Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi yn newynog ac yn sychedig am gyfiawnder?" "A ydych chwi yn caru yr Arglwydd Iesu?' Os dywedai yr atebydd ei fod yn gobeithio hyny, dywedai yntau yn ol: "Edrychwch ati eich bod yn gywir," a throai at y nesaf. Byddai weithiau yn cael atebion tra digrifol, ond ni fyddai dim yn ei daflu ef o'i le, nac yn cythruddo ei yspryd. Un tro, dywedai hen frawd hynod o syml a diniwed wrtho, o'r enw Rowlant Robert, y Pandy: "John Evans, yr wyf yn credu fod pechod wedi gwneyd lles mawr i mi." "Beth!" ebai yntau; "pechod wedi gwneyd daioni ichwi? Na, yn sicr, ni wnaeth pechod ddaioni i neb erioed." Meddai yr hen Rowlant yn ol "Do, yn wir, John Evans; fe wnaeth ddaioni i mi; y mae wedi fy ngyru i weddio llawer iawn." "Yr ydych yn camgymeryd yn fawr, Rowlant Robert," ebai yntau; "nid yw pechod yn gwneyd dim ond caledu. Os oes rhywbeth yn eich gyru i weddio yn ei erbyn, nid o bechod ei hun y mae hwnw yn tarddu; o'r nefoedd y mae yn dyfod."

Yr oedd yn gwbl argyhoeddedig fod meithder mewn cyfarfodydd crefyddol yn anfuddiol, a safai yn erbyn y cyfryw beth yn benderfynol. Ei air yn wastad oedd: "Ychydig yn fyr, ac i bwrpas." Aml y dywedai: "Pan fyddo y bobl yn dechreu blino y mae yr addoli yn darfod." Yr oedd lawn mor zêlog a hyny dros ddechreu yr odfaeon mewn pryd. Un tro, rhoddodd wers ar hyn i drigolion y Bala, nad anghofiasant tra y bu efe byw. Yr oedd i bregethu yn y capel nos Wener, ac aeth yntau yno at yr eiliad. Rhyw ddau neu dri oedd wedi dyfod yn nghyd, ond dechreuodd ef ar unwaith, ac nid hir y bu cyn dwyn y gwasanaeth i derfyn. Yna, clodd y drws, a gosododd yr agoriad yn ei logell. Ar ei ffordd i'r tŷ, cyfarfyddodd ag amryw yn myned at y capel, y rhai a ofynent iddo: "I ba le yr ewch chwi, John Evans?" "Mi af adref," ebai yntau. "Ai nid ydych yn dyfod i'r odfa?' mae yr odfa trosodd," ebai John Evans, yn bur swrth. Rhoddodd y tro derfyn ar anmhrydlondeb mewn dyfod i foddion gras, yn y Bala, yn ystod ei ddyddiau ef.

Mor onest ydoedd yn ei fasnach, fel y daeth ei gywirdeb yn ddiareb gwlad. Prynodd geffyl unwaith gan gymydog, a thalodd am dano. Yn mhen ychydig wedi hyny, canmolai cymydog arall y fargen, a dywedai fod y ceffyl yn werth punt yn fwy nag oedd efe wedi roddi am dano."Os felly," ebai yntau, "y mae yn gymhwys i'r gŵr gael y bunt," a danfonodd hi iddo yn ddioed. Dro arall, anfonwyd bachgenyn o'r wlad gyda gwer iddo. "Y mae fy nhad yn dweyd," ebai y plentyn, "fod yn rhaid iddo gael hyn a hyn y pwys am dano." "Wel, fy machgen i," meddai John Evans wrtho, "yr wyf yn rhoddi ychwaneg na hyny am y gwer heddyw; caiff dy dad yn ol hyn a hyn." Nid rhyfedd fod ei barch yn y Bala yn fawr, a bod gan yr holl wlad ymddiried diderfyn ynddo.

Yr ydym wedi awgrymu eisioes nad oedd yn boblogaidd iawn parthed doniau, er fod y rhai a roddent fwy o bwys ar sylwedd nag ar swn yn ei fawr hoffi; ond yr oedd yn drefniedydd tra rhagorol. Wrth fod y diwygiad Methodistaidd yn enill tir, a'r gwrandawyr yn lliosogi, daeth galw mawr am adeiladu capelau yn ngwahanol ranau y wlad. Eithr nid oedd yr un cynllun tuag at hyny, nac ond ychydig arian i dalu am danynt. Cynygiodd yntau fod pob aelod yn cyfranu dimai yn yr wythnos, sef chwech a dimai y chwarter, tuag at adeiladu addoldai yn y manau yr oedd angen am danynt. Cymeradwywyd ei gynygiad mewn Cymdeithasfa yn Sir Gaernarfon. "Hyn," meddai ei fywgraffydd, sef y Parch. Simon Llwyd, "oedd dechreuad y casgliad chwarterol." Daeth y casgliad chwarterol, gwedi hyn, yn sefydliad pwysig yn y Gogledd, a diau iddo fod yn foddion i gael capel mewn aml i ardal na chaffai y fraint oni bai hyny." Cafodd John Evans oes faith; bu fyw hyd ymyl ei 94 flwydd, a bu mewn cysylltiad a'r Methodistiaid am yn agos i ddeuddeng-mlynedd-a-thriugain. Gwelodd y Cyfundeb yn cychwyn yn eiddil, yn arbenig yn Ngwynedd, y crefyddwyr yn ychydig mewn rhif, ac yn ddirmygedig ac erlidiedig gan fonedd a gwreng. Gwelodd yr anghydfod poenus yn cychwyn rhwng Rowland a Harris; nid anhebyg ddarfod iddo ef gymeryd rhan yn y ddadl, oblegyd yr oedd yn ŵr rhy ddylanwadol i gael ei adael allan o'r cyfrif, ac y mae bron yn sicr mai wrth Rowland yr ymlynodd. Gwelodd, wedi nos faith a rhewllyd, pan yr oedd crefydd fel pe ar ddarfod o'r tir, wawr diwygiad, blaenffrwyth aml i ddiwygiad a ddilynodd, yn tori ar Gymru, gyda dyfodiad allan emynau anfarwol Williams, Pantycelyn. Gwelodd y saint yn dawnsio mewn gorfoledd yn nhref y Bala, ac yn nghymoedd culion Meirionydd; bu yn