ychydig o'r blaen i blith fy nynion, a danfon (gwedi hyny) at y brodyr. Y mae pedwar neu bump, wrth glywed fy mod i yn rofyn myned, yn dweyd y deuant gyda mi ; a hyny sydd yn peri i mi feddwl nad ydynt wedi ymofyn am ewyllys Duw yn eu galwad. Felly, O Frawd, mi a ddymunwn gael eich cynghor chwi yn hyn. Canys mi a ddanfonais lythyr o'm blaen at ddau ustus heddwch, yr oeddwn yn gydnabyddus â hwy. Mi a fum yn síeward yn edrych ar ol ífermydd un o honynt, a'ni tad o'm blaen. Mi a bromisiais yn fy llythyr fyned i siarad ag ef yn gyntaf cyn cynghori yn y wlad. Canys dyna y ddau a safodd am ryddid i'r Dissentcrs. Ac os gwel Duw yn dda roddi derbyniad i mi, a íîafr yn eu golwg hwy, er bendith i'w heneidiau (goreu oll) ; ac onide, eto, pa un bynag, yr wyf yn resolfio, trwy gymhorth Duw, i fentro fy mywyd dros Grist i bregethu yr efengyl. Yr wyf yn credu, hefyd, y caf gymhorth i dori trwy bob rhwystrau. Felly, O anwyl Frawd, gweddiwch drosof, ac ysgrifenwch eich meddwl, a'r ffordd i ni ddirectio llythyr atoch i Lundain. O Frawd, yr wyf fì er ys saith mlynedd yn derbyn rhoddion y cyfamod newydd yn effeithiol, ond mi a debygwn nad wyf ond yn dechreu gweled eu gwerthfawrogrwydd. . . . Püb peth sydd yn eiddo i mi trwy Grist ! Bendigedig byth ; Amen ! Dyma yr olwg sydd yn llanw fy enaid â zêl efengylaidd ; zêl yn llefain yn erbyn pechod, yn galaru am bechod, ac yn llefain yr un pryd : ' Ys truan o ddyn ydwyf fi! Pwy a'm gwared oddiwrth gorph y farwolaeth hon! "Dyma yr olwg sydd yn gweithio ynof fwy o newyn a syched am sancteiddrwydd, am fod yn fwy tebyg i Dduw, cael mwy o ddelw Duw ar fy enaid, a dwyn mwy o ogoniant i Dduw bob mynyd o'm bywyd. Amen, ac amen. Oddiar yr olwg hon, yr wyf yn gweled dull y byd hwn yn myned heibio, y gogoniant tragywyddol bron ymddangos, a'm henaid inau yn hiraethu am i Dduw brysuro yr amser i gasglu ei saint yn nghyd."
Rhydd y llythyr hwn syniad clir i ni am dduwiolfrydedd y cynghorwyr cyntaf, am wresawgrwydd eu zêl, a llwyrder eu hymroddiad. Gwelwn hefyd fod llawer o honynt, ac yn eu mysg Richard Thomas, yn berchen ar dalent naturiol gref, a'u bod yn dra Ysgrythyrol o ran eu golygiadau. Y mae yn amlwg ddarfod i'r Ỳsgrifenydd breswylio yn y Deheudir am gryn amser, oblegyd defnyddia, yn ei lythyr, amryw eiriau, a dulliau o ymadroddi, nad ydynt yn arferol yn y Gogledd. Ymddengys ddarfod i Richard Thomas gael ei argyhoeddi ar un o deithiau cyntaf Howell Harris i Forganwg, oblegyd dywed yn y llythyr ei fod yn profi bendithion y cyfamod newydd er ys saith mlynedd, a dyddiad y llythyr yw 1746. Un o'r ddau ustus heddwch y cyfeiria atynt oedd Mr. Bulkeley, Bryndu, un o hynafiaid Mr. Bulkeley Hughes, y diweddar aelod tros Arfon. Y llall yn ddiau oedd Mr. Lewis, Llysdulais. Ceir yma gadarnhad hollol i'r hanes blaenorol parthed y ddau foneddwr hyn yn sefyll o blaid yr Ymneillduwyr. Ychydig o hanes Richard Thomas, gwedi ei fynediad i Fôn, sydd genym. Dywed traddodiad iddo bregethu trwy yr ynys o gvr i gẁr, ac iddo fod yn llwyddianus i droi llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd.
Prin blwyddyn y cafodd Richard Thomas y fraint o fod yr unig gynghorwr Methodistaidd yn Môn; yn fuan, daeth un Hugh Griffith, o Leyn, ato. Cawsai y gVr hwnw ei ddal yn Lleyn, a'i bressio i fod yn filwr; ond gan ei fod yn ddyn chwim, a chyflym ar ei droed, dihangodd o grafangau ei erlidwyr, ac er pob ymgais methwyd dod o hyd iddo drachefn. Yn Modlew Fawr, gyda William Pritchard, y cafodd noddfa. Yr oedd efe a WiUiam Pritchard yn dyfod o'r un wlad, ac wedi cael eu herlid allan o honi, ill dau, oblegyd eu crefydd. Yn mhen enyd, gwnaeth ei gartref yn Llanddaniel, ac yma yr arosodd hyd ddydd ei farwolaeth. Bu yntau yn ddiwyd yn cynghori ei gydbechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd ; ond dywedir y buasai ei ddefnyddioldeb yn fwy oni bai fod ei dymher mor boethlyd.
Y mae yn bur sicr i Howell Harris fod yn yr ynys droiau. Cofnodir un o'i ymweliadau gan y rhigwm a adroddid yno:—
"Howell Harris ar ei horse
O Lanerchymedd i Lanygors,
Ac oddiyno i Gareglefn."
Cyfeiria y dydd-lyfr at ymweliad o eiddo Mr. Harris â Môn, yn mis Hydref, 1747. Bu yn yr ynys, hefyd, y flwyddyn ganlynol. Drwg genym nad oes hanes manwl ar gael am yr ymweliadau yma, ac felly, nas gallwn wybod pa Iwyddiant a ganlynodd ei weinidogaeth. Yr ydym yn darllen am dano, hefyd, yn talu ymweliad brysiog a'r ynys yn y flwyddyn 1750, pan y gwnelai y fath ymdrech i gael yr holl seiadau iddo ef a'i blaid. Dywed iddo fod yn pregethu yn yr Ysgubor Fawr, ac yn Llanfihangel.