Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y teulu. Ymorfoleddai Syr W. ar y bobl druain, gan ddweyd: 'Ni a geisiasom gyfraith arnynt,' ond nis gallasai eu dal. Arglwydd, ateb drosot dy hun, ac ymddangos yn dy achos dy hun! Cefais mewn lle arall, heb fod yn nepell o dref y Bala, lle y bum unwaith bron cael fy llofruddio, ergyd ar fy mhen agos digon sybyrthol i hollti fy mhenglog yn ddau; ond ni dderbyniais niwed. Ni welais erioed y fath dorfeydd yn dyfod i wrando, na'r fath ogoniant yn mysg y bobl; llawer o galonau ac o ddrysau sydd wedi cael eu hagoryd yn ddiweddar.

Yr ydym yn gwybod am amryw sydd wedi cael eu deffro yn ddiweddar, ac ymddengys fel pe byddai yr Arglwydd yn troi ei wyneb at y cyfoethog; bu amryw o honynt yn fy ngwrando y daith hon, ac yr oedd amryw yn ychwaneg yn son gyda dyddordeb am ddyfod i wrando Mr. Whitefield pan y daw." Digon tebyg i'r daith hon o eiddo Howell Harris yn y Gogledd fod yn bur llwyddianus. Pan daeth drachefn yn y flwyddyn 1750, er ceisio cymeryd gafael yn y seiadau, ymwelodd ag amryw fanau yn Siroedd Dinbych a Fflint, fel yr ydym wedi cofnodi, ac y mae yn bur debyg fod yma nifer o seiadau wedi eu sefydlu. Dywed John Evans, y Bala, mai yn Adwy'r Clawdd yr adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru.

Rhoddir yr hanes a ganlyn am ddechreuad Methodistiaeth yn nghymydogaeth Llanrwst a Threfriw. Yn mis Medi, yn y flwyddyn 1840, cynhelid gwyl Mabsant yn Nhrefriw. Iawn cyfaddef, yr un pryd, fod rhyw gymaint o amheuaeth parthed y dyddiad. Dydd mawr yr wyl oedd y Sabbath. Daeth gair yno fod Pengrwn wedi cael ei drefnu i bregethu mewn tŷ anedd, o'r enw Brwynog, lle yn nghanol y mynyddoedd tua dwy filltir i'r gorllewin o Drefriw. Penderfynodd chwech o ddynion ieuainc i fyned yno, gan adael y difyrwch; ond nid i wrando beth a ddy- wedai y gŵr dyeithr, eithr o wir fwriad i'w ladd. I'r pwrpas hwn, cymerodd pob un o honynt gydag ef bastwn cryf, a phenodasant y gŵr y tybid ei fod y cryfaf a'r dewraf o'r oll yn flaenor. Penderfynasant yn mhellach na wnaent ymosod arno yn ebrwydd, ond y gwrandawent am ychydig, gan ddysgwyl y clywent ganddo yn fuan ryw ymadroddion haerllug yn cyfiawnhau yr ymosodiad. Yno yr aethant. Can gynted, modd bynag, ag y daethant i swn y weinidogaeth, syrthiodd rhyw ddychryn disymwth arnynt, fel y cwympodd y pastynau o'u dwylaw. Dihangodd pump o honynt adref, fel rhai yn ffoi am eu bywyd, a'r blaenor yn unig a adawyd ar ol. Ymwthiodd ef yn y blaen i wrando; rhwymwyd ef megys wrth enau y pregethwr; teimlodd ei ragfarn yn diflanu fel niwl, a phrofodd argyhoeddiad dwfn. Ei enw, meddir, oedd Dafydd Thomas, Wernbwys, plwyf Llanddoget. Cyn hir aniser, dychwelwyd y pump arall; bu amryw o honynt yn dra defnyddiol yn y gwahanol ardaloedd, ac ymunodd un neu ddau o honynt à "theulu Trefecca," lle yr arosasant tra y buont byw.

Mam eglwys canolbarth Sir Ddinbych yw Tanyfron, yn mhlwyf Llansanan. Ymddengys mai un Edward Parry a fu yn foddion i'w sefydlu, yr hwn sydd yn haeddu gair o sylw. Cafodd ei argyhoeddi wrth wrando pregeth gan gynghorwr o'r Deheudir, o'r enw Dafydd William Rhys, yn Henllys, plwyf Llanfair-tal-haiarn. Cytunasai ef a rhyw ddeg neu ddeuddeg o wŷr cyfrifol yn mhlwyf Llansanan i fyned yno. "Mor fuan ag yr aethum i'r tŷ,' meddai ef ei hun wrth adrodd yr hanes, "ac wrth wrando, teimlwn lawr y tŷ yn crynu dan fy nhraed; tybiwn fod y dysglau yn y lle yn curo yn erbyn eu gilydd, a daethum ar unwaith i'r penderfyniad i ymlynu wrth y bobl hyn tra fyddwn byw." Yr oedd Edward Parry yn ddyn o gryn dalent a gwybodaeth; meddai ddawn prydyddu cryf, yr hyn a'i harweiniodd i fod ar delerau cyfeillgar â Twm o'r Nant; a dywedir iddo gyfansoddi cryn nifer o benillion, y rhai, erbyn hyn, sydd wedi myned ar ddifancoll. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth, ac ymddengys ei fod wedi priodi pan y cafodd ei argyhoeddi dan weinidogaeth Dafydd William Rhys. Tranoeth, pasiai y pregethwr dŷ Edward Parry, ar ei ffordd i Adwy'r Clawdd, y lle pregethu nesaf gan y Methodistiaid, er fod deng-milltir-ar-hugain o ffordd rhyngddynt. Methodd fagu gwroldeb digonol i siarad a'r cynghorwr; ond gadawodd ei hen gymdeithion, ac ymroddodd i fyned i wrando pregethu pa bryd bynag y caffai gyfleustra. Teimlai awydd cryf i gael pregethu i'w dŷ, a llwyddodd i gael gan Dafydd William Rhys i ddyfod yno. Daeth Cefnbyr, cartref Edward Parry, yn gyrchfa pregethwyr De a Gogledd mewn canlyniad. Eithr trwy hyn tynodd arno ei hun wg llawer, yn arbenig offeiriad y plwyf, a'i