Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gofal am eirwiredd, na cheir yn fynych ei gyffelyb, yn arbenig mewn llanc ieuanc digrefydd. Eithr nid oedd ei brofedigaeth trosodd eto. Er iddo ofalu, wrth gymeryd ei Iw, ddywedyd mai hyd eithaf ei wybodaeth yr oedd yn tystio, llanwyd ei feddwl â dychryn drachefn rhag nad oedd wedi bod yn hollol ffyddlon i'r gwirionedd. Ofnai ei fod wedi dywedyd rhywbeth nad oedd yn hollol gywir, a'i fod felly wedi cymeryd llw drwg, ac wedi pechu yn erbyn yr Yspryd Glân. Bu yn derfysg ofnadwy yn ei feddwl ; cihodd cwsg oddiwrtho am wythnosau, "a phrin," meddai, "y dihengais a'm bywyd a'm synwyrau genyf." Eithr cafodd waredigaeth annysgwyhadwy. Yn nhŷ cymydog, daeth o hyd, yn ddamweiniol, i lyfr bychan, sef Saith Pregeth Mr. Robert Russell. Ymdriniai y gyntaf o'r saith a'r pechod yn erbyn yr Yspryd Glân. Darllenodd y bregeth yn awchus, a symudwyd ei ofnau yn llwyr, "mor llwyr ag y bydd yr haul yn llyncu i fynu wlih y wawr."

Eithr yr oedd y sessiwn yn agoshau, ac yn ei fyw nis gallai John Evans ymgymodi a'r syniad o gymeryd ei lw drachefn. Fel yr oedd yr adeg yn dyfod yn nes, yr oedd ei drallod yntau yn mwyhau. Y Sabbath o flaen y sessiwn penderfynodd ddianc, ac aeth ymaith o dŷ ei dad heb yngan gair wrth neb. Bwriadai, ar y cyntaf, fyned i Sir Fflint, i rai o'r gweithiau mŵn oedd yno. Ond wedi cychwyn, daeth i'w gof ddarfod iddo glywed fod gwaith mŵn plwm mawr yn Sir Aberteifi, ac mai trwy y Bala yr oedd y ffordd yno. Trodd o'r ffordd ar hyd pa un y cychwynasai, a chyfeiriodd ei gamrau tua'r Bala, gan gyrhaedd yno, wedi teithio tua deng- milltir-ar-hugain, yn hwyr y dydd. Erbyn cyrhaedd y dref, yr oedd yn flin, ac heb wybod pa le i droi am lety; nid oedd ei logell ychwaith yn rhy lawn. Meddyliodd y gallai fod yno wehyddion, ac o bosibl y caffai waith gwau, fel ag i enill ychydig arian i orphen ei daith. Wedi holi, cyfarwyddwyd ef i dŷ hynafgwr, o'r enw Edward Williams, yr hwn a'i gwahoddodd ef i mewn, ac a ddangosodd barodrwydd i roddi llety iddo. Eithr nid ymddiddanai ag ef am wau, am mai y Sabbath ydoedd.

Dyma John Evans yn y Bala, lle y trefnasai Rhagluniaeth iddo dreulio y gweddill o'i oes. Daeth yma yn y flwyddyn 1742, ac efe yn llanc deunaw mlwydd oed, sef yn mhen tua blwyddyn gwedi i Howell Harris gael ei gamdrin mor enbyd yn y lle. Nid oedd yma yr un achos eto gan y Methodistiaid ; ymgynullai yr ychydig a gawsent eu hargyhoeddi trwy weinidogaeth Howell Harris gyda'r Ymneillduwyr yn nhŷ Edward Williams. Yr oedd Edward Williams yn ŵr nodedig o dduwiol; cynhaliai addoliad teuluaidd gyda chysondeb, a byddai yn teithio milltiroedd i glywed gair Duw yn cael ei bregethu. Trwy gael aros yn ei dŷ ef, syrthiodd llinynau John Evans mewn lle tra dymunol. A phrin yr oedd y gŵr ieuanc wedi cael hamdden i ymddadluddedu pan y dechreuodd y cyfeillion crefyddol ymgasglu i'r lle, a dechreuasant yn ddioed ar eu gorchwyl, sef darllen, gweddio, a chanu mawl. Gwnaent hyn gyda'r fath fywiogrwydd, a gwresawgrwydd yspryd, nes synu y llanc ; nid oedd wedi gweled na chlywed y fath beth o'r blaen; nis gwyddai beth i'w wneyd o honynt; ond meddai, "nid oeddwn yn cael dim allan o le yn yr hyn a ddywedent, na'r hyn a wnaent." Ni ddarfu i'w haddoliad ddylanwadu ar ei deimlad ef, safai megys yn y pellder, gan edrych ar y cwbl mewn yspryd beirniadol. Boreu tranoeth, gwedi darllen a gweddîo, cytunodd ag Edward Willims i aros gydag ef i wau. Dechreuodd feddwl efallai fod a fynai yr Arglwydd a threfnu iddo gael gwaith mor hawdd, mewn lle oedd yn gwbl anadnabyddus iddo. Ond nid oedd eto wedi ei gyfnewid ; yn wir, nid oedd wedi ei ddifrifoli, nac wedi ei ddiddyfnu oddiwrth ei hen rysedd. Bu am agos i haner blwyddyn gwedi myned i'r Bala yn dilyn oferedd megys cynt. Trwy drafferth fawr, medrodd Edward Williams ei berswadio, un nos Sabbath, i fyned gydag ef i'r Weirglodd Gilfach, yn nghymydogaeth Llanuwchllyn, i wrando gŵr dyeithr yn pregethu. Dyna y tro cyntaf iddo gly wed Ymneillduwr yn pregethu. Eithr beirniad oedd John Evans yn yr odfa; synai yn fawr weled y llefarwr yn gallu traddodi heb lyfr; eithr ni chyffyrddodd dim a'i galon. Yr holl effaith a gafodd y bregeth arno, medd efe ei hun, oedd ei ddifyru. Ond ymddengys ei fod yn cael pleser wrth wrando; os nad oedd ei galon yn cael ei hargyhoeddi, yr oedd ei ddeall yn cael ei oleuo; ac wrth arfer mynychu y cyfarfodydd, daeth i ddirnad athrawiaethau yr efengyl, ac i ddeall mai trwy ffydd yn Nghrist y cyfiawnheir pechadur. Yn raddol, gadawodd bob drwg arferion, gan arwain bywyd dychlynaidd, eithr nid oedd yn proffesu.