Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi iddo ddarfod darllen, gweddïodd ar yr achos, yn syml ac yn addas iawn." Prawf yr adroddiad mor uchel oedd y lle a feddai yn syniadau goreugwyr y Cyfundeb. Cafodd John Evans oes faith. Gwelodd y bobl a ddirmygid yn lliosogi, yn dwyn eu gwahanol ffurfiau o weithgarwch i drefn, ac yn dyfod yn barchus yn ngolwg eu herlidwyr gynt, gan gael eu cydnabod fel y gallu crefyddol cryfaf yn y Dywysogaeth. Braidd nad ydyw cysylltiad John Evans a'r Cyfundeb yn ymestyn dros haner hyd ei oes, o'i ddechreuad hyd y dydd hwn. Gan iddo gael oes mor faith, a'i fod yn ŵr mor sylwgar, nis gallesid cael ei gyffelyb i adrodd hanes y diwygiad Methodistaidd, cyflwr y wlad cyn i'r diwygiad dori allan, a'r dylanwad a gafodd er newid moes, a chrefyddoli y Cymry. Da genym iddo wneyd llawer yn y cyfeiriad hwn, trwy ei adroddiad i Mr. Charles, yr hwn yntau a'i cyhoeddodd yn y Drysorfa Ysprydol, ar ffurf ymddiddan rhwng Senex a Scrutator. Llafuriodd yn ddiwyd gyda ei alwedigaeth nes yr oedd dros 90 mlwydd oed, a chwedi iddo fethu, cafodd ei gynal yn barchus gan y brodyr yn Sir Feirionydd. Yn ei flynyddoedd olaf yr oedd ei glyw mor drwm, fel na ddeallai air o'r hyn a leferid yn y capel; ond rhoddai ei bresenoldeb gyda'r cysondeb mwyaf yn yr addoliad cyhoeddus; a phan ofynid iddo y rheswm paham, dywedai: "Yr wyf yn myned i'r cysegr i addoli yr Arglwydd." Ei afiechyd olaf oedd gwywdra, a lleithder yr ymenydd. Parai hyn beth dyryswch. ar ei synwyr ar amserau. Ond rywsut, yr oedd ei synwyr crefyddol heb ei amharu hyd y diwedd. Aeth ei gyfeillion i ymweled ag ef un tro, a chawsant ef mewn cryn helbul meddwl rhag na wnelai yr Arglwydd Iesu ei dderbyn. Crybwyllodd un o honynt wrtho eiriau y Gwaredwr: "Y neb a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Cydiodd yn y geiriau; ac meddai, gyda dwylaw plethedig, a'r dagrau yn llenwi ei lygaid: "Beth a wna pechadur tlawd o'm bath i yn well nag ymaflyd yn yr addewid werthfawr yna?' Dro arall, gofynai cyfaill iddo pa fodd yr oedd yn teimlo. Atebai yntau: "Yr wyf yn bur ddiboen, ac yr wyf yn cael amser da yn fy saldra; er hyny, yr wyf yn meddwl fod angau yn agos, ond y mae fy amser yn llaw yr Arglwydd. Y mae yn well arnaf fi nag oedd ar Iesu o Nazareth. Llawer diwrnod blin, a llawer noswaith flin, a gafodd efe; ond yr wyf fi yn cael amser tirion iawn. Llawer loes chwerw a gafodd yr Iesu yn nyddiau ei gnawd; ond myfi, er haeddu gwialenodau, sydd yn cael trugareddau.' Bu farw mewn tangnefedd, Awst 12, 1817, a rhoddwyd ef i orwedd yn mynwent Llanycil, ar lan llyn Tegid.

HANES Y DARLUNIAU.

Ymddengys nad oes ond un darlun o'r Hybarch John Evans, o'r Bala, mewn bod, sef yr un a gymerwyd o hono gan Mr. Hugh Hughes, yr arlunydd o Gaernarfon, yn y flwyddyn 1812. Darfu i Mr. Hughes gymeryd darluniau o amryw o brif bregethwyr ei ddydd, heblaw un John Evans, megys Robert Dafydd, Brynengan; John Elias, o Fôn, ac eraill. Darlun ar ganfas ydyw, wedi ei arlunio mewn olew, ac y mae yn bresenol mewn cadwraeth ofalus yn Athrofa y Bala. Bu ar goll am flynyddau lawer, ac i'r Parchedig Hugh Williams, M.A., o'r Bala, yr ydym yn ddyledus am ei ddarganfod, a'i adfer. Yn nhreigliad amser disgynodd y darlun i ddwylaw pobl yn y Bala, nad oeddynt yn gwybod gwerth yr hyn oedd yn eu meddiant. Gwnaed ef ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Charles; a phan gymerir i ystyriaeth fod yr arlunydd yn fab-yn-nghyfraith i'r Parch. David Charles, Caerfyrddin, nid ymddengys yn anhebygol fod gan Mr. Charles, o'r Bala, law yn y gwaith. Dichon yr amcanai gael y darlun wedi ei gerfio ar ddur, a'i osod yn Y Drysorfa, sef y cylchgrawn a olygid ganddo. Os felly, rhwystrwyd ef gan angau i ddwyn ei amcan i ben. Bu farw Mr. Charles yn 1814, ac yr oedd Y Drysorfa wedi peidio ymddangos flwyddyn cyn i'r amgylchiad hwnw gymeryd lle. Pan ymddangosodd Y Drysorfa eilwaith, sef yn y flwyddyn 1819, dan olygiad y Parch. Simon Lloyd, cawn ddarlun ynddi o John Evans. Copi o'r darlun a geir yno, ydyw yr un sydd yn addurno y gwaith hwn. Y mae yn gerfiedig dan y darlun yn Y Drysorfa y geiriau canlynol:—"MR. JOHN EVANS, O'R BALA. Rhodd H. Hughes i ddarllenwyr y Drysorfa."