PENOD XLIII.
EBENEZER RICHARD, TREGARON.
Henry Richard, Trefin─Genedigaeth a dygiad i fynu Ebenezer Richard─Ei ymuniad a'r eglwys─Y mae yn symud i Frynhenllan i gadw ysgol─Bron cael ei lethu gan argyhoeddiad─Yn ddyn newydd mewn canlyniad─Yn dechreu pregethu─Jones, Llangan, yn ei holi ef a'i frawd yn Nghyfarfod Misol Sir Benfro─Y mae yn symud i Aberteifi i fod yn athraw i feibion Cadben Bowen─Ei lafur mawr, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol─Ei daith gyntaf i'r Gogledd─Odfa effeithiol yn Nghymdeithasfa y Bala─Ei briodas—Yn symud i Dregaron─Ei ymosodiad ar lygredigaeth y wlad─Ei neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth─Diwygiad 1811─Ei benodi yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa─Mr. Richard yn bregethwr o'r dosparth blaenaf─Yn meddu holl gymhwysderau arweinydd─Ei ddawn gyda'r Ysgol Sabbothol─Ei yspryd cenhadol─Yn nodedig am ei fedr i ysgrifenu llythyrau─Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.
I fendithiwyd Cyfundeb y Methodistiaid yn y Deheudir â gweinidog mwy ffyddlon, a mwy defnyddiol gyda holl ranau gwaith yr Arglwydd, na'r Parch. Ebenezer Richard. Yr oedd yn bregethwr nodedig, yn ddihafal o ran medr gyda'r Ysgol Sabbothol ac fel holwr pwnc, ac yn drefnydd gwych, y goreu a gafwyd yn y Dê oddiar dyddiau Howell Harris. Yn y peth olaf hwn nis gwyddom am neb yn y Cyfundeb yn cystadlu âg ef, oddigerth Howell Harris ei hun, a Mr. Charles. Meddai lygad craff, ewyllys benderfynol, medr arbenig, ac yni diderfyn. Trwy ei ragofal, a'i ymdrech ef tuhwnt i neb arall, meddianwyd rhan uchaf Sir Aberteifi gan Fethodistiaeth, ac yn ei meddiant y mae hyd y dydd heddyw. Drwg genym nas meddwn lawer o hanes y gweinidog enwog hwn. Cyhoeddwyd Bywgraffiad iddo gan ei feibion, yn bur fuan gwedi iddo farw; ond gwneir y llyfr i fynu yn benaf o lythyrau a ysgrifenwyd ganddo, ac a anfonwyd ato, fel y mae hanes ei oes lafurus, i raddau mawr, wedi myned ar goll. Rhaid i ni bellach wneyd y goreu o'r defnyddiau a feddwn.
Mab ydoedd i Henry Richard, yr hynaf iddo o Hannah, ei ail wraig. Cawsai Mr. Richard ddau fab o'i wraig gyntaf, sef John a William, y rhai a dreuliasant eu hoes yn Sir Benfro. Bu hefyd iddo, o'i wraig Hannah, ar ol geni Ebenezer, ddau o blant, sef Thomas, a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru fel y Parch. Thomas Richard, Abergwaun, a merch o'r enw Mary. Tipyn o gynghorwr, ac ysgolfeistr gyda hyny, oedd Henry Richard. Bu yn cadw ysgol Madam Bevan mewn amryw fanau yn y Gogledd ac yn y Dê. Nid oedd iddo ddinas barhaus yn un man, a hyny yn un peth am mai symudol oedd yr ysgol, ac na oddefid iddi aros yn hir mewn unrhyw ardal; a pheth arall, yr oedd yntau yn ormod o Fethodist i foddhau y y clerigwyr. A Methodist y cyfenwid pawb y pryd hwnw os byddai yn efengylaidd ei syniadau, yn arwain buchedd sanctaidd, ac yn ymgais at achub eneidiau ei gyd-ddynion. Ymddengys mai byr oedd ei ddawn pregethu, ond ei fod yn hynod fel gweddiwr. Yr ydym yn ei gael, tua'r flwyddyn 1767, yn cadw ysgol yn mhlwyf Llanaber, nid yn nepell o'r Abermaw. Dywed Methodistiaeth Cymru nad oedd yn pregethu y pryd hwn, ond y byddai yn gweddio yn hynod yn mysg y plant, yn rhybuddio yn hallt yn erbyn pob anfoes ac afreolaeth, ac yn ceisio arwain meddwl y bobl at eu mater tragywyddol. Nis gellid goddef i ŵr fel hyn aros yn hir yn yr ardal, a buan y cafodd ei yru ymaith, rhag iddo lygru y gymydogaeth, a dwyn pawb i feddwl am grefydd fel yntau. Ond yr ydoedd yn rhy ddiweddar; cawsai y surdoes ei osod yn y blawd eisioes. Cynghorion yr ysgolfeistr, fel hâd yn cael ei daflu i'r ddaear, oeddent yn barod wedi gafaelu yn nheulu un Robert Griffith, o'r