hyfforddiant i ni oll." "Wel," ebai yntau, "chwi a ddylech yn mlaenaf amcanu at oleuo deall eich gwrandawyr; nid oes modd cael gwir leshad wrth wrando, tra y byddo y deall yn dywyll. Yn nesaf, dylech amcanu deffro cydwybodau euog a chysglyd. Anelwch y saethau sydd i'w cael yn ngeiriau y Goruchaf at eu calonau, i edrych a wel Duw yn dda fendithio hyn er eu cyffroi, a pheri iddynt waeddi, wedi eu dwysbigo, fel y dorf ar ddydd y Pentecost, Ha, wyr frodyr, beth a wnawn ni?' Yn nesaf, amcenwch yn mhob pregeth at enill y serchiadau, a dwyn y bobl i garu Crist, a'r trysorau sydd yn yr efengyl. Ac yn olaf, cofiwch amcanu ar i'ch holl bregethau fod yn anogaethol i sancteiddrwydd buchedd." Yn sicr, byddai yn anhawdd cael gwell crynodeb o'r amcanion a ddylai fod yn llywodraethu pregethwyr yr efengyl yn eu gweinidogaeth.
Dro arall, mewn Cymdeithasfa yn y Bala, yn seiat neillduol y pregethwyr, aeth ddadl beth yw y cymhwysder arbenig at y weinidogaeth ag y mae Duw yn roddi i'w wir genhadon? Ai rhagor o'r gras cyffredin, a gyfrenir gan Dduw Dduw mewn rhan i bob Cristion; ynte, a ydyw yn rhoddi yspryd y weinidogaeth fel cymhwysder ar ei ben ei hun? Gwedi i amryw siarad, gofynwyd barn John Evans. Meddai yntau: "Y mae yn rhoddi pob un o'r ddau. Y mae yn rhoddi ychwaneg o ras nag i Gristion cyffredin, ac y mae yn rhoddi yspryd a dawn y weinidogaeth yn ogystal."
Mewn Cymdeithasfa yn y Deheudir, unwaith, trechodd hyd yn nod Jones, Llangan, yr hwn a feddai un o'r tafodau mwyaf llithrig a fu erioed yn Nghymru. Cwyno yr oedd John Evans, nad oedd pregethwyr y Dê ar ei teithiau yn ymweled a'r ddeadell fechan dlawd a ymgynullai yn y Graig, nid yn nepell o Fachynlleth. Atebai Jones, Llangan: "Wel, John Evans, does neb o'r brodyr yno yn dod un amser i'r Gymdeithasfa, i ddywedyd, 'Dewch."" Meddai John Evans yn ol : Wel, Syr, a ydych wedi anghofio ddarfod dywedyd wrthych, Ewch?'" Bu raid i'r gwr o Langan, er ffraethed ydoedd, eistedd i lawr wedi ei lwyr orchfygu; a gwnaeth hyny gyda gwên siriol yn chwareu ar ei wyneb.
Mewn Cymdeithasfa arall, y mater â pha un yr ymdrinid oedd etholedigaeth. Gan nad oedd John Evans yn clywed, gofynodd beth oedd testun yr ymddiddan. Atebwyd, mai etholedigaeth gras. Tybiai yntau, fel yr ymddengys, nad oedd fawr i'w enill wrth ymdrin â phwnc mor ddwfn, ac mai buddiol fyddai siarad ar ryw athrawiaeth fwy ymarferol, a gofynodd drachefn: "A oes yma rywun yn petruso gyda golwg ar y gwirionedd am etholedigaeth? Os nad oes, y mae pethau eraill lawn mor angenrheidiol i'w trin, a phethau y gellir eu profi yn gystal a'u gwybod." Cyfododd John Jones, Edeyrn, ar ei draed, gŵr oedd yn gyforiog o ddawn a ffraethineb, yn ogystal a phregethwr da, a dywedai: "Amaethwr ydwyf fi, John Evans; a phe y baech yn fy ngweled mewn un cae arbenig, ni fyddai hyny yn profi nad oes genyf gaeau eraill." "Gwir," ebai yntau yn ol; "ond mi a allwn yn ddyogel gasglu hyny pe y gwelwn chwi yn yr un cae o hyd." Awgryma yr atebiad fod y pwnc o etholedigaeth yn destun ymdriniaeth yn bur aml, ac yn marn John Evans, fod athrawiaethau eraill, lawn mor bwysig, yn cael eu hesgeuluso.
Yr oedd gwroldeb ei yspryd yn gyfartal i'w ffraethineb, a chadwodd hyny hyd derfyn ei oes. Mewn cynhadledd yn Nghymdeithasfa y Bala, pan yr oedd wedi myned yn floesg, ac yn anhawdd ei ddeall, oblegyd henaint, wrth lefaru troiai ei wyneb at y pregethwyr oeddynt yn eistedd dan y pwlpud. Cyfododd John Elias, gan ei gyfarch: "Trowch eich wyneb at y bobl, John Evans; dywedwch wrth y bobl." Edrychodd yntau ar Mr. Elias, gyda ei olwg lym, dreiddiol, a dywedodd gydag awdurdod: "Beth! Ai nid pobl ydych chwi?" A da gan y gŵr mawr hwnw oedd cael eistedd yn ol, ac ymguddio dan y pwlpud.
Unwaith aeth i Gaer, a chyfarfu Crynwr ag ef ar yr heol. Sylwai hwnw ar ei wisgiad dirodres, ei agweddiad syml, a'i gerddediad pwyllog, a chredodd ei fod yn perthyn i'r un blaid grefyddol ag ef ei hun. Aeth ato, a chan osod ei law ar ei ysgwydd, dywedodd: "Y mae yr Yspryd yn dywedyd wrthyf dy fod yn un o honom ni.' Atebai John Evans ar darawiad: "Os yspryd a ddywedodd hyny wrthyt, yspryd celwyddog ydyw." Aeth y Crynwr ymaith, wedi cael yr ergyd trymaf a allai gael.
Braidd nad oedd John Evans yn rhagori yn y seiat yn hytrach nag yn y pwlpud. Ei arfer oedd taflu gofyniad i hwn, a gofyniad i'r llall, megys: "Pa fodd yr ydych yn teimlo at bechod?" "A ydych