Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwllheli yn gydgasgliad o grefydd y wlad, ac y dylid sefydlu mân seiadau draw ac yma. Er fod Howell Harris yn parchu yr Ymneillduwyr, ac yn cydweithio yn galonog a hwy, nid oedd yn foddlon i'r rhai a argyhoeddid trwy y Methodistiaid ymaelodi yn eu cynulleidfaoedd. Yn hytrach, dymunai iddynt lynu wrth yr Eglwys, yn y gobaith y byddai i'r Sefydliad gael ei lefeinio yn y man gan y diwygiad. Ar arch y Diwygiwr o Drefecca ymwahanodd y Methodistiaid oddiwrth Annibynwyr Pwllheli, ac yr oedd yn hawddach ganddynt wneyd, am nad oedd y gweinidog newydd a ddaethai yno, sef un Richard Thomas, yn llanw ei le fel ei ragflaenydd, nac yn cael ei ystyried yn hollol bur mewn athrawiaeth. Gweddus hysbysu i'r ymwahaniad gael ei ddwyn oddiamgylch heb na digter na dadl, ond gyda y teimladau goreu o bob tu.

Yn gynar yn hanes Methodistiaeth Lleyn daeth gŵr ieuanc o'r Deheudir yno, yr hwn oedd yn offeiriad, ac yn bregethwr tra rhagorol. Ei enw oedd David Jenkins; yr oedd brawd iddo, sef Daniel Jenkins, yr hwn yntau oedd yn bregethwr, yn fab-yn-nghyfraith i Daniel Rowland. Nid ydym yn deall fod ganddo guwradiaeth yn y wlad; yn hytrach cawsai ei anfon gan Rowland i fod yn gyfnerth i'r diwygiad, a dysgwylid, gan ei fod mewn urddau Eglwysig, na chawsai deimlo cymaint oddiwrth yr erledigaeth. Addawodd person Tydweiliog y caffai bregethu yn yr eglwys yno; ond pan ddaeth yr amser appwyntiedig ofnodd ddwyn arno ei hun lid y personiaid o gwmpas, a thynodd ei air yn ol. Mewn canlyniad, ymroddodd Mr. Jenkins i bregethu yn y mynwentydd, yn y caeau, ar y prif-ffyrdd, a pha le bynag y caffai wrandawyr. Pan y gwrthodwyd llan Tydweiliog iddo pregethai oddiar gareg fedd, a chafodd odfa anarferol, lawn mor nerthol, dywedir, ag un a fu yn y wlad erioed, a dychwelwyd llawer trwyddi. Byr iawn fu gweinidogaeth David Jenkins yn Sir Gaernarfon, ond yn ystod y tymhor byr hwnw, bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol. Seren ddysglaer ydoedd, ond machludodd yn gynar; pump-ar-hugain mlwydd oed ydoedd pan fu farw. Pan glybu Daniel Rowland am ei ymadawiad, dywedodd, gyda dwysder a galar: "Torwyd ymaith fy mraich ddehau."

Mor bell ag y gwyddis, mewn lleoedd o'r enw Brynygadfa, yn mhlwyf Llanaelhaiarn, a Moelderwin, yn ardal Bwlch derwin, y ffurfiwyd y seiadau cyntaf yn Lleyn ac Eifionydd. Cyn i'r seiadau hyn gael eu sefydlu, ymwasgai y Methodistiaid at yr Ymneillduwyr yn Mhwllheli, neu Capel Helyg. Y mae yn bur sicr fod seiadau yn Mrynygadfa a Moelderwin yn flaenorol i'r flwyddyn 1747. [1]Tybir fod cyfeiriad at y ddau le mewn llythyr o eiddo yr hen gynghorwr, William Richard, yr hwn a ysgrifenwyd Mehefin 20, 1747. Fel hyn y dywed efe : "Dydd Gwener, ar fy nychweliad o Leyn, yr oedd genyf gyhoeddiad mewn lle rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mi a bregethais yno i nifer o eneidiau tlodion ac anwybodus, a chefais odfa felus iawn. Hyderaf fod yr Arglwydd wedi agor drws yn y lle hwn." Tybir yn sicr mai Brynygadfa, neu ynte yr Helygirion oedd y lle y cyfeirir ato. Ychwanega William Richard : "Gofynodd un o'r brodyr am le arall i bregethu ynddo rhwng y lle yma a Phenmorfa, ond gomeddwyd ef. Ond cawsom le mewn bwthyn bychan yn agos i'r tŷ hwnw. Pregethais yno (sef Foelderwin) i tua dwsin o bobl, a chawsom odfa hapus iawn. Felly, dychwelais drachefn i'r Bala, ac arosais yno hyd dydd Llun, ac yr oedd yn ogoneddus iawn yno." Darfod a wnaeth y seiadau yn y ddau le hyn, am nad adeiladwyd yno gapelau, ac am i seiat Brynengan lyncu iddi ei hun y mân seiadau a ffurfiwyd o gwmpas. Pa bryd y ffurfiwyd seiat Brynengan, nid oes sicrwydd. Yr oedd yma, modd bynag, seiat gref yn flaenorol i'r flwyddyn 1755, oblegyd yn y flwyddyn hon yr aeth Lowri Williams o honi, ac y cludodd y tân sanctaidd i Sir Feirionydd. Yr ydym yn tueddu i feddwl fod yma seiat yn 1750, ac mai â Brynengan yr ymwelodd Howell Harris Tachwedd y flwyddyn hono, pan y ceisiai gael gan seiadau y Gogledd ymuno a'i blaid ef.

Y modd y cludwyd crefydd i ardal Brynengan oedd fel y canlyn. Daeth teulu i'r gymydogaeth i breswylio o Maesllech. Yn fuan, cymerwyd un o'r bechgyn, John Morris wrth ei enw, yn sål o glefyd trwm. Tua'r un pryd, symudasai hen ferch o gymydogaeth Moelderwin i'r ardal, yr hon oedd yn dra chrefyddol. Ei henw oedd Catrin Rhisiart. Pan y clywodd am selni John Morris, cododd awydd arni am ymweled ag ef, er ei rybuddio o'r perygl o farw yn annuwiol.

  1. Robert Dafydd, Brynengan gan y Parch Henry Hughes, Brynkir