Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
COPI O'R ARGRAFF AR Y GAREG FEDD, YN MYNWENT LLANYCIL.

gwrando ar eu caniadau, ac yn clustfeinio ar eu moliant. Fel rheol, nid oedd ef yn bleidiol i eithafion mewn brwdaniaeth grefyddol; ofnai rhag i dân dyeithr gael ei ddwyn i mewn i gysegr Duw; ond y mae yn sicr fod y diwygiadau Cymreig, y rhai mor eglur oeddynt yn gynyrch uniongyrchol Yspryd Duw, yn llanw ei galon â diolchgarwch. Gwelodd yr ymryson a fu yn mysg y Methodistiaid yn adeg helynt Peter Williams; gan i'r mater fod yn destun ymdriniaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, nis gallai ysgoi gymeryd rhyw ran yn y ddadl. Gwelodd y Parch. Thomas Charles yn ymuno a'r Methodistiaid; canfyddodd ef, a diau ei fod yn ŵr o gynghor iddo yn sefydlu yr Ysgol Sabbothol, a thrwy ei ddylanwad yn rhoddi bod i Gymdeithas y Beiblau. Diau iddo gymeryd rhan yn nadl yr ordeiniad, a hawdd genym gredu mai ei farn ef mewn rhan a ddylanwadodd ar Mr. Charles, fel ag i'w wneyd yn bleidiol i gorph y Methodistiaid neillduo pregethwyr o'u mysg eu hunain i gyflawn waith y weinidogaeth. Y mae yn sicr genym, gan mor uchel ei barch yn yr eglwysi, y buasai efe yn arbenig yn un o'r cyfryw ag a neillduid i'r holl waith, oni bai fod henaint gwedi ei orddiwes, fel na fuasai tywallt y corn olew ar ei ben o unrhyw ddefnydd, oblegyd yr oedd yn bedwar-ugain-ac-wyth oed ar y pryd. Ond er na chafodd ei neillduo, rhoddwyd iddo le blaenllaw yn nghyfarfod yr ordeiniad, yr hwn a gynhaliwyd yn y Bala, Mehefin 19, 1811. Fel hyn y ceir yr hanes yn y Cyffes Ffydd: "Yn gyntaf, y gŵr hynaf a pharchedicaf yn y Corph, John Evans, o'r Bala, a ddarllenodd 1 Tim. iii., ac wrth ei darllen, a wnaeth ychydig sylwadau addas a syml ar y cyneddfau gofynol yn ngweinidogion yr efengyl yn y benod hono; ac