Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXII.
JOHN EVANS, Y BALA.

Ei rieni yn ddynion dychlynaidd, ond heb fod yn grefyddol—John Evans yn dysgu darllen yn icuanc, ac yn cael blas ar ranau hanesiol y Beibl yn troi allan yn llans gwyllt—Yn anmharod i gymeryd ei lw—Yn symud i'r Bala—Yn ymuno a'r Methodistiaid—Yn myned i Gymdeithasfa Trecastell, a bugail yn ei gyfarwyddo—Yn dechreu pregethu—Yn bregethwr syml a sylweddol—Yn mynychu Cymdeithasfaoedd De a Gogledd—Humphrey Edward William Evans, Fedwarian—Evan Moses—Sion Moses—Adwaen ein gilydd yn y nefoedd—Nifer o ffraeth ddywediadau John Evans—Ei graffder yn y seiat—Cael oes hir Yn cymeryd rhan yn yr ordeiniad cyntaf—Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.

JOHN EVANS, y Bala, oedd y pregethwr Methodistaidd cyntaf a gynyrchodd Gwynedd, ag y gellir dweyd am dano ei fod yn enwog trwy holl Gymru. Ac yr oedd ei enwogrwydd yntau yn gynwysedig yn fwy mewn ymroddiad diflino, penderfyniad anhyblyg, medr i arwain mewn amgylchiadau o ddyryswch, toraeth o synwyr, a rhyw ffraethder arbenig o'i eiddo ei hun, nag mewn doniau gweinidogaethol. Cafodd ei eni yn Glanyrafon, yn agos i Wrexham, yn y flwyddyn 1723, felly, yr oedd yn hogyn tua deuddeg mlwydd oed pan gychwynodd y diwygiad Methodistaidd. Pan yr oedd tua phedair oed, symudodd ei rieni i gymydogaeth Adwy'r Clawdd, i dyddyn bychan a berchenogent hwy eu hunain. Ar y tir hwn adeilasant amryw dai. Dywed Methodistiaeth Cymru fod y tai yn sefyll yn y flwydd yn 1851, a bod yn mur un o honynt gareg, ar yr hon yr oedd yn gerfiedig:—

E
W A
1728

Y mae yn amlwg felly, er nad oedd rhieni John Evans yn gyfoethog, eu bod yn gefnog, ac yn byw yn gysurus. Nid oeddynt yn grefyddol yn ystyr gyffredin y gair. Aent i'r eglwys ar y Sul; arweinient fywyd dychlynaidd; dysgent eu mab i fyw yn foesol, gan beidio dywedyd celwydd a thyngu, peidio lladratta, a pheidio halogi y Sabbath. Ond nid oedd ganddynt unrhyw ddirnadaeth am gyflwr euog pechadur, nac am wirioneddau mawrion a neillduol trefn yr iachawdwriaeth. Buasai eglwys Ymneillduol enwog yn Ngwrexham; bu Morgan Llwyd, o Wynedd, yn weinidog arni am beth amser; ond erbyn hyn, fel y cyffredin o eglwysi Ymneillduol y wlad, yr oedd wedi syrthio i farweidddra, ac yn cael ei anrheithio gan gwerylon. Felly, nid oedd gan rieni John Evans ond yr Eglwys Wladol i ddybynu arni am hyfforddiant crefyddol, ac ychydig iawn a gaent yno.

Derbyniodd y bachgen John addysg ragorach nag a arferid roddi i blant yr adeg hon. Medrai ddarllen ei Feibl yn rhigl, a hyny yn Gymraeg ac yn Saesneg, pan yn rhyw ddeg oed. Daeth hefyd yn alluog i ysgrifenu a rhifyddu. Ymddengys iddo gael blas yn foreu ar ranau hanesiol y Beibl. Meddai hanes Noah, Abraham, Joseph, ymadawiad Israel o'r Aipht, y daith yn yr anialwch, a'r cyffelyb, swyn diderfyn iddo; nid yn unig ymgydnabyddai a'r hanesion yma ar ei ben ei hun, gan eu trysori yn ei gof, eithr elai i dai y cymydogion, ac adroddai hwynt yno. A chan anamled ydoedd Beiblau yr adeg hono, ac mor lleied oedd yn alluog i ddarllen, yr oedd y pethau a adroddid allan o'r Ysgrythyr mor ddyeithr i'r bobl o gwmpas, ag a fuasent i anwariaid Affrica. Eithr fel yr oedd yn tyfu i fynu, collodd ei hyfrydwch yn y Beibl i raddau mawr, a dechreuodd ganlyn cwmni annuwiol, gan gymeryd dyddordeb yn y chwareuyddiaethau a gynhelid ar y Sabbath. Yn ofer yr ymliwiai ei fam ag ef, yr oedd hudoliaeth y chwareu yn ormod iddo allu ei gwrthsefyll; a threuliai ddydd Duw o foreu hyd hwyr i ganlyn oferedd. Eithr dychwelai adref dan lwyth o euogrwydd cydwybod; byddai ofn marw a'r farn bron llethu ei feddwl; ac erbyn cyrhaedd y tŷ, yr oedd ei fam gyda ei cherydd, fel pe byddai yn