ebai John Evans, "a pheidiwch myned adref ychwaith; aroswch yn y dref hyd y boreu, ac ni a edrychwn ai nid oes modd eich amddiffyn." Eithr torodd gwawr ar eu hachos o ganol tywyllwch. Ac fel hyn y bu. Yr oedd boneddwr yn aros yn Mhlasyndre, perthynas i Mrs. Lloyd, mam y Parch. Simon Lloyd. Un o Boweniaid y Tyddyn, yn Sir Drefaldwyn, ydoedd felly. Dylanwadwyd ar y boneddwr hwn i gymeryd achos y crefyddwyr o Ddolgellau i fynu. Wedi gweled fod cam wedi cael ei wneyd, aeth y boneddwr i'r llys, a rywfodd llwyddodd i ail agor y mater, a rhoddodd wers lem i'r uchel reithwyr am ymddwyn fel y gwnaethent, yn groes i'w llw. Trodd y byrddau, a dychwelwyd rheithfarn o blaid y gorthrymedig. Erbyn hyn, yr oedd y crefyddwyr wedi cael llwyr oruchafiaeth. Cerddodd y newydd yn gyflym i Ddolgellau, a dihangodd amryw o'r prif erlidwyr i ffwrdd. Gyrwyd gweision y sirydd gyda'r Methodistiaid i'r dref, ac anfonwyd y crier allan, yn hysbysu fod amddiffyniad y gyfraith drostynt, ac y cospid pwy bynag a feiddiai ymosod arnynt drachefn. O hyn allan cafodd y Methodistiaid lonydd i addoli Duw yn ol eu cydwybod.
Y mae yn bur sicr i adfywiad 1762 gyrhaedd Meirionydd, a chynyrchu yspryd newydd yn y seiadau, gan fod yn foddion i liosogi rhif y crefyddwyr yn ddirfawr. Fel y darfu i ni sylwi, hymnau Williams, Pantycelyn, oedd y prif foddion a fendithiwyd i'w gynyrchu; ac mewn yspryd moliant a chân yr ymddangosai yn benaf. Tua diwedd y flwyddyn 1768, dywedai y Parch. Benjamin Thomas wrth Howell Harris fod Methodistiaeth wedi cynyddu yn ddirfawr yn Ngwynedd, fod yno gynifer a phedwar-ar-hugain o gynghorwyr, a'u bod yn cyfarfod a'u gilydd yn fisol ac yn gwarterol. Ychwanegai Mr. Thomas fod saith ugain o aelodau crefyddol yn y Bala yn unig. Eithr diau fod seiat y Bala y pryd hwnw yn cael ei gwneyd i fynu o bersonau a breswylient mewn ardaloedd pell o'r dref. Yn mhen tua blwyddyn a haner gwedi, sef Chwefror, 1770, yr oedd y Bala yn teimlo yn ddigon cryf i gynal Cymdeithasfa, ac yr ydym yn cael John Evans, a Humphrey Edward, y cynghorwr, wedi teithio i Abergwaun, yn Sir Benfro, i ofyn am dani, ac er fod Howell Harris yn eu gwahodd i Drefecca, hwy a orfu. Er nad yw hanes y Gymdeithasfa hon genym, y mae yn ddiamheuol iddi gael ei chynal. Y mae mor sicr a hyny mai dyma y Gymdeithasfa reolaidd gyntaf a gynhaliwyd yn y Bala, ac, yn wir, yn Ngogledd Cymru, a gadael allan Trefaldwyn.
Gellir olrhain cychwyniad Methodistiaeth yn Sir Gaernarfon yn ol i ymweliad Howell Harris â Lleyn yn y flwyddyn 1741. Yr ydym wedi rhoddi hanes yr oll a wyddis am ei daith yn barod. Y lleoedd y pregethodd ynddynt oedd Glasfryn Fawr, ger Pwllheli; Tŷ'n Llanfihangel, gerllaw Rhyd-y-clafdy; Tywyn, nid yn nepell o Tydweiliog, lle y cafodd odfa rymus, ac yr argyhoeddwyd amryw; Rhydolion, ger Llanengan; a Phorthdy'nllaen. A sefydlodd ef rai seiadau y pryd hwn, sydd ansicr; y tebygolrwydd yw na wnaeth. Eithr cynyrchodd ei ddyfodiad gyffro dirfawr trwy yr holl wlad, daeth crefydd yn destun sylw cyffredinol, a deffrodd erledigaeth o'r fath boethaf. Y mae yn bur debyg i Daniel Rowland hefyd ymweled â rhanau o Leyn, naill ai yn y flwyddyn 1742, neu 1743. Yn Interliwd Morgan y Gogrwr, clochydd Llannor, yr hon a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1745, gwneir cyfeiriad pendant at ymadroddion a ddefnyddiwyd gan Rowland pan yn pregethu yn Mhorthdy'nllaen. Felly rhaid iddo fod trwy y wlad cyn y flwyddyn hono. Bu hefyd ar daith yn Lleyn, ac yn Sir Fôn, yn y flwyddyn 1747, ac wrth borth y fynwent yn Llanmellteyrn, ar ol gwrthod yr eglwys iddo, cafodd odfa i'w chofio byth. Torodd allan yn orfoledd cyffredinol, a diamheu i lawer gael eu hachub i fywyd tragywyddol. Nid oedd gwahaniaeth pendant rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr yn Lleyn ar y cychwyn; derbyniai William Pritchard, Glasfryn Fawr, y Methodistiaid i'w dŷ i bregethu yr un fath a gweinidogion yr Annibynwyr; yr oedd Jenkin Morgan, yr ysgolfeistr a gadwai ysgol yn ei dŷ, ac a elai o gwmpas i gynghori, yn cydymdeimlo yn ddwfn a'r symudiad Methodistaidd, fel yr oedd yn naturiol i un o ysgolfeistri Griffith Jones, a safai wrth ochr Howell Harris pan yr ymosodwyd arno mor enbyd yn y Bala, yn y flwyddyn 1741. Felly, a'r Ymneillduwyr yn Mhwllheli yr ymunai y Methodistiaid ar y cychwyn, ac yno y cymunent. Ond pan ddaeth Howell Harris i'r wlad drachefn ceryddodd hwy am eu hymddygiad; dywedai nad iawn hel yr halen oll i'r un cŵd, ac y dylai y diwygiad gael ei ledaenu tros yr oll o Leyn. Yr hyn a olygai yn ddiau ydoedd, nad iawn gwneyd