arferai ef, cyn iddo ddechreu pregethu, a dau frawd arall o'r Bala, fyned ar draed i gadw cyfarfod gweddi mewn lle o'r enw Blaenlliw, am naw o'r gloch boreu dydd Sul, ac yna i Bandy-y-ddwyryd erbyn dau, a dychwelyd yn ol adref y noswaith hono. Rhwng myned a dyfod yr oedd y daith tua phymtheg-milltir-ar-hugain. Dywedai yr hen batriarch, wrth adrodd yr hanes, y buasent yn mawr hoffi cael tamaid o fara chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, ond fod rhaid iddynt gadw yn mhell o'r pentref hwnw o herwydd yr erlidwyr.

[1]Darfu i'r Parch. Richard Humphreys, y Dyffryn, bortreadu mewn amryw ysgrifau gyflwr Meirionydd, yn arbenig y rhan hono o honi a elwir Ardudwy, cyn i Fethodistiaeth godi, gan ei gymharu a'i chyflwr gwedi hyny. Cofnoda ymddiddan a gymerodd le rhyngddo â Lowri Williams, o'r Benar Isaf, yr hon oedd yn nodedig am ei synwyr a'i haddfedrwydd barn, ac oedd yn cofio yn dda ddigwyddiadau a hanes ei gwlad enedigol mor bell yn ol a'r flwyddyn 1750. "Beth dybygwch chwi am y byd, modryb Lowri?" gofynai Mr. Humphreys; "byddai yn dda genyf gael eich barn am dano, oblegyd yr ydych chwi yn cofio llawer am ei arferion er ys pedwar-ugaina-deg o flynyddoedd. Y mae rhai yn taeru yn wyneb uchel ei fod yn myned yn waeth o hyd, er yr holl bregethu, a chadw ysgolion Sabbothol, a phob moddion a ddefnyddir i'w wella. Beth dybygwch

  1. Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd