ac a ryfygodd bregethu ar gyhoedd y farchnad; ond bu dda ganddo gipio ei geffyl a ffoi gyda phrysurdeb. Cododd yr holl erlidwyr, a mynent, gan gymaint eu llid a'u cynddaredd, ei ddryllio yn dipiau; daeth un gŵr a thryfer yn ei law, ar fedr ei redeg ef á hono. Yr oedd llidiart o flaen y cynghorwr, a daeth gwraig y gŵr a'r dryfer ac a'i hagorodd iddo, ac felly, trwy drugaredd Duw, y dihangodd a'i fywyd yn ysglyfaeth. Bu crefyddwyr cyntaf Dolgellau, yn ol pob hanes, dan erledigaeth am faith flynyddoedd. Nid yn unig yr oedd yr erlid yn boethach, ond parhaodd yn hwy nag odid fan.
Meddai Robert Jones, Rhoslan: [1]"Rhy faith, pe gellid cofio, fyddai adrodd am lawer o'r helyntion a'r erledigaethau a ddyoddefodd llawer yno (yn Nolgellau) o hen bererinion cywir; pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr (1820) yn gorphwys yn dawel oddiwrth eu llafur. Gorfu iddynt tros rai blynyddoedd fyned yn ddystaw iawn i'r dref yn y nos, a chadw yr odfaeon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd. Byddai un yn aros i fynu trwy y nos i fyned o amgylch i ddeffro pawb oedd yn caru gwrando, i ddyfod yn nghyd at yr amser. Llwyddodd Duw ei waith yn rhyfedd yno, yn ngwyneb pob stormydd." Un tro, pregethai Peter Williams yn yr Esgeiriau, tyddyn bychan tua chwarter milltir o'r dref, yr hwn sydd yn gyfagos i geunant dwfn, a elwir Ceunant Stuckley. Eithr rhuthrodd yr erlidwyr i'r tŷ, diffoddasant y canwyllau, torasant y dodrefn, a bwriasant hwy i lawr i'r ceunant, a bu raid i'r crefyddwyr ddianc am eu bywyd. Boreu dranoeth, cafwyd y dodrefn drylliedig, a'r llestri llaeth, yn ngwaelod y ceunant.
Nis gallwn ymatal rhag cofnodi yr hanes am Catherine Owen, yn sefyll yn y ffenestr rhwng y pregethwr a'r erlidwyr, yr hon weithred a brofa fod y wraig hono yn meddu calon arwraidd, yn gystal â duwioldeb dwfn. "Fel hyn y bu," ebai Robert Jones, Rhoslan.[2] "Yr oedd y cyfeillion yn Nolgellau wedi cael eu herlid yn echryslon y nos Sul o'r blaen, ac un wedi cael ei daro â chareg, fel y bu yn hir mewn llewyg, er nad oedd yno y tro hwnw neb yn pregethu. Y nos Sabbath dilynol, daeth yno ddau i bregethu, a chwi allech feddwl na allai natur lai nag ofni. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd y wraig, sef Catherine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwr, gan ddywedyd yn siriol iawn: 'Ni chant eich taro, oni tharawant chwi trwyddof fi!' Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwr, wrth ei gweled mor ddisigl yn ei hymddiried yn yr Arglwydd. Cafwyd llonyddwch y tro hwn heb ei ddysgwyl." Dywedir fod rhai o hiliogaeth y wraig ddewr hon a'u hysgwyddau dan yr arch yn bresenol, ac yn sicr, y mae bod yn ddisgynyddion iddi yn fwy o anrhydedd iddynt na phe baent yn medru rhifo pendefigion yn mysg eu henafiaid.
A ganlyn yw y modd y gorchfygwyd yr erlid yn Nolgellau. [3]Pregethid yn nhŷ David Owen, gwydrwr; a gwraig iddo ef oedd y ddynes a safai yn y ffenestr. Nid oedd David Owen ei hun yn grefyddol; ond yr oedd ganddo barch diderfyn i grefydd; a phan y byddai seiat yn cael ei chynal yn y parlwr, eisteddai efe ar ei ben ei hun yn y gegin. Wedi blino yn cael ei gamdrin, cynghorwyd ef i roddi y rhai blaenaf o'r terfysgwyr yn ngafael y gyfraith. A hyn cytunodd yntau, a dygwyd yr achos i brawf yn Sessiwn y Bala. Gwnaed parotoadau mawrion ar gyfer y treial; yr oedd holl foneddwyr y wlad, a'r cyfreithwyr, yn bleidiol i'r terfysgwyr; ond nid yw yn ymddangos fod gan y Methodistiaid na chyfreithiwr nac arall; dibynent yn gyfangwbl ar wirionedd eu hachos. Dygwyd y mater gerbron yr uchel reithwyr; ymddygai y rhai hyny at y crefyddwyr druain yn y modd mwyaf dirmygus, gan ofyn iddynt yn wawdlyd: "Pa mor aml y byddwch yn myned i'r weddi dywyll? Pa bryd y byddwch yn arfer diffodd y canwyllau yn y cyfarfodydd?" a chwestiynau disynwyr cyffelyb. A dychwelasant reithfarn o No true bill, gan farnu yr achos yn anheilwng o unrhyw sylw pellach. Erbyn hyn, yr oedd cyflwr Methodistiaid Dolgellau yn waeth nag o'r blaen. Troisant oddiwrth y neuadd gyda chalon drom, a chan wylo yn dost aethant at John Evans, y Bala, i ddweyd eu cwyn, ac i ofyn am gyfarwyddyd. Ofnent fyned adref, rhag y byddai yr erlidwyr yn eu dysgwyl, y rhai, wedi deall na wnelai y gyfraith amddiffyn y Pengryniaid, a fyddent yn hyfach ac yn ffyrnicach nag erioed. "Peidiwch wylo,"
- ↑ Drych yr Amseroedd.
- ↑ Methodistiaeth Cymru.
- ↑ Drych yr Amseroedd.