Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi i amryw ddweyd eu meddyliau, a phawb yn dangos petrusder, gofynwyd barn John Evans. Meddai yntau: "Wel, y cam cyntaf tuag at fyned trwy y porth cyfyng yw troi y wyneb ato." A'r ymadrodd hwn, gwnaeth y ffordd yn rhydd i'r wraig, yr hon oedd mewn trallod meddwl dirfawr, i gael aros yn nghymdeithas y saint.

Pan yr oedd John Evans mewn gwth o oedran, a'i glyw wedi myned yn ddrwg mewn canlyniad, cynhelid Cymdeithasfa yn y Bala. Y llywydd oedd Mr. Charles, a phwnc y seiat neillduol oedd ffydd. Yr oedd amryw o'r colofnau yn bresenol, megys Jones, Llangan, Nathaniel Rowland, ac eraill. Datgenid amryw farnau gyda golwg ar y gras oedd dan sylw; dywedai rhai mai goleuni yn yr enaid yw gwir ffydd; mynai eraill mai perswadiad y meddwl i gymeryd Duw ar ei air ydyw. Y diweddaf i siarad oedd Dafydd Jones, Llangan, a dywedai ef mai mentro yw ffydd, mentro'r bywyd ar Fab Duw am byth. Cyn cloi y pwnc i fynu, trodd Mr. Charles at John Evans, yr hwn a eisteddai dan y pwlpud, a gofynai a oedd efe yn clywed. Atebai yntau nad oedd yn deall nemawr. "Siarad am ffydd y maent," ebai Mr. Charles. "Efallai yn siwr," meddai John Evans yn ol;" "beth y maent yn ddweyd yw gwir ffydd?" "O, y mae gwahanol farnau yma; y peth diweddaf a ddywedwyd yw mai menter ydyw; mentro yr enaid ar Grist." "Y mae y dywediad yn gywir," ebai yr hen batriarch; "menter ydyw ffydd, ond cofiwch hyny, menter a'i llygad yn ei phen ydyw. Y mae ffydd yn mentro, ac y mae rhyfyg yn mentro yn ogystal; ond cyn y gwnaiff ffydd fentro, rhaid iddi gael sail, sef Gair Duw."

Y mae amryw o'i ddywediadau yn dal cysylltiad a'r Parchedig Thomas Charles. Un dydd Sadwrn, yr oedd yn ddiwrnod garw anarferol, ac yr oedd cyhoeddiad Mr. Charles dranoeth mewn lle bychan yn nghanol mynyddoedd Meirionydd. Cryfhau a wnelai yr ystorm; chwythai y gwynt yr eirwlaw oer i lawr o fynydd y Berwyn, nes yr oedd braidd yn beryglus myned allan o dŷ. Petrusai Mr. Charles beth i'w wneyd, mentro i'w gyhoeddiad trwy y tywydd neu beidio. Yn ei betrusder anfonodd y forwyn i dŷ yr hen John Evans, yr hwn oedd gerllaw, i ofyn cynghor. Meddai yntau yn ol : "Gofynwch i Mr. Charles pa un ai meistr ai gwas ydyw. Os meistr, gall wneyd fel yr ewyllysio; y mae ei ddewis ar ei law. Ond os gwas, rhaid iddo ufuddhau i'r alwad arno.' Penderfynodd hyn y mater; ac er mor enbyd a pheryglus yr ystorm, i'w gyhoeddiad yr aeth Mr. Charles.

Pan yr oedd Mr. Charles yn sal, ac yn dyoddef yn drwm dan law y meddygon, o herwydd tori ymaith ran o fawd ei law, cyrchai John Evans i'w weled bob dydd. Un diwrnod, yr oedd yspryd y claf yn dra isel; darganfyddasai y meddyg fod y llygredigaeth wedi cyrhaedd yn mhellach na'r rhan a gawsai ei thori i ffwrdd, ac y byddai raid dadgymalu y gweddill o'r bawd. Gofynodd yn dra sobr i'w hen gyfaill "John Evans, beth ydych yn feddwl a wna yr Arglwydd o honof?" "Nis gwn i yn wir," meddai yntau, "beth a wna efe o honoch; ond mi a wn hyn, Syr, na wna ef ddim cam â chwi, canys nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater." Cydiodd y dywediad yn meddwl Mr. Charles, a thystiai gwedi hyny wrth y Parch. John Parry, o Gaer, i'r geiriau fforddio cysur cryf iddo pan dan gyllill llymion y meddygon. Wrth ymweled a'i gyfaill claf, ni fyddai John Evans un amser yn ymadael heb ddarllen a gweddïo. Ac yn ddieithriad, dewisai i'w darllen gyfran o'r Beibl a fyddai yn cyfeirio at ddyoddefiadau yr Arglwydd Iesu. Sylwodd Mr. Charles ar y peth, a gofynodd iddo y rheswm am hyny "oblegyd mi wn," meddai, "fod genych ryw amcan mewn golwg." "Oes, Syr," ebai yntau yn ol, "y mae genyf amcan mewn golwg. Nid oes gwir ddyddanwch yn tarddu o un man, ond o ddyoddefiadau Crist; ac nid oes dim mor debyg o'n dwyn i ddyoddef yn amyneddgar a chydnabyddiaeth agos a'i boenau ef, yr hwn a ddyoddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid."

Meddai Mr. Charles ymddiried diderfyn yn ei farn. Mewn Cyfarfod Misol, unwaith, ymddiddenid â nifer o wŷr ieuainc, gyda golwg ar eu derbyniad i'r weinidogaeth. Wedi i amryw siarad, trodd Mr. Charles at John Evans, gan ofyn a oedd gair ar ei feddwl i'w ddweyd. Cododd yntau ar ei draed, a dywedodd: "Oes, y mae genyf un cwestiwn i'w ofyn iddynt. Beth yw eich amcan wrth bregethu? At ba beth yr ydych yn anelu yn mhob pregeth? " Meddai Mr. Charles yn ol : "Efallai mai gwell i chwi ddweyd at beth y dylent amcanu; byddai hyny yn