PENOD XXIII.
ROBERT ROBERTS, CLYNOG.
Rhieni Robert Roberts—Yn tyfu yn fachgen gwyllt—Yn cael ei argyhoeddi dan Jones, Llangan— Dyfnder ei ofid—Yn cyfranogi yn helaeth o'r adfywiad—Ei afiechyd—Yn dechreu pregethu— Yn dyfod yn boblogaidd ar unwaith—Nerthoedd yn cydfyned a'i weinidogaeth—Desgrifiad Dewi Wyn o Eifion o hono—Desgrifiad Eben Fardd—Desgrifiad Dr. Thomas—Difyniadau o'i bregethau Ei farwolaeth.
ROBERT ROBERTS oedd y pregethwr cyntaf yn mysg y Methodistiaid yn Ngwynedd, a ymddyrchafodd i fysg cewri y pwlpud, ac a enillodd iddo ei hun enwogrwydd cyffredinol trwy Ddê a Gogledd, fel un o bregethwyr mwyaf dylanwadol ei oes; ac y mae yn amheus a ragorodd neb arno mewn effeithiolrwydd, a nerth, mewn unrhyw oes. Prin yr ystyriai yr hen bobl ef yn gyfartal i Rowland; ond dywedent mai efe oedd y tebycaf i Rowland o bawb. "Cynghorwr oedd y term y pryd hwnw am bregethwr diurddau, ond ni feddyliodd neb am alw Robert Roberts wrth y cyfryw enw. Cydnabyddid ef yn bregethwr yn llawn ystyr y gair. Cymharol fer a fu ei oes; ber lawn a fu ei oes weinidogaethol, prin pymtheg mlynedd; ond yn ystod y cyfnod hwn ysgydwodd Cymru i'w gwraidd. Cyffelybwyd ef i losg-fynydd mawr, geudod yr hwn yr ymarllwysai lava llosgedig yn ffrydiau ofnadwy, nes gosod cymydogaethau yn oddaeth. Oblegyd y safle a gyrhaeddwyd ganddo, ac iddo farw yn gynarol, yr ydym yn ei osod i mewn ryw gymaint yn flaenorol i'w safle amseryddol. Yr ydym wedi gorfod achwyn mewn cysylltiad â rhai o'r Tadau fod boreu eu hoes yn gorwedd dan leni o dywyllwch ; nid yw felly gyda golwg ar Robert Roberts; ysgrifenwyd math o gofiant iddo gan ei nai, y Parch. Michael Roberts; ond y mae y cofiant yn llawer rhy fyr, ac nid yw yn rhoddi nemawr o fanylion am ei oes bregethwrol, a'r odfaeon rhyfedd a gafodd. Traddodiad gwlad, a chof hen bobl, sydd wedi dyogelu yr hyn sydd ar gael o'r hanesion hyny. Modd bynag, yn y flwyddyn 1884, casglodd y Parch. Griffith Parry, D.D., yn nghyd yr holl friwsion gwasgaredig a ellid gael, gan ychwanegu sylwadau tra rhagorol o'i eiddo ei hun ar athrylith a nodweddion ei weinidogaeth. Ganwyd Robert Roberts mewn lle a elwir Ffridd-bala-deulyn, plwyf Llanllyfni, Sir Gaernarfon, Medi 12, 1762. Perthyna felly i'r ail dò o bregethwyr y Methodistiaid. Cadwesid Cymdeithasfa gyntaf Watford bedair-blynedd-ar-bymtheg_cyn iddo ef gael ei eni. Yr oedd Daniel Rowland naw-mlynedd-a-deugain yn hynach nag ef, ac wedi bod wrthi yn cyhoeddi dystryw ar anwir fyd am saith-mlyneddar-hugain cyn i Robert Roberts wneyd ei ymddangosiad ar y ddaear. Mab ydoedd Robert, yr ieuangaf o dri-ar-ddeg o blant, i Robert Thomas a Catherine Jones; oblegyd hyd yn ddiweddar, yn y Gogledd, byddai y wraig yn cadw ei henw morwynol ar ol priodi. Pan yr ydoedd yn faban, daeth y tad a'r fam dan ddylanwad yr efengyl, ac ymunasant a'r ychydig Fethodistiaid a ymgynullent i addoli yn y Buarthau, plwyf Llanllyfni. Dywed Dr. Owen Thomas iddynt yn fuan agor eu tŷ i dderbyn yr efengyl, ac i bregethu fod ynddo am ddeuddeg-mlynedd-a-deugain. Arferai y tad gadw dyledswydd deuluaidd gyda phob cysondeb; ac heblaw darllen a gweddio, ymunai yr holl deulu i ganu salm neu emyn. Ar y cyntaf, nid oedd gan Robert Thomas ymddiried yn ei ddawn; felly, darllen ffurf-weddi allan o lyfr y Parch. Griffith Jones a wnelai; ond gwedi talm o amser, taflodd y llyfr y naill du, a dygwyd yr addoliad yn mlaen gyda mwy o fywiogrwydd. Yr oedd yn hynod ofalus am ei deulu. Byddai y nos, wedi gorphen llafur y diwrnod, yn cadw math o ysgol i'w blant yn ei dy, ac yn eu dysgu i ddarllen Gair Duw. Treuliai gyfran o'r