fynai yntau; dywedai fod achos pwysig yn galw am iddo fod gartref yn foreu tranoeth. "Ymddiriedwch i Ragluniaeth," meddai un o'r brodyr wrtho. Atebai yntau yn ol: "Rhaid i mi wneyd fy ngwaith fy hun. Ni wna Rhagluniaeth doddi y gwer, a ffurfio canwyllau, rhaid i mi gyflawni hyny, neu bydd heb ei wneyd." Oni bai ei fod mor ofalus am ei amgylchiadau ar yr wythnos, nis gallai wasanaethu yr efengyl fel y gwnelai ar y Sabbath.
Fel y gellid dysgwyl, pregethwr sylweddol, yn traethu y gwirionedd yn y symlrwydd o hono, oedd John Evans. Byddai llawer o'r cynghorwyr y pryd hwnw yn apelio yn benaf at y temlad; deffro yr annuwiol oedd eu hamcan; ac wrth gyhoeddi dystryw ar anwir fyd, byddent yn bloeddio, ac yn llythyrenol gyflawni y gorchymyn "Llefa a'th gêg, nac arbed." Yr oedd hyn yn ateb yr amseroedd yn dda, a bu dan fendith Duw i gyrhaedd yr amcan ddegau o weithiau. Tybiai rhai, felly, fod bloeddio yn elfen anhebgor mewn pregeth. Eithr goleuo y deall, porthi y bobl â gwybodaeth, gan apelio at y teimlad a'r nwyd trwy y ddirnadaeth, a wnelai John Evans. Felly, yr oedd ei ddull o ymadrodd yn dawel, ac ni fyddai un amser yn dyrchafu ei lef. Mawr hoffid ef gan y rhai mwyaf deallgar; yr oedd eglurder ei arddull, Ysgrythyroldeb a symledd ei iaith, cadernid ei ymresymiad, a'r duedd ymarferol fyddai i'w holl bregethau, yn ei wneyd yn nodedig o gymeradwy gan y rhai a roddent bwys ar sylwedd a gwirionedd. Traddodai yn ei lais siarad naturiol, heb unrhyw ymgais at oslef na thonyddiaeth. Pan y gofynai rhywun iddo paham na fyddai yn bloeddio ac yn poethi yn y pwlpud, fel y gwnelai y cyffredin o'r pregethwyr, atebai, yn ei ddull ffraeth ei hun, nad oedd dim eisiau chwysu wrth ddweyd y gwir. Oblegyd ei arafwch, cymerodd rhyw ychydig o bregethwyr ei achos dan ystyriaeth, ai nid gwell iddo fyddai rhoddi y pregethu i fynu. Yr oedd hyn cyn i Mr. Charles ymsefydlu yn y Bala, a chyn ffurfio y Cyfarfod Misol. Wedi cryn lawer o siarad, deuwyd i'r penderfyniad, gan nad oedd fawr arddeliad yn ymddangos ar ei weinidogaeth, na fawr hwyl yn cydfyned a'i draddodi, mai gwell fyddai iddo ymatal, a phenodwyd brawd i gario y genadwri iddo. "Ho," meddai yntau yn ol," ewch at y rhai a'ch anfonodd, a dywedwch y parhâf i bregethu hyd nes y gwelaf bregethwyr gwell na mi yn codi." Yr oeddent yn haeddu y sen, yn ddiau, oblegyd os oedd angen am bregethwyr cyffrous, i daranu uwchben yr annuwiol, yr oedd llawn cymaint o eisiau pregethwyr o fath John Evans, i hyfforddi y bobl yn egwyddorion crefydd, ac i'w hadeiladu yn ngwirioneddau yr efengyl.
Mynychai John Evans Gymdeithasfaoedd y Deheudir fel rhai'r Gogledd, a dywedir mai cerdded ar ei draed y byddai yn wastad. Yr ydym yn cael, yn nyddlyfr Howell Harris, ei fod ef, a'i gyfaill Humphrey Edward, yn bresenol yn Nghymdeithasfa Castellnewydd-Emlyn, Hydref, 1764 a phan yr aeth yn ddadl boeth rhwng Harris â rhai o'r cynghorwyr am y priodoldeb o gadw yn mlaen y Sefydliad yn Nhrefecca, cynygiai yr olaf fod y mater yn cael ei gyflwyno i'w benderfynu gan y ddau Ogleddwr. Ond ni chydunai Mr. Harris a hyn, ystyriai ei fod yn nglyn ag adeiladiad Trefecca dan gyfarwyddyd dwyfol. Eithr prawf cynygiad y cynghorwyr fod John Evans, yr adeg foreu hyn—oblegyd efe oedd y penaf o'r ddau—nid yn unig yn dra adnabyddus yn y Deheudir, ond hefyd fod ymddiried cyffredinol yn ei farn, er nad oedd yr adeg hon wedi dechreu pregethu. Yr oedd yn bresenol, hefyd, yn Nghymdeithasfa Abergwaun, Chwefror 14, 1770, ac yr oedd Howell Harris ac yntau yn tynu y dorch am y Gymdeithasfa ddyfodol; Harris yn ei gwahodd i Drefecca, a John Evans yn ei gofyn i'r Bala. Haner ddigiai Harris oblegyd fod y cynghorwr o'r Bala yn ei wrthwynebu, a dywedai na fyddai gwrthod ei gais ef am y Gymdeithasfa yn dangos fawr cariad. Ceryddai John Evans ef wrth ateb am osod ei deimlad personol ei hun o flaen daioni ysprydol yr oll o Wynedd. A John Evans a orfu. Rhaid oedd wrth wroldeb dirfawr i wrthwynebu gŵr o ddylanwad Howell Harris, ond yr oedd John Evans yn ddigon galluog i'r gwaith.
Y mae amryw o hen gynghorwyr y Bala, y rhai oeddynt yn cydfyw â John Evans, yn haeddu gair o sylw. Un ydyw Humphrey Edward. Brodor Lanllugan, yn Sir Drefaldwyn, ydoedd; ac yno y cafodd grefydd. Nid annhebyg mai gweinidogaeth Howell Harris a fu yn foddion argyhoeddiad iddo. Aeth yn bur ieuanc i wasanaethu i Bentyrch, gerllaw Llanfaircareinion. Y mae hanesyn am dano yma yn teilyngu ei gofnodi. Yr oedd gan Humphrey Edward geffyl bywiog, yn cael ei gadw ar dir ei feistr. Ryw dro,