Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynghorwyr o'r Deheudir, yn cael eu cyffroi gan zêl danllyd dros Grist, wedi bod yn y rhan yma o'r wlad yn barod. Adroddai hen ŵr, o'r enw Robert Williams, gof wrth ei alwedigaeth, wrth y diweddar Barch. William Roberts, Amlwch, ei fod ef yn cofio y cynghorwr Richard William Dafydd yn pregethu yn yr ynys, a hyny mor foreu a'r flwyddyn 1740. Safai i lefaru wrth Groes Arthur, yn mhlwyf Mechell; ond ni chafodd nemawr lonyddwch. Ymgasglodd llu o erlidwyr i'r lle, ac yn eu mysg Robert Williams, yr hwn oedd yn llanc tua phymtheg mlwydd oed. Rhuthrasant ar y cynghorwr druan, gan ei faeddu yn ddidrugaredd. Gwnaeth gais i ffoi, a phan welodd nas gallai ddianc trwy gyflymdra, neidiodd i ffôs o ddwfr, gan geisio ymguddio yn nghysgod llwyn o eithin. Eithr cafodd yr erlidwyr afael arno, a churasant ef fel pe bai gi cynddeiriog. Yn y cyfamser, daeth amaethwr cyfrifol i'w mysg, yr hwn a breswyliai yn y T Mawr, Llanrhuddlad, ac wrth weled y cynghorwr yn cael ei gamdrin mor enbyd, efe a'i hamddiffynodd, a bu yn llwyddianus i'w achub o'u crafangau. Nid oes sicrwydd fod yr amaethwr yn ŵr crefyddol, ond meddai deimladau tyner, ac nid oedd yn hoffi gweled dyn diniwed yn cael ei faeddu. Heb fod yn hir bu yr amaethwr farw, ac ar ddydd ei gladdedigaeth, fel yr oedd ei gorph yn cael ei gludo i'r fynwent, disgynodd ehedydd gwyn ar un o gyrn yr elor. Tybiai y dorf wrth edrych fod hyn yn arwydd o gymeradwyaeth y nefoedd iddo am ei waith yn amddiffyn y pregethwr.

Cafodd y Parch. William Roberts ychwanegiad at yr hanes, yn gystal a chadarnhad iddo, yn Lleyn, yn Sir Gaernarfon. Pan ar daith yno, daeth hen ŵr parchus ei olwg ato, gan ofyn a wyddai efe am Llysdulais, yn Môn. Atebodd yntau y gwyddai. "Wel," meddai yr hen ŵr, dyna y lle cyntaf yn Môn ag y cafodd Ymineillduwr amddiffyniad, ac fel hyn y bu. Tua'r flwyddyn 1740, daeth hen weinidog Ymneillduol i ymweled ag Amlwch a'i chyffiniau, yn mhob lle y rhoddid iddo dderbyniad. Dygodd hyn arno erledigaeth ffyrnig. Cyrhaeddodd y sŵn am ei helbul glustiau Mr. Lewis, Llysdulais, un o hynafiaid y pendefig presenol, Arglwydd Dinorben. Gwahoddodd y boneddwr Mr. Bulkeley, Bryndu, i Lysdulais, fel y gallent gydymgynghori, gan fod y ddau yn ynadon, pa beth i'w wneyd yn yr achos. Wedi rhyw gymaint o gydymgynghoriad, anfon: wyd am y pregethwr i ymddangos o'u blaenau. Cynullwyd yr holl deulu i'r neuadd, ac archwyd i'r llefarwr bregethu fel yr arferai wneyd. Hyny a wnaeth yntau. Wedi iddo orphen, dywedodd y boneddwyr "Os dyma ei drosedd, dylem ar bob cyfrif ei amddiffyn, a dystewi ei erlidwyr." A hyny a wnaethant, a chafodd y gŵr da lonyddwch i fyned rhagddo. Nid oes sicrwydd mai Richard William Dafydd oedd y gweinidog; yr unig beth sydd yn bleidiol i hyny ydyw fod yr amser yn cyfateb.

Tua'r flwyddyn 1742, daeth William Pritchard i breswylio i Blas Penmynydd, gerllaw Llangefni, wedi cael ei yru gan boethder yr erledigaeth o Lasfryn Fawr, yn Arfon. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at y gŵr hwn yn croesawu Howell Harris ar ei ymweliad cyntaf â Lleyn. Nid Methodist oedd William Pritchard; perthynai i'r Ymneillduwyr, a thra y bu yn preswylio yn Môn, elai unwaith yn y mis i gymuno i gapel yr Ymneillduwyr i Bwllheli. Ar yr un pryd, yr oedd yn llawn o yspryd y diwygiad, a chroesawai bregethwyr y Methodistiaid i'w dŷ, fel eiddo ei enwad ei hun. Nid oes un amheuaeth ddarfod i'w ddyfodiad i Fôn fod yn gefnogaeth ddirfawr i'r achos Methodistaidd yn yr ynys. Tair blynedd y cafodd William Pritchard fyw yn Mhlas Pen mynydd, cyn iddo gael ei orfodi i ymadael oblegyd ei grefydd; a symudodd i Fodlew Fawr, yn mhlwyf Llanddaniel. Yn mhen pum' mlynedd bu raid iddo ymadael oddi yno oblegyd yr un achos. Yn ei gyfyngder aeth i ddweyd ei gwyn wrth William Bulkeley, Ysw., Bryndu. "Paham yr wyt yn cael dy droi allan o'th dyddyn?" gofynai y boneddwr. "Ai methu talu yr oeddet?" Nage," ebai yntau, " ond oblegyd fy nghrefydd, ac am fy mod yn ymneillduo oddiwrth Eglwys Loegr." "Os felly," atebai Mr. Bulkeley, "cei dir genyf fi." Bu y boneddwr gystal a'i air, a gosododd Clwchdernog iddo ar brydles, ac yno y cyfaneddodd hyd ddiwedd ei oes. Dyn ardderchog oedd William Pritchard; meddai wybodaeth eang, a zêl danbaid. Dyoddefodd lawer oblegyd ei grefydd; bu mewn perygl ganwaith am ei fywyd, ond bu farw yn ogoneddus, gan bwyso ar ei Waredwr.

Yn ystod blynyddoedd cyntaf y diwygiad, ymwelai cynghorwyr y Methodistiaid yn bur fynych â Mon. Bu y Parch. Benjamin Thomas yn pregethu yma yn y