dyfnion a rhaiadrau gwylltion; a phe y buasai yr ymdeithydd mewn aml i fan ond gwyro llathen oddiar y llwybr, syrthiai yn bendramwnwgl i lawr dros y clogwyni enbyd i'r ceudod islaw. Gwaeth na'r cyfan, aeth yn nos ar William Harry tua'r man mwyaf peryglus, sef Bwlch-rhiw-ychain. Ond trwy fod daionus law Duw gydag ef, cyrhaeddodd ben ei daith, sef Cwmglas, rywbryd cyn y boreu. Pan aeth y son ar led fod dyn wedi dyfod trwy y fath le, ar hyd y nos, ac heb arweinydd, parodd syndod cyffredinol. Edrychai y trigolion ar y peth fel gwyrth. Gwedi anfon hysbysiad ar led fod y cynghorwr i bregethu yn Cwmglas y nos ganlynol, penderfynodd amryw fyned yno o gywreinrwydd, i ganfod a chlywed dyn oedd wedi cyflawni gorchest mor anhygoel. Yn mysg y rhai hyn yr oedd un Pierce Williams, Gwastadnant. Dan y bregeth cafodd Pierce Williams ei argyhoeddi, a daeth yn wir ddysgybl i Fab Duw. Ac yn fuan derbyniodd bregethu i'w dy. Dywedir, yr un pryd, na fu ond ychydig o lwyddiant ar bregethu yr efengyl yn Llanberis am lawer o flynyddoedd. Lle arall yn nosbarth Arfon, ag y sefydlodd y Methodistiaid achos ynddo yn bur gynar, oedd y Waunfawr. Yr oedd yma gynghorwr, o'r enw Evan Dafydd, Hafodyrhyg, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1750. Ni wyddis pa bryd na pha fodd y daeth Evan Dafydd i adnabyddiaeth o'r gwirionedd; ond dywed traddodiad i Howell Harris fod yn pregethu yn Hafodyrhyg. Cychwynwyd seiadau yn foreu hefyd yn Clynog, a Llanllyfni, a dywedir ddarfod cynal math o Gymdeithasfa yn Llanllyfni yn y flwyddyn 1769. Yr oedd seiadau wedi eu sefydlu mewn llawer rhan o'r wlad o gwmpas, cyn fod gan y Methodistiaid achos yn nhref Caernarfon. Cyrhaeddodd adfywiad 1762 Arfon hefyd, a bu yn foddion i ychwanegu llawer at y crefyddwyr, ac i godi yr achos yn ngolwg y wlad.
Nid oes genym hanes sicr pa fodd y cychwynwyd Methodistiaeth yn Siroedd Dinbych a Fflint. Bu Howell Harris ar daith trwy y rhanau hyn o'r wlad tua diwedd y flwyddyn 1747; ond nid yw ei ddydd-lyfr am y tymhor hwn ar gael, felly, nis gwyddom yn hollol à pha leoedd yr ymwelodd. Ond y mae yn bur debyg fod yma Fethodistiaid cyn hyny. Dywed John Evans, y Bala, mai efe a ddygodd y marworyn cyntaf i gymydogaeth Adwy'r Clawdd. Yma y cawsai John Evans ei eni, ac nid oedd ond naw mlwydd yn ieuangach na Howell Harris; pan yn ieuanc iawn symudodd i'r Bala, a chafodd grefydd; ac y mae genym le cryf i gasglu na fu yn hir, oblegyd ei fawr bryder parthed cyflwr ei rieni, cyn gwneyd ymgais i ddwyn yr efengyl i'w cyrhaedd. Ymddengys mai yn nhŷ rhieni John Evans y cynhaliwyd yr odfa gyntaf yn nghymydogaeth Adwy'r Clawdd gan y Methodistiaid. Meddai John Evans: "Yr oedd fy nhad a'm mam wedi fy ngwrthwynebu i ddwyn pregethu yno dros enyd, gan ddweyd fod yr Eglwys Sefydledig yn ddigon. Ond wedi cael adferiad o glefyd trwin, cawsant eu hystwytho i ganiatau i mi ddyfod â phregethwr i gadw odfa yn y tŷ." Daeth llawer o'r cymydogion i wrando, ac mor anwybodus a phaganaidd oeddynt, fel y gofynent: "Ai nid gŵr wedi bod mewn trance, neu wedi cael gweledigaeth, oedd y pregethwr, gan ei fod yn traethu iddynt bethau mor ddyeithr?" Atebai yntau, nage, a gofynai, ai nid oeddynt wedi craffu iddo gymeryd testun allan o'r Beibl? Y mae yn ymddangos i Howell Harris fod ar daith yn y Gogledd hefyd yn Hydref, 1748; eithr gan fod y dydd-lyfr ar goll, nid yw hanes hon genym ychwaith. Fel y canlyn yr ysgrifena at un Mr. Baddington, Hydref 20, 1748: "Y mae yn awr o gwmpas naw wythnos er pan ddechreuais fy nhaith trwy Ddê a Gogledd Cymru; a'r wythnos hon daethum adref o'm taith olaf yn y Gogledd. Yn ystod yr amser yma mi a ymwelais â thair-ar-ddeg o siroedd, a chan amlaf teithiais gant a haner o filltiroedd yr wythnos, gan bregethu ddwy waith bob dydd, ac weithiau dair a phedair gwaith. Ar y daith ddiweddaf hon ni ddiosgais fy nillad am saith o nosweithiau; a thrafaelais o un boreu hyd brydnhawn dranoeth, heb ddim gorphwys, dros gan milltir; a phregethwn ganol nos, neu yn dra boreu, ar y mynyddoedd, am y rhaid i ni gyfarfod yr adeg hono i ochelyd erledigaeth. Yr wythnos cyn i mi fyned yno, gorfodwyd un dyn ger Wrexham i dalu ugain punt i Syr W. W. Wynne; amryw o'r gwrandawyr a dalasent bum' swllt, ac un dyn ddeg swllt, yr hwn oedd wedi talu o'r blaen; a dyma y drydedd waith i'r bobl druain gael eu trin fel hyn yn y gymydogaeth yma am gydymgynull. Y tro diweddaf, nid oedd ond un o'r brodyr, yr hwn a aeth i weddi gyda rhai cymydogion