Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hangel. Ei destun yn y lle blaenaf oedd : "Yn y byd gorthrymder a gewch;" a'i fater yn y lle olaf oedd, anfeidroldeb dyoddefiadau Crist. Braidd nad oes yn yr hanes awgrym mai ychydig o seiadau oedd gan y Methodistiaid yn Môn yn y flwyddyn 1750. Nid anhebyg fod y teimlad cyffredin yn mhlith y crefyddwyr yn yr ynys yr adeg yma, fel yn y rhan fwyaf o Wynedd, o blaid Harris yn hytrach na Rowland.

Llwyddo a wnaeth yr achos yn Môn er gwaethaf pob gwrthwynebiad. Bu yma lawer o erlid, a throwyd llawer allan o'u ffermydd oblegyd eu hymlyniad wrth Fethodistiaeth. Darllenwn am ddeunaw o amaethwyr bychain yn cael eu gwysio i ymddangos yn Mhlas Lleugwy, yn y flwyddyn 1768, gerbron goruchwyliwr Arglwydd Boston, ac offeiriad y plwyf, i roddi cyfrif o'u crefydd. Gofynid iddynt addaw nad aent i wrando ar y Methodistiaid drachefn; os gwnaent, y caent aros yn eu ffermydd; eithr oni wnaent, y byddai raid iddynt ymadael. Anturiodd Owen Thomas Rowlands, yr hwn oedd yn dipyn o gynghorwr, ddadleu a'r goruchwyliwr. Dywedai fod y llywodraeth wladol yn caniatau rhyddid i bawb addoli lle yr ewyllysient. Eithr unig ateb y goruchwyliwr ydoedd : "Dyna orchymyn fy meistr." Ar hyn, wrth feddwl am y fraint o gael dyoddef dros ei grefydd, dechreuodd un o'r deunaw, sef Richard Williams, Tyddyn Bach, guro ei ddwylaw, a llefain dros y lle : "Bendigedig fyddo Duw! Hosanah i Fab Dafydd!" Dychrynodd y goruchwyliwr yn enbyd, a syrthiodd y bapyrlen o'i law. Aeth y Methodistiaid allan, a gwaeddai Richard Williams : " Ffarwel, frodyr anwyl! pwy bynag a wertho deyrnas a choron am dyddyn o dir, a thalu yn ddrud am dano, ni wnaf fi hyny byth, os caf gymhorth gan y Brawd a anwyd erbyn caledi." Aeth rhai yn ol, gan ymrwymo i wneyd yr hyn a geisid ganddynt, eithr syrthiasant dan ddirmyg cyffredinol. Ond am y rhai a safasant at eu penderfyniad, derbyniasant barch gwlad, a buont fyw a marw yn hapus. Bu nifer o fân bregethwyr yn Môn yn y cyfnod cyntaf, megys Richard Jones, Niwbwrch; Richard Dafydd, Amlwch; Owen Thomas Rowlands; William Roberts, Amlwch; a Michael Thomas, Llanddaniel; ond ni chaniata ein terfynau i ni roddi eu hanes.