ymgorphoriad o Sinai a'i chyfraith, yn ei aros. Yn hanes ei fywyd, dywed i Dduw ei atal rhag syrthio i bechodau rhyfygus cyhoedd; cafodd ei gadw rhag godineb, meddwdod, lladrad, a rhegu; a cheisiai yn fynych wneyd plastr o'r rhinweddau hyn i'w cymhwyso at ei gydwybod friw, "heb wybod eto," meddai, "fod cyfraith Duw yn dal ar egin y pechodau hyny yn y galon." Nid oedd wedi deall fod trachwantau y galon yn bechodau gwaedd- fawr, a bod Duw yn dal dyn yn gyfrifol am feddyliau halogedig, yn gystal ac am weithredoedd drwg.
Pan rhwng deuddeg a thair-ar-ddeg oed, rhwym wyd ef yn egwyddorwas gyda gwehydd; a thyfodd yn fachgen iraidd, cryf, a thal. Nid oedd nemawr o'i gyfoedion a allai gystadlu ag ef mewn corpholaeth a chryfdwr. Wedi gorphen tymhor ei ymrwymiad, cododd chwant cryf arno i ymrestru yn filwr; a dagrau ac ymbiliau ei fam yn unig a'i hataliodd rhag gwneyd hyny. A phrin y llwyddodd hyny, oblegyd unwaith aeth mor bell a Chaerlleon, gyda'r bwriad o ymuno a chatrawd o feirchfilwyr. Eithr erbyn cyrhaedd y ddinas, yr oedd y meirchfilwyr wedi ymadael y diwrnod blaenorol. Cafodd bob anogaeth i ymrestru gyda'r gwŷr traed oedd yno, ond hyny nis gwnai. Gan mai bychan oedd y tal am weithio fel gwehydd, gadawodd y grefft am dymhor, ac aeth i weithio i'r gwaith mŵn plwm oedd ryw gymaint o bellder o'i gartref. Yma, gan ei fod yn ymgymysgu ag oferwyr, a'i fod wedi myned i letya o dŷ ei rieni, ac felly, wedi colli rhybuddion ei fam, gwisgodd ymaith yn hollol bob difrifwch, a daeth yn un o'r İlanciau gwylltaf o fewn i'r lle. Ei awydd mawr yn awr oedd myned i Loegr, er gweled y byd. Nid oedd dim pellach o'i feddwl na phreswylio yn Nghymru fynyddig. "Ond i Gymru," meddai, "y gorfu dyfod."
Yr ydym yn dyfod yn awr at amgylchiad y gellir yn briodol edrych arno fel trobwynt ei fywyd. Tuag at iddo ddyfod tan ddylanwad yr efengyl, rhaid oedd ei yru allan o'i ardal enedigol, ac yr oedd y dull a gymerodd Rhagluniaeth i ddwyn hyn oddiamgylch yn dra hynod. Meddai ef, pan yn ysgrifenu hanes ei fywyd, gwedi myned i wth o oedran: "Yr wyf hyd heddyw, wrth edrych yn ol, a chofio fel bu, yn rhyfeddu y ffordd a gymerodd yr Arglwydd i'm gyru o'm cymydogaeth fy hun, i gymydogaeth nad oeddwn yn adnabod na dyn na dynes ynddi, sef i'r Bala, lle yr wyf yn preswylio er ys dwy-flynedd- ar-bymtheg-a-deugain." Yr oedd yr amgylchiad fel y canlyn: Cododd ymrafael chwerw rhwng y gŵr y lletyai John Evans yn ei dy â chymydog iddo. Mor enbyd oedd y teimlad rhyngddynt, fel y bygythiodd y cymydog, yn nghlyw John Evans, y lladdai y gŵr. Teimlodd John Evans ei bod yn ddyledswydd arno i hysbysu ei letywr, a'i osod ar ei wyliadwriaeth. Mynegwyd yr un bygythiad i'r gŵr gan eraill. Mewn canlyniad, cododd yntau warant i ddal y bygythiwr, a'i ddwyn gerbron yr ynadon, a gwysiwyd John Evans, yn mysg eraill, i fod yn dyst. "Yn awr," meddai John Evans, "y mae bys Duw i'w weled. yn dechreu gweithio i ddwyn ei amcan i ben. Canys ar y ffordd wrth fyned o flaen yr ustus, daeth meddyliau dwys a difrif ataf, mai peth mawr a phwysig oedd cymeryd llw; ac mai rhaid oedd wrth gymeryd llw ddywedyd y dull y dywedodd y dyn yn gymhwys bob sillaf a llythyren, ac onide y byddai y llw yn llw drwg, a bod llw drwg yn bechod yn erbyn yr Yspryd Glân, yr hwn bechod nad oes maddeuant o hono, nac yn y byd hwn, nac yn yr hwn a ddaw. Gweithiodd yr ystyriaethau hyn mor rymus ar fy meddwl, fel y darfu i mi benderfynu na chymerwn un llw; nid am fod genyf un duedd at un o'r pleidiau mwy na'u gilydd, ond bod arnaf ofn na chofiwn y dull yn gymhwys y dywedodd y dyn. Wedi myned gerbron yr ustus, galwyd y tystion yn mlaen, a rhoddwyd eu llwon iddynt, a myfi oedd y diweddaf a alwyd. Dywedais wrth yr ustus nad oeddwn yn chwenych myned ar fy llw, o herwydd na buaswn erioed ar fy llw. Yntau a atebodd fod yn rhaid i mi fyned ar fy llw fel tyst yn yr achos. Minau a ddywedais nad awn i ddim ar fy llw. Yntau a atebodd, os nad awn, yr anfonai fi i'r carchar. Minau a ddywedais fod yn well genyf hyny, a'r dagrau yn treiglo o fy llygaid. Pan welodd yr ustus hyny, deallodd mai ofn cymeryd fy llw oedd arnaf, ac nid cyndynrwydd i roddi fy llw yn yr achos; a bu yn fwy tyner wrthyf, a dywedodd: Nid yw llw ond yn gofyn y gwir hyd eithaf eich gwybodaeth. Felly y bu. Cymerais fy llw, gan ofalu dweyd y gair hwnw, 'hyd eithaf fy ngwybodaeth.' Rhwymwyd y bygythiwr am ei fygythion, ac achosion eraill a dystiwyd i'w erbyn, i'r sessiwn fawr."
Dengys yr hanes dynerwch cydwybod,